Shirley Temple, Anghenfil Sinema Ieuangaf, Sancteiddiaf, ei Hoes

Oddi ar Wicipedia
Shirley Temple, Anghenfil Sinema Ieuangaf, Sancteiddiaf, ei Hoes, gan Salvador Dalí.

Peintiad a grewyd yn 1939 gan yr artist Swrealaidd Salvador Dalí yw Shirley Temple, Anghenfil Sinema Ieuangaf, Sancteiddiaf, ei Hoes neu Sffincs Barcelona. Mae i'w weld yn Museum Boijmans Van Beuningen, yn Rotterdam, Yr Iseldiroedd.

Mae sawl beirniad, yn cynnwys y nofelydd Graham Greene, wedi gweld ffilmiau cynnar yr actores Shirley Temple fel enghreifftiau honedig o'r ffordd mae stiwdios Hollywood yn rhywiolaethu actorion ac actoresau ifainc, a hynny mewn ffordd ragrithiol gan eu bod ar yr un pryd yn sôn am hyrwyddo gwerthoedd teuluol ac yn geidwadol. Ysbydolwyd Salvador Dalí i greu'r darlun Shirley Temple, Anghenfil Sinema Ieuangaf, Sancteiddiaf, ei Hoes (teitl Saesneg arferol: Shirley Temple, The Youngest, Most Sacred Monster of the Cinema in Her Time), sy'n portreadu Temple fel sffincs, i ddarlunio'r syniad.

Mae'r gwaith celf yn dangos pen Shirley Temple, gan ddefnyddio llun a dorwyd o bapur newydd, wedi ei osod ar gorff llewes goch gyda bronnau amlwg a chrafangau gwyn. Ceir ystlum ar ei phen. Yn amgylchynnu'r Shirley-lewes ceir penglog ac esgyrn dynol. Wrth waelod y darlun ceir label trompe-l'œil sy'n darllen: "Shirley!. at last in Technicolor."