Giovanni Gentile

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Giovanni Gentile
Giovanni Gentile.png
GanwydGiovanni Gentile Edit this on Wikidata
29 Mai 1875 Edit this on Wikidata
Castelvetrano Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ebrill 1944 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhiniaeth yr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Scuola Normale Superiore
  • Prifysgol Pisa
  • Prifysgol Fflorens Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, addysgwr, gwleidydd, athro cadeiriol, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Swyddminister of Public Education of the Kingdom of Italy, Director of the Scuola Normale Superiore, Director of the Scuola Normale Superiore, senator of the Kingdom of Italy, Director of the Scuola Normale Superiore Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol La Sapienza
  • Prifysgol Palermo
  • Prifysgol Pisa
  • Scuola Normale Superiore Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGeorg Hegel Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ffasgaidd Genedlaethol Edit this on Wikidata
MudiadHegelianism Edit this on Wikidata
PlantGiovanni Gentile Edit this on Wikidata
Gwobr/auSerena Medal, Gautieri Award Edit this on Wikidata

Athronydd, gwleidydd, addysgwr, a golygydd o Eidalwr oedd Giovanni Gentile (30 Mai 187515 Ebrill 1944) a fu'n feddyliwr blaenllaw yn y mudiad ffasgaidd ac athroniaeth idealaidd yn yr Eidal.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed yn Castelvetrano yng ngorllewin Sisili ar 30 Mai 1875. Astudiodd yn y Scuola Normale Superiore yn Pisa. Cyhoeddodd ei weithiau cyntaf yn niwedd y 1890au, gan gynnwys La filosofia di Marx (1899). Cyfarfu â Benedetto Croce, ac o 1903 i 1922 cyd-olygasant y cyfnodolyn La Critica. Buont yn gyfeillion nes iddynt anghytuno dros ffasgaeth yn 1924.[1]

Penodwyd Gentile yn athro hanes athroniaeth ym Mhrifysgol Rhufain yn 1917. Gweithiodd yn swydd gweinidog addysg yn llywodraeth Benito Mussolini o Hydref 1922 i Orffennaf 1924 ac aeth ati i ddiwygio'r gyfundrefn addysg yn yr Eidal. Gwasanaethodd yn llywydd i ddau gomisiwn ar ddiwygio cyfansoddiadol yn 1925.[1]

Gweithiodd hefyd yn llywydd y Cyngor Goruchaf dros Addysg Gyhoeddus (1926–28) ac yn aelod o'r Uchel Gyngor Ffasgaidd (1925–29). Yn 1925, dechreuodd gynllunio'r Enciclopedia Italiana, cywaith ysgolheigaidd a olygwyd ganddo o'r argraffiad cyntaf yn 1936 hyd at 1943. Yn sgil cwymp llywodraeth Mussolini yn 1943, rhodd Gentile ei gefnogaeth i'r Weriniaeth Sosialaidd Ffasgaidd yn Salò a fe'i penodwyd yn llywydd Academi'r Eidal. Llofruddiwyd Gentile gan gomiwnyddion yn Fflorens ar 15 Ebrill 1944, yn 68 oed.[1]

Athroniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylanwadwyd ar ei athroniaeth idealaidd yn gryf gan G. W. F. Hegel a syniadaeth y dilechdid. Yn ôl Gentile, rhennir natur ddynol yn ewyllys arbennig yr unigolyn ac ewyllys gyffredinol y gymuned. Dadleuodd bod cyfundrefn ffasgaidd yn gyfiawnach na democratiaeth ryddfryddol a chomiwnyddiaeth er uno'r gymuned.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • La filosofia di Marx (1899).
  • Teoria generale dello spirito come atto puro (1916).
  • Le origini della filosofia contemporanea in Italia 4 cyfrol (1917–23).
  • La riforma dell’educazione (1920).
  • La filosofia dell’arte (1931).
  • La mia religione (1943).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Giovanni Gentile. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Tachwedd 2019.