Persepolis
| Math | dinas hynafol, safle archaeolegol, priodwedd cenedlaethol, tirnod |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Persiaid, Jamshid |
| Sefydlwyd |
|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Kenareh Rural District |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 12.5 ha |
| Uwch y môr | 1,627 metr |
| Cyfesurynnau | 29.935°N 52.89°E |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | Achaemenid architecture |
| Statws treftadaeth | Iranian National Heritage, Safle Treftadaeth y Byd |
| Manylion | |
Prifddinas seremonïol Ymerodraeth Persia yn y cyfnod Achaemenaidd oedd Persepolis (Hen Berseg: Pārsa, Perseg: تخت جمشید/پارسه, Takht-e Jamshid neu Chehel Minar). Daw'r ffurf "Persepolis" o'r Groeg Πέρσης πόλις (Dinas Persēs). Saif yn yr hyn sy'n awr yn dde Iran, gerllaw mynyddoedd Zagros.
Credir i Cyrus Fawr ddewis safle Persepolis, ond mai yn nheyrnasiad Darius I yr adeiladwyd y rhan fwyaf ohoni, yn arbennig Palas Apadana a'r adeiladau amgylchynol.
Yma yr oedd prif drysorfa'r ymerodraeth, a phan gipiwyd y ddinas gan Alecsander Fawr yn 330 CC roedd trysor enfawr yma. Rai misoedd yn ddiweddarch, llosgwyd Persepolis; nid oes sicrwydd a oedd hyn yn ddamweiniol neu'n fwriadol, efallai fel dial am losgi Athen gan y Persiaid yn ystod Rhyfeloedd Groeg a Phersia.

