Mellten

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mellt yn taro'r ddaear

Gollyngiad o drydan yn yr awyr a achosir gan grynhoi siarsau trydannol mewn cwmwl mewn canlyniad i ffrithiant gronynnau yn erbyn ei gilydd yn y cwmwl a phrosesau eraill yw mellten (lluosog: mellt).

Mae'r egni a ryddheir felly yn gallu bod yn anferth, hyd at 1,000 miliwn folt. Rhaid i'r egni hwnnw gael ffordd i dorri'n rhydd, a gwneir hynny fel mellten, naill ai rhwng cymylau neu o gwmwl i wyneb y ddaear. Taran yw'r glec fyddarol a greir wrth i'r egni ymollwng i'r awyr. Am fod y ddau ffenomonen yn digwydd gyda'i gilydd fel rheol, cyfeirir atynt fel 'mellt a tharannau'.

Mathau o fellt[golygu | golygu cod y dudalen]

Mellt cochion

Tŷ Uchaf, Padog 11 Ionawr 1947: Tywydd, mellt cochion, taranau, cenllysg, oer.

Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) Meddai Huw Holland Jones:

There are various reasons why lightning comes in many colours. The basic reason is the temperature of the stroke. Lightning comes in every colour (Red, Yellow, Green, Cyan, Blue, and Violet, to name a few). It's almost always white, but often it's tinged with another color around the edges. The three most common colours (besides white) are blue, electric yellow, and violet. The colour of the bolt depends on how hot it is; the hotter the lightning, the closer the colour will be to the ultraviolet end of the spectrum. Red is the coolest to violet, hottest. Also the state of the atmosphere affects lightning colour, eg. a hazy sky might cause redder lightning. Another factor is the height of the lightning, where certain gases predominate at different levels & cause different colouration to the lightning. lightning ionises different gases in the atmosphere as it strikes. For example, high-pressure (low atmospheric) oxygen results in red, low pressure (high atmospheric) oxygen results in green, nitrogen results in a different shade of green. HHJ'

Dyma ddywed Twm Elias yn ei gyfrol Am y Tywydd (Gwasg Carreg Gwalch), tud. 279

Mellt melyn neu gochion – tywydd sych, h.y. gallant ddigwydd heb fawr o law
Mellt gleision – tywydd gwlyb, tywydd stormus gwlyb

Felly: pwysedd uchel - mellt coch - tywydd sych; pwysedd isel - mellt glas - tywydd gwlyb yn ôl HHJ.

Marwolaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Disgynnodd y nifer o darawiadau o bobl gan fellt yn sylweddol dros y ganrif aeth heibio am nifer o resymau: llai o bobl yn llafurio yn y caeau a gweithgareddau maes eraill, gwell ymwybyddiaeth, gwell arolygon tywydd. Lleddir llawer mwy o wrywod nag o fenywod gan fellt, cymhareb 5:1 [1][1]

Mellten farwol y Feidiog

Nid yw Tachwedd yn nodedig am dywydd da ar y gorau, ryw fis llaith a niwlog yn ôl traddodiad, ond am hanner awr wedi un yn y pnawn ar yr 8fed o Dachwedd 1882 bu i natur ddangos ei hochr dinistriol a didostur trwy storm o fellt a tharanau ofnadwy allai neb gofio mo’i thebyg erioed o’r blaen. Cymaint oedd ffyrnigrwydd y storm fel i Edward Morris, bugail Dol Moch, alw yn Feidiog Isa’ i lochesu rhag y tywydd dychrynllyd. Croesawyd ef i mewn gan feistr y tŷ sef David Jones, yr hwn fyddai’n rhaid wynebu profedigaeth fwyaf ei fywyd mewn ychydig funudau. ‘Roedd ei wraig, Gwen, wedi mynd ar neges i’r pentre’ gyda’i chymydog, Ann Williams, Dol Mynach, a hynny y tro cyntaf iddi adael y tŷ ers misoedd oherwydd gwaeledd.
Tŷ wedi ei adeiladu gyda’r simdde yn y canol ydoedd, ffordd effeithiol iawn o rannu gwres i bob ystafell. Yn ôl y sôn, ar y pryd, ‘roedd David Jones ac Edward Morris wrth ffenestr y talcen, Lizzie, y ferch wrth fwrdd gyferbyn â’r ffenestr ffrynt, wrth yr aelwyd ‘roedd y ddau fachgen ieuengaf a’r mab arall gyda’i dad. Dyma’r olygfa yn nrama greulon natur, pan, mewn tariad amrant chwalodd y simdde’n deilchion a dod a llawr y llofft i lawr gydag ef a chladdu’r ddau fachgen ieuengaf o dan bentwr pedair troedfedd a hanner o rwbel. Taflwyd Lizzie i ochr arall yr ystafell a’i haelodau yn sownd yn y malurion a’i phen wrth ymyl ci Edward Morris a oedd yn farw wrth y dreser - ond yn rhyfeddol ‘roedd Lizzie’n fyw! ‘Roedd ei brawd deg oed, David, hefyd ar lawr gyda llosgiadau trwm arno. Y cymydog, Edward Morris, wedi ei frawychu mor ofnadwy nes iddo fethu canolbwyntio na gwneud dim - ei wallt, locsen a’i ddwylo wedi llosgi’n ddifrifol. ‘Roedd David Jones, y tad, yn ffodus i ddianc gyda dim ond ychydig ddeifio i’w wallt.
Bu i William Williams hel tri neu bedwar o gymdogion eraill at ei gilydd i ddychwelyd i Feidiog Isa’ er mwyn cyrraedd a rhyddhau cyrff y plant. Tua’r un pryd yn dod o Fotŷ Llelo, ar ochr arall y cwm, ac yn ymladd ei ffordd trwy’r llifogydd oedd Ellen Roberts. ‘Roedd hi wedi gweld y difrod o bell ac wedi rhuthro yno i gynorthwyo mor fuan a medrai. Bu iddi gyfarfod y fintai fach o Ddol Mynach nid nepell o’r tŷ a sylwodd nad oedd yr un enaid byw i weld yno, gofynnodd yn bryderus a chwerw, “A oes neb o’r teulu yn fyw?”.......[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Science-template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Huw Holland Jones Ym Mwletin Llên Natur 62
  2. Keith O’Brien (Rhamant Bro 2007, cylchgrawn blynyddol Cymdeithas Hanes Blaenau Ffestiniog)