Neidio i'r cynnwys

Yr Eidal

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Eidalwr)
yr Eidal
Repubblica Italiana
Mathgwlad, gwladwriaeth sofran Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlItalia Edit this on Wikidata
PrifddinasRhufain Edit this on Wikidata
Poblogaeth58,850,717 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 18 Mehefin 1946 Edit this on Wikidata
AnthemIl Canto degli Italiani Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethGiorgia Meloni Edit this on Wikidata
Cylchfa amserEwrop/Rhufain Edit this on Wikidata
NawddsantFfransis o Assisi, Catrin o Siena Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg Edit this on Wikidata
Nifer a laddwyd713,499 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolEwrop, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, De Ewrop Edit this on Wikidata
Arwynebedd302,068 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Adria, Môr Tirrenia, Môr Ionia, Môr Liguria, Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSan Marino, y Fatican, Ffrainc, Y Swistir, Awstria, Slofenia, Malta Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.5°N 12.5°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth yr Eidal Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd yr Eidal Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd yr Eidal Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSergio Mattarella Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog yr Eidal Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethGiorgia Meloni Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$2,114,356 million, $2,010,432 million Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Canran y diwaith8.1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.2 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.895 Edit this on Wikidata

Gwlad yn ne Ewrop yw Gweriniaeth yr Eidal neu'r Eidal (Eidaleg: Italia). Mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn benrhyn mawr siâp esgid uchel gyda nifer o ynysoedd ym Môr y Canoldir: Sisili a Sardegna ydyw'r mwyaf. Yn y gogledd mae mynyddoedd yr Alpau. Ceir môr ar dair ochr i'r Eidal, ond yn y gogledd mae'n ffinio ar Ffrainc, y Swistir, Awstria, a Slofenia. Y tu mewn i'r Eidal mae dwy wladwriaeth fach: San Marino a Dinas y Fatican.

Heddiw, mae gan yr Eidal un o'r economïau mwyaf datblygedig yn y byd o ran CMC,[1][2][3] a hi yw'r wythfed economi fwyaf y byd yn ôl CMC enwol (y trydydd yn yr Undeb Ewropeaidd ), y chweched 'cyfoeth cenedlaethol' mwyaf ac yn ei banc canolog mae'r 3edd storfa fwyaf o aur wrth-gefnr. Fe'i rhestrir yn uchel iawn o ran disgwyliad oes ei phobl, ansawdd bywyd, gofal iechyd,[4] ac addysg. Mae'r wlad yn chwarae rhan amlwg mewn materion economaidd, milwrol, diwylliannol a diplomyddol rhanbarthol a byd-eang; mae'n bwer rhanbarthol[5][6] ac yn bwer mawr,[7][8] a ganddi hi mae'r wythfed byddin mwyaf pwerus y byd. Mae'r Eidal yn aelod sefydlol a blaenllaw o'r Undeb Ewropeaidd ac yn aelod o nifer o sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, NATO, yr OECD, y Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop, Sefydliad Masnach y Byd, y Grŵp o Saith, y G20, Undeb Gwledydd y Môr Canoldir, Cyngor Ewrop, Uno er Consensws, Ardal Schengen a llawer mwy. Ganwyd llawer o ddyfeiswyr ac arlunwyr mawr y byd yn yr hyn rydym yn ei adnabod heddiw fel Yr Eidal. ,Bu'r wlad yn ganolfan fyd-eang yn y maesydd canlynol: celf, cerddoriaeth, llenyddiaeth, athroniaeth, gwyddoniaeth, technoleg, a ffasiwn ers amser maith, ac mae wedi dylanwadu a chyfrannu'n fawr at feysydd amrywiol gan gynnwys y sinema, bwyd, chwaraeon, y gyfraith, bancio a busnes.[9] Gan yr Eidal mae'r nifer fwyaf o Safleoedd Treftadaeth y Byd (58 yn 2020), a hi yw'r bumed wlad yr ymwelir â hi fwyaf gan dwristiaeth.

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Mae hanes yr Eidal yn mynd yn ôl i gyfnod cynnar iawn, er mai yn gymharol ddiweddar yr unwyd yr Eidal i greu'r wladwriaeth fodern.

Daw'r enw Italia o'r hen enw am bobloedd a thiriogaeth de yr Eidal. Yn y rhan yma, roedd nifer o bobloedd wahanol, megis yr Etrwsciaid, Samnitiaid, Umbriaid a Sabiniaid. Yn y gogledd, ymsefydlodd llwythau Celtaidd o gwmpas dyffryn afon Po.

Yn rhan ddeheuol yr orynys ac ar ynys Sisili, ymsefydlodd Groegiaid rhwng 800 a 600 CC, a gelwid y rhan yma yn Magna Graecia ("Groeg Fawr") mewn Lladin. Yn y gogledd, yr Etrwsciaid oedd y grym mwyaf yn y cyfnod cynnar. Yn y 4 CC gorchfygwyd hwy gan y Rhufeiniaid, ac yn y 3 CC gorchfygodd Rhufain y Groegiaid yn y de hefyd.

Bu cyfres o ryfeloedd, y Rhyfeloedd Pwnig, rhwng Rhufain a Carthago; yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig bu'r cadfridog Carthaginaidd Hannibal yn ymgyrchu yn yr Eidal am flynyddoedd. Er iddo ennill nifer o fuddugoliaethau ysgubol dros y Rhufeiniaid, bu raid iddo encilio o'r Eidal yn y diewedd. Ar ddiwedd y Trydydd Rhyfel Pwnig yn 146 CC, dinistriwyd Carthago.

Tyfodd Ymerodraeth Rhufain yn gyflym yn y cyfnod canlynol; concrwyd Gâl gan Iŵl Cesar rhwng 60 a 50 CC. Daeth ei fab mabwysiedig, Augustus, yn ymerawdwr cyntaf Rhufain. Daeth yr ymerodraeth yn y gorllewin i ben yn y 5g, a meddiannwyd yr Eidal gan bobloedd Almaenig megis yr Ostrogothiaid a'r Lombardiaid. Ffurfiwyd nifer o wladwriaethau.

Dim ond yn y 19g yr ad-unwyd yr Eidal, gyda Giuseppe Garibaldi yn un o'r prif ysgogwyr. Sefydlwyd Teyrnas yr Eidal yn 1861. Daeth Benito Mussolini, arweinydd plaid y Ffasgwyr yn Brif Weinidog yn 1922. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, daeth Mussolini a'r Eidal i mewn i'r rhyfel ar ochr yr Almaen. Diswyddwyd ef yn 1943, a'i saethu yn 1945.

Ar 2 Mehefin 1946, cafwyd pleidlais mewn refferendwm i ddileu'r frenhiniaeth ac i sefydlu Gweriniaeth yr Eidal. Mabwysiadwyd y cyfansoddiad newydd ar 1 Ionawr 1948.

Yr hanes yn llawnach

[golygu | golygu cod]

Oherwydd ei lleoliad daearyddol canolog yn Ne Ewrop a'r Môr Canoldir, yn hanesyddol bu'r Eidal yn gartref i fyrdd o bobl a diwylliannau gwahanol dros sawl mileniwm. Heddiw, mae'r rhan fwyaf yn bobloedd Italaidd Indo-Ewropeaidd a nhw a roddodd eu henw i'r penrhyn, gan ddechrau o'r oes glasurol (rhwng yr 8g CC a 6g ÔC). Y sefydlwyr cyntaf yn yr ardal roedd y Phoeniciaid a'r Carthaginiaid a sefydlodd drefedigaethau yar ynysoedd yr Eidal, yn bennaf.[10] Sefydlodd y Groegiaid aneddiadau yn Magna Graecia, yn Ne'r Eidal, a bu'r Etrwsciaid a'r Celtiaid yn byw yng nghanol a gogledd yr Eidal, yn y drefn honno. Ffurfiodd llwyth Italaidd o'r enw'r Latins y Deyrnas Rufeinig yn yr 8g CC, a ddaeth yn weriniaeth (Gweriniaeth Rhufain) yn y pen draw, gyda llywodraeth o'r enw Senedd a'r Bobl . Aeth y Weriniaeth ati iorchfygu a chymhathu ei chymdogion ar benrhyn yr Eidal, gan orchyfygu rhannau o Ewrop, Gogledd Affrica ac Asia. Erbyn y ganrif gyntaf CC, daeth yr Ymerodraeth Rufeinig i'r amlwg fel y pŵer cryfaf ym masn y Môr Canoldir, a gynhwysai Pax Romana, cyfnod o fwy na 200 mlynedd lle datblygodd cyfraith, technoleg, economi, celf, a llenyddiaeth yr Eidal.[11][12]

Yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar, bu cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol a goresgynnwyd y tiroedd hyn gan bobloedd eraill, ond erbyn yr 11g cododd nifer o ddinas-wladwriaethau a gweriniaethau morwrol cystadleuol, yn bennaf yn rhanbarthau gogleddol a chanolog yr Eidal, gan gynnwys Fenis, Milan, Fflorens, Genoa, Pisa, Lucca, Cremona, Siena, Città di Castello, Perugia. Ffynnodd yr ardal oherwydd masnach a bancio, gan osod y sylfaen ar gyfer cyfalafiaeth fodern.[13] Gwasanaethodd y taleithiau annibynnol hyn yn bennaf fel prif hybiau masnachu Ewrop gydag Asia a'r Dwyrain Agos, yn aml yn mwynhau mwy o ddemocratiaeth na'r brenhiniaethau ffiwdal mwy a oedd i''w gweld ledled Ewrop. Fodd bynnag, roedd rhan o ganol yr Eidal dan reolaeth y Gwladwriaethau Pabaidd, tra bod De'r Eidal wedi aros yn ffiwdal i raddau helaeth tan y 19g, yn rhannol o ganlyniad i olyniaeth Fysantaidd, Arabaidd, Normanaidd, Angevin, Aragoniaid ac eraill.[14]

Dechreuodd y Dadeni Dysg yn yr Eidal, gan ledaenu i weddill Ewrop, a chafwyd diddordeb newydd mewn dyneiddiaeth, <a href="./Gwyddoniaeth" rel="mw:WikiLink" data-linkid="undefined" data-cx="{&quot;userAdded&quot;:true,&quot;adapted&quot;:true}">gwyddoniaeth</a>, mordwyo a chelf. Ffynnodd diwylliant yr Eidal, gan gynhyrchu ysgolheigion, artistiaid a polymathiaid enwog. Yn ystod yr Oesoedd Canol, darganfu fforwyr Eidalaidd lwybrau newydd i'r Dwyrain Pell a'r Byd Newydd. Serch hynny, gwanhaodd pŵer masnachol a gwleidyddol yr Eidal yn sylweddol pan agorwyd llwybrau masnach a oedd yn osgoi Môr y Canoldir.[15] Erbyn y 15g a'r 16g roedd yr Eidal yn dameidiog, yn wleidyddol, a chafodd ei gorchfygu a'i rhannu ymhellach ymhlith nifer o bwerau Ewropeaidd tramor dros y canrifoedd.

Erbyn canol y 19g, roedd cenedlaetholdeb yr Eidal yn ei anterth, ac felly hefyd y galwadau am annibyniaeth er mwyn gostwng rheolaeth dramor, a chafwyd cyfnod o gynnwrf gwleidyddol chwyldroadol. Ar ôl canrifoedd o dra-arglwyddiaethu tramor a rhaniad gwleidyddol, unwyd yr Eidal bron yn gyfan gwbl ym 1861 yn dilyn rhyfel o annibyniaeth, gan sefydlu Teyrnas yr Eidal fel pŵer mawr.[16] O ddiwedd y 19g i ddechrau'r 20g, diwydiannwyd yr Eidal yn gyflym, yn y gogledd yn bennaf, a ganwyd ymerodraeth drefedigaethol,[17] tra bod y de yn parhau i fod yn dlawd i raddau helaeth ac wedi'i eithrio o ddiwydiant, gan ysgogi diaspora mawr a dylanwadol.[18] Er gwaethaf ei bod yn un o'r pedwar prif bŵer perthynol yn y Rhyfel Byd Cyntaf, aeth yr Eidal i gyfnod o argyfwng economaidd a chythrwfl cymdeithasol, gan arwain at gynnydd unbennaeth ffasgaidd yr Eidal ym 1922. Yn yr Ail Ryfel Byd ochrodd gyda'r Almaen ac yn filwrol, fe'u trechwyd, ac arweiniodd hyn at Ryfel Cartref yr Eidal. Yn dilyn rhyddhau'r Eidal, diddymodd y wlad eu brenhiniaeth, sefydlwyd Gweriniaeth ddemocrataidd, mwynhawyd ffyniant economaidd, a daeth yr Eidal yn wlad ddatblygedig iawn.[1]

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Gwlad yn ne Ewrop sy'n ymestyn allan fel gorynys hir i ganol Môr y Canoldir yw'r Eidal. Mae hefyd yn cynnwys nifer o ynysoedd; y mwyaf yw Sisili a Sardinia. Mae'n ffinio ar y Swistir, Ffrainc, Awstria, Slofenia, ac mae San Marino a Dinas y Fatican yn cael eu hamgylchynu gan yr Eidal.

Gwlad fynyddig yw'r Eidal. Yn y gogledd, ceir yr Alpau, sy'n ffurfio ffîn ogleddol y wlad. Y copa uchaf yw Monte Bianco (Ffrangeg: Mont Blanc), 4,807.5 medr o uchder, ar y ffîn rhwng yr Eidal a Ffrainc. Mynydd adnabyddus arall yw'r Matterhorn (Cervino mewn Eidaleg, ar y ffîn rhwng yr Eidal a'r Swistir. Ymhellach tua'r de, mae mynyddoedd yr Apenninau yn ymestyn o'r gogledd i'r de ar hyd yr orynys. Ceir y copa uchaf yn yr Apenninau Canolog, y Gran Sasso d'Italia (2,912 m). Ceir nifer o losgfynyddoedd byw yn yr Eidal: Etna, Vulcano, Stromboli a Vesuvius.

Afon fwyaf yr Eidal yw Afon Po, sy'n tarddu yn yr Alpau Cottaidd ac yn llifo tua'r dwyrain am 652 km (405 milltir) i'r Môr Adriatig ar hyd gwastadedd eang. Y llyn mwyaf yw Llyn Garda yn y gogledd.

Demograffeg

[golygu | golygu cod]

Ar 31 Rhagfyr 2006 roedd poblogaeth yr Eidal yn 59,131,287. Roedd 30,412,846 o'r rhain yn ferched a 28,718,441 yn ddynion.

Rhanbarthau

[golygu | golygu cod]

Mae'r Eidal wedi'i rhannu yn 20 o ranbarthau (regioni, unigol regione).

Dinasoedd

[golygu | golygu cod]
Milan

Dinasoedd mwyaf yr Eidal, gydag ystadegau poblogaeth 2012, yw:

Dinas Poblogaeth (2012)
Rhufain 2,641,930
Milan 1,245,956
Napoli 960,521
Torino 872,158
Palermo 655,604
Genova 583,089
Bologna 373,010
Fflorens 362,389
Bari 314,258
Catania 293,112

Gwleidyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Ar 8 Mai, 2008, daeth Silvio Berlusconi yn Brif Weinidog yr Eidal am y trydydd tro, fel olynydd i Romano Prodi. Roedd Berlusconi hefyd yn Brif Weinidog o 1994 hyd 1995 ac o 2001 hyd 2006. Ymddiswyddodd mewn cywilydd ar 16 Tachwedd 2011 oherwydd diffyg arian y wlad a phenodwyd Mario Monti yn ei le.

Ieithoedd

[golygu | golygu cod]

Eidaleg yw iaith swyddogol yr Eidal. Yn nhalaith Bolzano-Bozen, mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn siarad Almaeneg fel iaith gyntaf, ac mae Almaeneg yn iaith swyddogol yno ar y cyd ag Eidaleg. Mae Ffrangeg yn gyd-iaith swyddogol yn Val d'Aosta.

Yr amgylchedd

[golygu | golygu cod]

Yr Eidal oedd y wlad gyntaf i ymelwa ar ynni geothermol i gynhyrchu trydan.[19] Mae'r graddiant geothermol uchel sy'n ffurfio rhan o'r penrhyn yn ei gwneud yn bosibl y gellir ei hecsbloetio hefyd mewn rhanbarthau eraill; nododd ymchwil a wnaed yn y 1960au a'r 1970au feysydd geothermol posibl yn Lazio a Thysgani, yn ogystal ag yn y rhan fwyaf o'r ynysoedd folcanig. [19]

Parciau cenedlaethol a rhanbarthol yn yr Eidal

Ar ôl ei thwf diwydiannol cyflym, cymerodd yr Eidal amser hir i wynebu ei phroblemau amgylcheddol. Mae bellach yn safle 84 yn y byd am gynaliadwyedd ecolegol.[20] Ceir ynddi barciau cenedlaethol sy'n gorchuddio tua 5% o'r wlad,[21] tra bod cyfanswm yr arwynebedd a warchodir gan barciau cenedlaethol, parciau rhanbarthol a gwarchodfeydd natur yn gorchuddio tua 10.5% o diriogaeth yr Eidal,[22] ac mae 12% o'r arfordiroedd yn ardaloedd morol gwarchodedig.[23]

Yn y 2010au, daeth yr Eidal yn un o gynhyrchwyr mwyaf blaenllaw y byd o ynni adnewyddadwy, a'r pedwerydd mwyaf y byd o ran ei chapasiti ynni solar wedi'i osod[24][25] a'r chweched mwyaf o gapasiti ynni gwynt yn 2010.[26] Darparodd ynni adnewyddadwy tua 37% o ddefnydd ynni'r Eidal yn 2020, o'i gymharu a dros hanner yng Nghymru yn yr un cyfnod.[27] Mae llygredd aer yn parhau i fod yn broblem ddifrifol, yn enwedig yn y gogledd diwydiannol, gan gyrraedd y degfed lefel uchaf ledled y byd o allyriadau carbon deuocsid diwydiannol yn y 1990au.[28] Yr Eidal oedd y deuddegfed cynhyrchydd carbon deuocsid mwyaf yn 2020.

Mae llawer o gyrsiau dŵr a darnau arfordirol wedi’u halogi gan weithgarwch diwydiannol ac amaethyddol, ac oherwydd bod lefelau dŵr yn codi, mae Fenis wedi bod dan ddŵr yn rheolaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw gwastraff o weithgarwch diwydiannol bob amser yn cael ei waredu trwy ddulliau cyfreithiol ac mae wedi arwain at effeithiau iechyd parhaol ar drigolion yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt, fel yn achos trychineb Seveso. Mae'r wlad hefyd wedi gweithredu sawl adweithydd niwclear rhwng 1963 a 1990 ond, ar ôl trychineb Chernobyl a refferendwm ar y mater daeth y rhaglen niwclear i ben, penderfyniad a gafodd ei wyrdroi gan y llywodraeth yn 2008, gan gynllunio i adeiladu hyd at bedair gorsaf ynni niwclear gyda thechnoleg Ffrangeg. Cafodd hyn ei wyrdroi ei daro gan refferendwm yn dilyn damwain niwclear Fukushima.[29]

Mae datgoedwigo, adeiladu anghyfreithlon a pholisïau rheoli tir gwael wedi arwain at erydiad sylweddol ar draws rhanbarthau mynyddig yr Eidal, gan arwain at drychinebau ecolegol mawr fel llifogydd Argae Vajont 1963, Sarno yn 1998[30] a llithriadau llaid Messina yn 2009. Roedd gan y wlad sgôr cymedrig Mynegai Uniondeb Tirwedd Coedwig 2019 o 3.65/10, gan ei gosod yn safle 142 yn fyd-eang allan o 172 o wledydd.[31]

Hinsawdd

[golygu | golygu cod]
Map dosbarthiad hinsawdd Köppen-Geiger o'r Eidal [32]

Mae hinsawdd yr Eidal yn cael ei ddylanwadu gan ddŵr y Môr Canoldir sy'n amgylchynu'r Eidal ar bob ochr oddigerth i'r gogledd. Mae'r moroedd hyn yn gronfa o wres a lleithder i'r Eidal. O fewn y parth tymherus deheuol, maen nhw'n pennu hinsawdd y Canoldir gyda gwahaniaethau lleol oherwydd geomorffoleg y diriogaeth.[33]

Oherwydd hyd y penrhyn (Gog - De)a'r gefnwlad fynyddig yn bennaf, mae hinsawdd yr Eidal yn amrywiol iawn. Yn y rhan fwyaf o'r rhanbarthau mewndirol gogleddol a chanolog, mae'r hinsawdd yn amrywio o is-drofannol llaith i gyfandirol llaith a chefnforol. Mae hinsawdd rhanbarth daearyddol dyffryn Po yn is-drofannol llaith yn bennaf, gyda gaeafau oer a hafau poeth.[34][35] Mae ardaloedd arfordirol Liguria, Toscana a'r rhan fwyaf o'r De yn gyffredinol yn cyd-fynd â hinsawdd arferol Môr y Canoldir (dosbarthiad hinsawdd Köppen).

Mae tywydd yr arfordir yn wahanol i'r rhai y tu mewn i'r wlad, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf pan fo'n oerach ar y mynyddoedd, yn wlyb, ac yn aml yn eira. Mae gan y rhanbarthau arfordirol aeafau mwyn a hafau poeth a sych yn gyffredinol; mae dyffrynnoedd yr iseldir yn boeth yn yr haf. Gall tymheredd cyfartalog y gaeaf amrywio o tua 0 °C (32 °F) yn yr Alpau i 12 °C (54 °F) yn Sisili, felly mae tymheredd cyfartalog yr haf yn amrywio o 20 °C (68 °F) i dros 25 °C (77 °F).

Gall gaeafau amrywio’n fawr ar draws y wlad gyda chyfnodau o oerni, niwl ac eira yn y gogledd ac amodau mwynach a brafiach yn y de. Ceir hafau poeth drwy'r Eidal benbaladr, ac eithrio ar y mynyddoedd, yn enwedig yn y de. Gall ardaloedd gogleddol a chanolog brofi stormydd mellt a tharanau o bryd i'w gilydd o'r gwanwyn i'r hydref.[36]

Cefnogodd yr Eidal ymdrechion rhyngwladol i ailadeiladu a sefydlogi Irac, ond roedd wedi tynnu ei fintai filwrol o ryw 3,200 o filwyr yn ôl erbyn 2006, gan gynnal dim ond gweithredwyr dyngarol a phersonél sifil eraill. Ym mis Awst 2006 anfonodd yr Eidal tua 2,450 o filwyr yn Libanus ar gyfer cenhadaeth cadw heddwch y Cenhedloedd Unedig UNIFIL . Yr Eidal yw un o arianwyr mwyaf Awdurdod Cenedlaethol Palestina, gan gyfrannu €60 miliwn yn 2013 yn unig. [37]

Milwrol

[golygu | golygu cod]
Arfbais herodrol Lluoedd Arfog yr Eidal

Mae Byddin yr Eidal, y Llynges, yr Awyrlu a'r Carabinieri gyda'i gilydd yn ffurfio Lluoedd Arfog yr Eidal, dan orchymyn yr Uchel Gyngor Amddiffyn, dan lywyddiaeth Llywydd yr Eidal, fel y'i sefydlwyd gan erthygl 87 o Gyfansoddiad yr Eidal. Yn ôl erthygl 78, mae gan y Senedd yr awdurdod i ddatgan cyflwr o ryfel a breinio’r pwerau angenrheidiol yn y Llywodraeth.

Er nad yw'n gangen o'r lluoedd arfog, mae gan y Guardia di Finanza (y "Gwarchodlu Ariannol") statws milwrol ac fe'i trefnir yn eitha milwrol.[38] Ers 2005, mae'r gwasanaeth milwrol yn wirfoddol.[39] Yn 2010, roedd gan fyddin yr Eidal 293,202 o bersonél ar ddyletswydd weithredol,[40] gyda 114,778 ohonynt yn Carabinieri.[41] Fel rhan o strategaeth rhannu niwclear NATO mae'r Eidal hefyd yn cynnal 90 o fomiau niwclear B61 yr Unol Daleithiau, sydd wedi'u lleoli yng nghanolfannau awyr Ghedi ac Aviano.[42]

Cerbydau ymladd mwyaf adnabyddus byddin yr Eidalyw cerbyd ymladd milwyr traed Dardo, dinistriwr tanciau Centauro a thanc Ariete, ac ymhlith ei awyrennau ceir yr hofrennydd ymosod Mangusta, yn ystod y blynyddoedd diwethaf a ddefnyddiwyd yn nheithiau'r UE, NATO a'r Cenhedloedd Unedig. Mae ganddo hefyd lawer o gerbydau arfog Leopard 1 a M113. Fe'i ffurfiwyd yn 1946 o'r hyn a oedd ar ôl o'r Regio Esercito ("y Fyddin Frenhinol", a sefydlwyd ar achlysur cyhoeddi Teyrnas yr Eidal, 1861 ) ar ôl yr Ail Ryfel Byd, pan ddaeth yr Eidal yn weriniaeth yn dilyn refferendwm.

Economi

[golygu | golygu cod]

Mae gan yr Eidal economi gymysg a datblygedig [43] fawr, sy'n safle trydydd mwyaf yn Ardal yr Ewro a'r wythfed-fwyaf yn y byd.[44] Yn un o sylfaenwyr y G7, Ardal yr Ewro a'r OECD, fe'i hystyrir yn un o genhedloedd mwyaf diwydiannol y byd ac yn wlad flaenllaw ym myd masnach ac allforion y byd.[45][46][47] Hi oedd yr 8fed wlad o ran ansawdd bywyd uchaf yn y byd yn 2005 a'r 26ain ar y Mynegai Datblygiad Dynol. Mae'r wlad yn adnabyddus am ei busnesau creadigol ac arloesol,[48] sector amaethyddol mawr a chystadleuol [49] (y cynhyrchwr gwin mwya'r byd), [50] ac am ei sector geir dylanwadol ac o ansawdd uchel, peiriannau, bwyd, diwydiant dylunio a ffasiwn.[51][52][53]

Yr Eidal yw chweched wlad gweithgynhyrchu fwya'r byd, a nodweddir gan nifer llai o gorfforaethau rhyngwladol byd-eang. Mae wedi cynhyrchu sector gweithgynhyrchu sy'n canolbwyntio'n aml ar allforio marchnad arbenigol a chynhyrchion moethus, os yw ar un ochr yn llai abl i gystadlu ar y swm, ar yr ochr arall mae'n fwy nag abl i gystadlu mewn safon.[54] Yr Eidal oedd degfed allforiwr mwya'r byd yn 2019 ac mae ei chysylltiadau agos â gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd yn gymorth sylweddol. Ei phartneriaid allforio mwyaf yn 2019 oedd yr Almaen (12%), Ffrainc (11%), a'r Unol Daleithiau (10%).[55]

Mae Milan yn ganolfan ariannol fyd-eang ac yn brifddinas ffasiwn y byd.

Mae'r diwydiant modurol yn rhan sylweddol o sector gweithgynhyrchu'r Eidal, gyda dros 144,000 o gwmnïau a bron i 485,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn yn 2015,[56] gyda chyfraniad o 8.5% i CMC yr Eidal.[57] Fiat Chrysler Automobiles neu FCA oedd y seithfed gwneuthurwr ceir mwyaf yn y byd yn y 2010au.[58] Mae gan y wlad ystod eang o gynhyrchion clodwiw, o geir dinas gryno i supercars moethus fel Maserati, Lamborghini, a Ferrari.[59] Banca Monte dei Paschi di Siena yw banc hynaf neu ail hynaf y byd sydd wedi weithredu'n ddi-dor, yn dibynnu ar y diffiniad.[60] Mae gan yr Eidal sector gydweithredol cryf hefyd, gyda'r gyfran fwyaf o'r boblogaeth (4.5%) yn cael ei chyflogi gan gwmniau cydweithredol.[61]

Mae'r Eidal yn rhan o undeb ariannol, Ardal yr Ewro (glas tywyll) ac o farchnad sengl yr UE.

Mae rhaniad cynyddol rhwng y Gogledd a'r De yn ffactor mawr mewn gwendid economaidd-gymdeithasol.[62] Gellir ei nodi gan y gwahaniaeth enfawr mewn incwm ystadegol rhwng y rhanbarthau gogleddol cyfoethog a thlodi'r de a'r bwrdeistrefi.[63] Mae'r dalaith gyfoethocaf, Alto Adige-South Tyrol, yn ennill 152% o'r CMC cenedlaethol y pen, tra bod y rhanbarth tlotaf, Calabria, yn 61%.[64] Mae'r gyfradd ddiweithdra (11.1%) ychydig yn uwch na chyfartaledd Ardal yr Ewro,[65] sef 6.6% yn y Gogledd a 19.2% yn y De.[66] Mae’r gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc (31.7% ym mis Mawrth 2018) yn hynod o uchel o gymharu â safonau’r UE.[67]

Diwylliant

[golygu | golygu cod]
Hunanbortread gan Leonardo da Vinci

Oherwydd na unwyd yr Eidal fel un wladwriaeth hyd yn gymharol ddiweddar, bu amrywiaeth mawr mewn diwylliant. Yn yr Eidal y dechreuodd y Dadeni yn Ewrop.

Llenyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Gosodwyd sylfeini yr iaith Eidaleg lenyddol fodern gan Dante Alighieri o Fflorens. Ei waith enwocaf yw'r Divina Commedia, a ystyrir yn un o brif gampweithiau Ewrop yn y Canol Oesoedd. Llenorion amlwg eraill yw Giovanni Boccaccio, Giacomo Leopardi, Alessandro Manzoni, Torquato Tasso, Ludovico Ariosto, a Petrarch. Ymysg llenorion diweddar yr Eidal, enillwyd Gwobr Nobel am Lenyddiaeth gan Giosuè Carducci (1906), Grazia Deledda (1926), Luigi Pirandello (1936), Salvatore Quasimodo (1959), Eugenio Montale (1975) a Dario Fo (1997).

Ymysg athronwyr amlwg yr Eidal mae Giordano Bruno, Marsilio Ficino, Niccolò Machiavelli a Giambattista Vico.

Arlunio

[golygu | golygu cod]

Yn y Canol Oesoedd a chyfnod y Dadeni, roedd arlunwyr yr Eidal yn enwog trwy Ewrop. Ymysg yr arlunwyr a cherrflunwyr enwocaf, mae Michelangelo, Leonardo da Vinci, Donatello, Botticelli, Fra Angelico, Tintoretto, Caravaggio, Bernini, Titian a Raffael.

Cerddoriaeth

[golygu | golygu cod]

Bu cerddoriaeth yn elfen bwysig iawn yn niwylliant yr eidal o gyfnod cynnar. Yn yr Eidal y dyfeisiwyd opera, ac mae'n parhau'n boblogaidd iawn hyd heddiw. Y tŷ opera enwocaf yw La Scala yn Milan.

Ymysg cyfansoddwyr enwog yr Eidal mae Alessandro Scarlatti, Arcangelo Corelli, Antonio Vivaldi, Niccolò Paganini, Gioachino Rossini, Giuseppe Verdi a Giacomo Puccini. Canwr enwocaf yr Eidal yn y cyfnod diweddar oedd Luciano Pavarotti.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "IMF Advanced Economies List. World Economic Outlook, April 2016, p. 148" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 21 April 2016.
  2. CIA (2008). "Appendix B. International Organizations and Groups". World Factbook. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 April 2008. Cyrchwyd 10 April 2008.
  3. Country and Lending Groups.
  4. "The World Health Organization's ranking of the world's health systems". Photius.com. Cyrchwyd 7 Medi 2015.
  5. Gabriele Abbondanza, Italy as a Regional Power: the African Context from National Unification to the Present Day (Rome: Aracne, 2016)
  6. "Operation Alba Mai be considered one of the most important instances in which Italy has acted as a regional power, taking the lead in executing a technically and politically coherent and determined strategy."
  7. &q=Canada%2520Among%2520Nations%252C%25202004%253A%2520Setting%2520Priorities+Straight Canada Among Nations, 2004: Setting Priorities Straight Check |url= value (help). McGill-Queen's Press – MQUP. 17 Ionawr 2005. t. 85. ISBN 978-0-7735-2836-9. Cyrchwyd 13 Mehefin 2016.
  8. Sterio, Milena (2013). The right to self-determination under international law : "selfistans", secession and the rule of the great powers. Milton Park, Abingdon, Oxon: Routledge. t. xii (preface). ISBN 978-0-415-66818-7. Cyrchwyd 13 Mehefin 2016.
  9. Michael Barone (2 Medi 2010). "The essence of Italian culture and the challenge of the global age". Council for Research in Values and philosophy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Medi 2012. Cyrchwyd 22 Medi 2012.
  10. Carl Waldman; Catherine Mason (2006). Encyclopedia of European Peoples. Infobase Publishing. t. 586. ISBN 978-1-4381-2918-1. Cyrchwyd 23 Chwefror 2013.
  11. Lazenby, John Francis (4 Chwefror 1998). Hannibal's War: A Military History of the Second Punic War. University of Oklahoma Press. t. 29. ISBN 978-0-8061-3004-0. Italy homeland of the Romans.
  12. Maddison, Angus (20 Medi 2007). Contours of the World Economy 1-2030 AD: Essays in Macro-Economic History. OUP Oxford. ISBN 978-0-19-922721-1.
  13. Sée, Henri. "Modern Capitalism Its Origin and Evolution" (PDF). University of Rennes. Batoche Books. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 7 Hydref 2013. Cyrchwyd 29 Awst 2013.
  14. Jepson, Tim (2012). &pg=PAPA28&q=trade%2520routes%2520italy%2520new+world National Geographic Traveler: Italy Check |url= value (help). National Geographic Books. ISBN 978-1-4262-0861-4.
  15. Bouchard, Norma; Ferme, Valerio (2013). &pg=PAPT30&q=new%2520world%2520trade+italy Italy and the Mediterranean: Words, Sounds, and Images of the Post-Cold War Era Check |url= value (help). Palgrave Macmillan. ISBN 978-1-137-34346-8. Cyrchwyd 17 December 2015.
  16. "Unification of Italy". Library.thinkquest.org. 4 April 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Mawrth 2009. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2009.
  17. "The Italian Colonial Empire". All Empires. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Chwefror 2012. Cyrchwyd 17 Mehefin 2012. At its peak, just before WWII, the Italian Empire comprehended the territories of present time Italy, Albania, Rhodes, Dodecanese, Libya, Ethiopia, Eritrea, the majority of Somalia and the little concession of Tientsin in China
  18. Jon Rynn. "WHAT IS A GREAT POWER?" (PDF). economicreconstruction.com. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 28 April 2017. Cyrchwyd 15 Mawrth 2017.
  19. 19.0 19.1 "Inventario delle risorse geotermiche nazionali". UNMIG. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 July 2011. Cyrchwyd 14 September 2011.
  20. "Italy – Environment". Dev.prenhall.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 July 2009. Cyrchwyd 2 August 2010.
  21. "National Parks in Italy". Parks.it. 1995–2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 March 2010. Cyrchwyd 15 March 2010.
  22. "Regione e aree protette" (yn Eidaleg). Cyrchwyd 11 January 2022.
  23. "Le aree protette in Italia" (yn Eidaleg). Cyrchwyd 2 March 2022.
  24. "Renewables 2010 Global Status Report" (PDF). REN21. 15 July 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 20 August 2011. Cyrchwyd 16 July 2010.
  25. "Photovoltaic energy barometer 2010 – EurObserv'ER" (PDF). Cyrchwyd 30 October 2010.
  26. "World Wind Energy Report 2010" (PDF). Report. World Wind Energy Association. February 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 4 September 2011. Cyrchwyd 8 August 2011.
  27. "Renewables provided 37% of Italy's energy in 2020 – English". ANSA.it (yn Saesneg). 25 May 2021. Cyrchwyd 28 May 2021.
  28. "Italy – Environment". Encyclopedia of the Nations. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 January 2011. Cyrchwyd 7 April 2010.
  29. Duncan Kennedy (14 June 2011). "Italy nuclear: Berlusconi accepts referendum blow". Bbc.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 June 2011. Cyrchwyd 20 April 2013.
  30. Nick Squires (2 October 2009). "Sicily mudslide leaves scores dead". The Daily Telegraph. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 October 2009. Cyrchwyd 2 October 2009.
  31. Grantham, H. S.; Duncan, A.; Evans, T. D.; Jones, K. R.; Beyer, H. L.; Schuster, R.; Walston, J.; Ray, J. C. et al. (2020). "Anthropogenic modification of forests means only 40% of remaining forests have high ecosystem integrity – Supplementary Material". Nature Communications 11 (1): 5978. doi:10.1038/s41467-020-19493-3. ISSN 2041-1723. PMC 7723057. PMID 33293507. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7723057.
  32. Beck, Hylke E.; Zimmermann, Niklaus E.; McVicar, Tim R.; Vergopolan, Noemi; Berg, Alexis; Wood, Eric F. (30 October 2018). "Present and future Köppen-Geiger climate classification maps at 1-km resolution". Scientific Data 5: 180214. Bibcode 2018NatSD...580214B. doi:10.1038/sdata.2018.214. ISSN 2052-4463. PMC 6207062. PMID 30375988. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6207062.
  33. "Che cosa significa clima temperato e cosa significa clima continentale" (yn Eidaleg). Cyrchwyd 8 March 2022.
  34. Adriana Rigutti, Meteorologia, Giunti, p. 95, 2009.
  35. Thomas A. Blair, Climatology: General and Regional, Prentice Hall pp. 131–132
  36. "Climate Atlas of Italy". Network of the Air Force Meteorological Service. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 November 2012. Cyrchwyd 30 September 2012.
  37. "Italy donates 60 million euros to PA". Ma'an News Agency. 4 September 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 October 2014. Cyrchwyd 27 January 2014.
  38. The Guardia di Finanza also operates a large fleet of ships, aircraft and helicopters, enabling it to patrol Italy's waters and to eventually participate in warfare scenarios
  39. "Law n°226 of August 23, 2004". Camera.it. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 January 2013. Cyrchwyd 13 July 2012.
  40. "The Military Balance 2010", pp. 141–145. International Institute for Strategic Studies, 3 February 2010.
  41. Italian Ministry of Defence. "Nota aggiuntiva allo stato di previsione per la Difesa per l'anno 2009" (PDF) (yn Eidaleg). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 4 May 2011. Cyrchwyd 11 July 2014.
  42. Hans M. Kristensen / Natural Resources Defense Council (2005). "NRDC: U.S. Nuclear Weapons in Europe – part 1" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 1 January 2011. Cyrchwyd 30 May 2011.
  43. "Select Country or Country Groups". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 October 2017. Cyrchwyd 22 October 2017.
  44. "Gross domestic product (2015)" (PDF). The World Bank: World Development Indicators database. World Bank. 28 April 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 1 February 2017. Cyrchwyd 17 May 2017.
  45. Sensenbrenner, Frank; Arcelli, Angelo Federico. "Italy's Economy Is Much Stronger Than It Seems". The Huffington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 December 2014. Cyrchwyd 25 November 2014.
  46. Dadush, Uri. "Is the Italian Economy on the Mend?". Carnegie Europe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 July 2015. Cyrchwyd 25 November 2014.
  47. "Doing Business in Italy: 2014 Country Commercial Guide for U.S. Companies" (PDF). United States Commercial Service. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 15 July 2014. Cyrchwyd 25 November 2014.
  48. "The Global Creativity Index 2011" (PDF). Martin Prosperity Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 30 September 2014. Cyrchwyd 26 November 2014.
  49. Aksoy, M. Ataman; Ng, Francis. "The Evolution of Agricultural Trade Flows" (PDF). The World Bank. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 29 November 2014. Cyrchwyd 25 November 2014.
  50. Pisa, Nick (12 June 2011). "Italy overtakes France to become world's largest wine producer". The Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 September 2011. Cyrchwyd 17 August 2011.
  51. "Automotive Market Sector Profile – Italy" (PDF). The Canadian Trade Commissioner Service. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 5 December 2014. Cyrchwyd 26 November 2014.
  52. "Data & Trends of the European Food and Drink Industry 2013–2014" (PDF). FoodDrinkEurope. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 6 December 2014. Cyrchwyd 26 November 2014.
  53. "Italy fashion industry back to growth in 2014". Reuters. 10 January 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 December 2014. Cyrchwyd 26 November 2014.
  54. "Knowledge Economy Forum 2008: Innovative Small And Medium Enterprises Are Key To Europe & Central Asian Growth". The World Bank. 19 May 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 June 2008. Cyrchwyd 17 June 2008.
  55. "The World Factbook". CIA. Cyrchwyd 28 May 2021.
  56. "Auto: settore da 144mila imprese in Italia e 117 mld fatturato". adnkronos.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 September 2015. Cyrchwyd 23 September 2015.
  57. "Country Profiles – Italy". acea.thisconnect.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 February 2008. Cyrchwyd 9 February 2008.
  58. "Fiat Chrysler to spin off Ferrari, issue $2.5 billion convertible bond". Reuters. 29 October 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 October 2014. Cyrchwyd 29 October 2014.
  59. Haigh, Robert (18 February 2014). "Ferrari – The World's Most Powerful Brand". Brand Finance. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 February 2016. Cyrchwyd 9 February 2015.
  60. "Italy's fourth-biggest bank returns to the stockmarket". The Economist. 26 October 2017.
  61. "The Power of Cooperation – Cooperatives Europe key statistics 2015" (PDF). Cooperatives Europe. April 2016. Cyrchwyd 28 May 2021.
  62. "Oh for a new risorgimento". The Economist. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 October 2014. Cyrchwyd 24 November 2014.
  63. "Comune per Comune, ecco la mappa navigabile dei redditi dichiarati in Italia". www.lastampa.it. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 April 2015. Cyrchwyd 4 April 2015.
  64. "GDP per capita at regional level" (PDF). Istat. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 October 2017. Cyrchwyd 25 October 2017.
  65. "Euro area unemployment rate at 11%" (PDF). Eurostat. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 July 2017. Cyrchwyd 26 October 2017.
  66. Istat. "Employment and unemployment: second quarter 2017" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 October 2017. Cyrchwyd 26 October 2017.
  67. "Youth unemployment rate in EU member states as of March 2018". Statista.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]