Neidio i'r cynnwys

Giuseppe Tucci

Oddi ar Wicipedia
Giuseppe Tucci
Tucci yn yfed te Tibetaidd yn Nhibet.
Ganwyd5 Mehefin 1894 Edit this on Wikidata
Macerata Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ebrill 1984 Edit this on Wikidata
San Polo dei Cavalieri Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal, Teyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Calcutta
  • Prifysgol Visva-Bharati
  • Prifysgol La Sapienza Edit this on Wikidata
Galwedigaethanthropolegydd, archeolegydd, hanesydd celf Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Calcutta
  • Prifysgol La Sapienza Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Gwobr Balza, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal Edit this on Wikidata

Ysgolhaig o'r Eidal a arbenigai yn niwylliant Tibet a hanes Bwdhaeth oedd Giuseppe Tucci (5 Mehefin 18945 Ebrill 1984). Yn ieithydd amryddawn, roedd yn rhugl mewn sawl iaith Ewropeaidd, Sansgrit, Bengaleg, Pali, Prakrit, Tsieinaeg a Tibeteg. Bu'n athro ym Mhrifysgol Rhufain La Sapienza. Ysgrifennodd sawl cyfrol ar ddiwylliant a hanes yr Asia Fwdhaidd.

Ei fywyd a'i waith

[golygu | golygu cod]

Magwyd Tucci ar aelwyd dosbarth canol ym Macerata, Marche. Dangosodd ei athrylith yn ifanc gan ddysgu Hebraeg, Tsieinaeg a Sansgrit cyn mynd yn fyfyriwr prifysgol hyd yn oed. Astudiodd ym Mhrifysgol Rhufain La Sapienza hyd 1919.

Ar ôl graddio, aeth i India ac ymsefydlodd yn Mhrifysgol Visva-Bharati, a sefydlwyd gan y llenor ac athronydd enwog o Fengal, Rabindranath Tagore. Yno aeth Tucci ati i astudio Bwdhaeth, Tibeteg a Bengaleg, a bu'n athro Eidaleg a Tsieinaeg yno hefyd. Aeth ymlaen i astudio a dysgu ym Mhrifysgol Dhaka, Prifysgol Benares a Phrifysgol Calcutta. Dychwelodd i'r Eidal yn 1931.

Cydnabyddir mai Tucci oedd prif ysgolhaig Dwyreiniol yr Eidal yn yr 20g. Cyhoeddodd nifer o erthyglau a llyfrau, ffrwyth ei ymchwil a theithiau yn Asia. Dysgodd yn bennaf ym Mhrifysgol Rhufain ond bu'n gweithio'n achlysurol hefyd mewn sawl sefydliad arall yn Ewrop ac Asia. Yn 1931, cafodd gadair Tsieinaeg ac athroniaeth Tsieinïaidd ym Mhrifysgol Napoli. Yn 1933, gyda'r athronydd Giovanni Gentile, sefydlodd yr Istituto italiano per il Medio ed Estremo Oriente yn Rhufain. Trefnodd ac arweiniodd sawl taith archaeoloegol i Asia, i Swat (Pacistan), Ghazni (Affganistan), Persepolis (Iran) a'r Himalaya. Aeth ar sawl taith i Dibet: codnodir ei daith yno yn 1948 gan ei gyfaill a chydwladwr Fosco Maraini, yr ethnolegydd dawnus ac awdur llyfrau taith. Cyfranodd Tucci yn sylweddol at sefydlu a chynnal y Museo Nazionale d'Arte Orientale yn Rhufain, sy'n gartref i ran o gasgliad Tucci heddiw. Yn 1978 dernbyniodd Gwobr Jawaharlal Nehru am hyrwyddo cyd-dealltwriaeth ryngwladol.

Yn ystod ei fywyd ysgrifennodd Tucci dros 360 o lyfrau ac erthyglau academaidd. Bu farw yn San Polo dei Cavalieri, ger Rhufain, yn 1984.

Llyfryddiaeth ddethol

[golygu | golygu cod]
  • Indo-tibetica 1: Mc'od rten e ts'a ts'a nel Tibet indiano ed occidentale: contributo allo studio dell'arte religiosa tibetana e del suo significato, Roma, Reale Accademia d'Italia, 1932;
  • Indo-tibetica 2: Rin c'en bzan po e la rinascita del buddhismo nel Tibet intorno al Mille, Roma, Reale Accademia d'Italia, 1933 (Rin-chen-bzan-po and the renaissance of Buddhism in Tibet around the millennium, New Delhi, Aditya Prakashan, [1988]);
  • (gyda E. Ghersi) Cronaca della missione scientifica Tucci nel Tibet occidentale (1933), Roma, Reale Accademia d'Italia, 1934 (Secrets of Tibet. Being the chronicle of the Tucci Scientific Expedition to Western Tibet, 1933, Blackie & Son, 1935);
  • Indo-tibetica 3 : I templi del Tibet occidentale e il loro simbolismo artistico, 2 gyf, Roma, Reale Accademia d'Italia, 1935-1936;
  • Santi e briganti nel Tibet ignoto: diario della spedizione nel Tibet occidentale 1935, Milano, U. Hoepli, 1937;
  • Indo-tibetica 4: Gyantse ed i suoi monasteri, 3 vols, Roma, Reale Accademia d'Italia, 1941 (Gyantse and its monasteries, New Delhi, Aditya Prakashan, 1989);
  • Asia religiosa, Roma, Partenia, 1946;
  • Tibetan Painted Scrolls, 3 cyf, Roma, Istituto Poligrafico e Zecca dello Stato, 1949;
  • Teoria e pratica del Mandala, Roma, Astrolabio, 1949 (English transl.: The theory and practice of the Mandala, London, Rider and Co., 1961);
  • Italia e Oriente, Milano, Garzanti, 1949;
  • Tibetan folksongs from the district of Gyantse, Ascona, Artibus Asiae, 1949;
  • The Tombs of the Tibetan Kings, Roma, IsMEO, 1950;
  • A Lhasa e oltre, Roma, La Libreria dello Stato, 1950 (To Lhasa and beyond, Roma, La Libreria dello Stato, 1956);
  • Tra giungle e pagode, Roma, La Libreria dello Stato, 1953;
  • Preliminary report on two scientific expeditions in Nepal, Roma, IsMEO, 1956;
  • Storia della filosofia indiana, Bari, Laterza, 1957;
  • Nepal: alla scoperta dei Malla, Bari, Leonardo da Vinci, 1960 (Nepal. The discovery of the Malla, George Allen & Unwin, 1962);
  • Die Religionen Tibets yn G. Tucci a W. Heissig, Die Religionen Tibets und der Mongolei, Stuttgart, W. Kohlhammer, 1970 (The religions of Tibet, Routledge & Kegan Paul, 1980).

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]