Fosco Maraini

Oddi ar Wicipedia
Fosco Maraini
Ganwyd15 Tachwedd 1912 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mehefin 2004 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal, Teyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Fflorens Edit this on Wikidata
Galwedigaethanthropolegydd, bardd, ffotograffydd, ysgrifennwr, dringwr mynyddoedd, athro, gwyddonydd, dogfennwr Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGiuseppe Tucci Edit this on Wikidata
TadAntonio Maraini Edit this on Wikidata
MamYoï Crosse Edit this on Wikidata
PriodTopazia Alliata Edit this on Wikidata
PlantDacia Maraini, Yuki Maraini, Toni Maraini Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Wawr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.foscomaraini.net Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Ethnolegydd, ffotograffydd, anthropolegydd, awdur llyfrau taith, mynyddwr ac academydd o'r Eidal oedd Fosco Maraini (15 Tachwedd 1912, Fflorens8 Mehefin 2004, Fflorens). Arbenigai ar hanes a diwylliant Tibet a Siapan ac mae ei lyfrau, a addurnir â'i ffotograffau ei hun, wedi cael ei gyfieithu i sawl iaith.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Aeth i Japan yn 1938 a dysgodd ym mhrifysgolion Hokkaido (1938-1941) a Kyoto (1941-1943). Pan ymunodd Japan yn yr Ail Ryfel Byd cafodd ei gadw fel carcharor sifil yn Nagoya (1943-1946). Dychwelodd i Siapan yn 1953 am ddwy flynedd ac ysgrifennodd un o'i gyfrolau enwocaf Ore Giapponesi (1959).

Gyda'r Tibetolegydd Giuseppe Tucci, aeth ar ddwy daith i Dibet, yn 1937 ac eto yn 1948. Ystyrir ei lyfr ar Dibet, a gyfieithwyd i'r Saesneg dan y teitl Secret Tibet, yn glasur o'i fath ac yn ffynhonnell bwysig am bobl a diwylliant Tibet cyn goresgyniad y wlad gan Tsieina yn y 1950au. Mae'n cofnodi taith dros fwlch y Nathu La o Sikkim i Lhasa gyda Giuseppe Tucci yn 1948.

Roedd ei yrfa fel academydd yn cynnwys cyfnod fel Cymrawd o Goleg Sant Andreas, Rhydychen (1959-1964) a darlithydd yn y Siapaneg a llenyddiaeth Siapaneg ym mhrifysgol Fflorens (1972-1983).

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

  1. Secret Tibet (1952)
  2. Ore Giapponesi (1959)
  3. G4-Karakorum (1959)
  4. Meeting with Japan (1960)
  5. L'Isola delle Pescatrici (1960)
  6. Paropàmiso (1963). English version: Where Four Worlds Meet: Hindu Kush 1959 (1964)
  7. Tokyo (1976)
  8. The Island of the Fisherwomen (1962)
  9. Jerusalem: Rock of Ages (1969), Photography by Alfred Bernheim and Ricarda Schwerin; Translated by Judith Landry; New York: Harcourt, #Brace and World, Inc.
  10. Patterns of Continuity (1971)
  11. Gnosi delle Fànfole (1994)
  12. Nuvolario (1995)
  13. Case, amori, universi (2000)

Dolen allanol[golygu | golygu cod]