Malala Yousafzai

Oddi ar Wicipedia
Malala Yousafzai
FfugenwGul Makai Edit this on Wikidata
Ganwyd12 Gorffennaf 1997 Edit this on Wikidata
Mingora Edit this on Wikidata
Man preswylBirmingham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Pacistan Pacistan
Alma mater
Galwedigaethblogiwr, amddiffynnwr hawliau dynol, bywgraffydd, ysgrifennwr, cyfranogwr fforwm rhyngwladol, ymgyrchydd dros hawliau merched Edit this on Wikidata
MudiadHawliau plant, hawliau menywod Edit this on Wikidata
TadZiauddin Yousafzai Edit this on Wikidata
MamToorpekai Yousafzai Edit this on Wikidata
PriodAsser Malik Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, Gwobr Sakharov, Gwobr Simone de Beauvoir, National Malala Peace Prize, Gwobr Anna Politkovskaya, Gwobr y Cenhedloedd Unedig am waith gyda Iawnderau Dynol, Gwobr Hawliau Dynol Ewropeaidd, Four Freedoms Award – Freedom from Fear, Philadelphia Liberty Medal, International Children's Peace Prize, Index Award, Gwobr Llysgennad Cydwybod, Seciwlarydd y Flwyddyn, Gwobr Ryngwladol Catalwnia, Dyngarwr y Flwyddyn, honorary Canadian citizenship, Urdd y Wên, Ellis Island Medal of Honor, Gwobr 100 Merch y BBC, Commander of the Order of Bravery, Gwobr Time 100, Memminger Freedom Prize 1525, Jane Addams Children's Book Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.malala.org/ Edit this on Wikidata

Merch ysgol Bacistanaidd yw Malala Yousafzai (ganwyd 12 Gorffennaf 1997)[1], sy'n ymgyrchu dros addysg i ferched ac hawliau dynol a'r ieuengaf erioed i dderbyn Gwobr Heddwch Nobel.

Yn 2009 ysgrifennodd flog i'r BBC gan ddisgrifio'i bywyd o dan reolaeth y Taleban yn Nyffryn Swat.[2] Ar 9 Hydref 2012 cafodd Malala ei saethu yn ei phen gan y Taleban.[3] Cafodd ei thrin mewn ysbyty yn Birmingham, Lloegr, ac erbyn mis Mawrth 2013 dychwelodd i ysgol gan fynychu Ysgol Uwchradd Edgbaston yn Birmingham.[4]

Malala Yousafzai yn yr Oval Office, 11 Hydref 2013.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Ar 12 Gorffennaf 2013, siaradodd Yousafzai ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig gan alw am fynediad rhwydd i bawb i'r byd addysg, ac ym Medi 2013 fe agorodd Llyfrgell newydd Birmingham yn swyddogol.[5] Hi yw'r ieuengaf erioed i ennill y Wobr Sakharov (2013), ac yn Hydref yr un flwyddyn fe'i hurddwyd gan Lywodraeth Canada fel 'Dinesydd Anrhydeddus'.[6] Yn Chwefror 2014 fe'i henwebwyd am Wobr y Plant yn Sweden.[7] Ar 15 Mai derbyniodd doethuriaeth anrhydeddus gan University of King's College, Halifax.[8]

Ymddengys nad yw'r fyddin yn malio dim am amddiffyn ysgolion nes eu bod wedi eu dymchwel a'u cau. Pe baent wedi gwneud eu gwaith yn iawn fyddai'r sefyllfa yma erioed wedi codi.

Malala Yousafzai 24 Ionawr 2009 blog y BBC[9]

Dethlir "Diwrnod Malala" ar 10 Tachwedd gan y Cenhedloedd Unedig.[10][11] Cafodd ei henwebu am Wobr Heddwch Nobel 2014, ar y cyd gyda Kailash Satyarthi, ymgyrchydd arall dros hawliau plant, hefyd o Bacistan.[12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Pakistani girl shot by Taliban able to stand, doctors say. CBC (19 Hydref 2012). Adalwyd ar 19 Mawrth 2013. "Officials in the Swat Valley originally said Malala was 14 years old but officials at her school confirmed that her birthday was July 12, 1997, making her 15."
  2. (Saesneg) Diary of a Pakistani schoolgirl. BBC (19 Ionawr 2009). Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.
  3. (Saesneg) Boone, Jon (10 Hydref 2012). Malala Yousafzai: Pakistan Taliban causes revulsion by shooting girl who spoke out. The Guardian. Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.
  4. (Saesneg) Malala Yousafzai attends first day at Edgbaston High School in Birmingham. BBC (19 Mawrth 2013). Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.
  5. Malala Yousafzai opens new library in Birmingham and declares: 'books will defeat terrorism' (en) , Daily Telegraph, 3 Medi 2013.
  6. Canadian Press (16 Hydref 2012). "Malala Yousafzai Receiving Honorary Canadian Citizenship Wednesday". Huffington Post Canada. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-16. Cyrchwyd 16 Hydref 2012.
  7. "Malala nominated for 'Children's Nobel Prize'". The Hindu. ANI. 7 Chwefror 2014. Cyrchwyd 11 Hydref 2014.
  8. (Saesneg) Malala Yousafzai Becomes Youngest-Ever Nobel Prize Winner (10 Hydref 2014). Adalwyd ar 11 Hydref 2014.
  9. "Swat: Diary of a Pakistani schoolgirl (Malala Yousafzai) – BBC". original Urdu and English translation of Yousufzai's blog. LUBP. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-15. Cyrchwyd 16 October 2012.
  10. (Saesneg) Malala Day. Swyddfa Cennad Arbennig y Cenhedloedd Unedig dros Addysg Fyd-eang. Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.
  11. (Saesneg) World celebrates November 10 as 'Malala Day', UN chief extends support. The Times of India (10 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.
  12. (Saesneg) Huus, Kari (1 Chwefror 2013). Malala, teen champion of girls' rights, nominated for Nobel Peace Prize. NBC News. Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.