Shirley Temple
Shirley Temple | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Shirley Temple ![]() 23 Ebrill 1928 ![]() Santa Monica ![]() |
Bu farw | 10 Chwefror 2014 ![]() o clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ![]() Woodside ![]() |
Label recordio | RCA Victor ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, canwr, diplomydd, actor plentyn, dawnsiwr, actor teledu, gwleidydd ![]() |
Swydd | United States Ambassador to Ghana, United States Ambassador to Czechoslovakia, Chief of Protocol of the United States ![]() |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol ![]() |
Tad | George Francis Temple ![]() |
Mam | Gertrude Amelia Temple ![]() |
Priod | John Agar, Charles Alden Black ![]() |
Plant | Lori Black ![]() |
Gwobr/au | Academy Juvenile Award, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Anrhydedd y Kennedy Center, honorary citizen of Plzeň, Golden Plate Award, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood ![]() |
Gwefan | https://www.shirleytemple.com/ ![]() |
Llofnod | |
Actores a dawnswraig Americanaidd a ddaeth yn enwog fel actores ifanc eiconig yn y 1930au ac a dreuliodd gyfnod fel diplomydd a llysgenhad fel oedolyn oedd Shirley Jane Temple (23 Ebrill 1928 – 10 Chwefror 2014). Dan ei henw llwyfan Shirley Temple, roedd hi'n un o ffigurau mwyaf adnabyddus America yn ystod y Dirwasgiad Mawr gan serennu mewn sawl ffilm Hollywood sentimentalaidd.
Cafodd ei eni yn Santa Monica, Califfornia, UDA. Rhydhaodd sawl cân lwyddiannus iawn, wedi'u cymryd o'i ffilmiau, yn cynnwys On the Good Ship Lolipop.
Mae sawl beirniad, yn cynnwys y nofelydd Graham Greene, wedi gweld ffimiau cynnar Temple fel enghreifftiau honedig o'r ffordd roedd Hollywood yn rhywiolaethu actorion ac actoresau ifainc. Ysbydolwyd Salvador Dalí i greu'r darlun Shirley Temple, Anghenfil Sinema Mwyaf Ifanc, Mwyaf Sanctaidd, ei Hoes (teitl Saesneg arferol: Shirley Temple, The Youngest, Most Sacred Monster of the Cinema in Her Time) sy'n portreadu Temple fel sffincs.