Giacomo Leopardi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Giacomo Leopardi
Giacomo Leopardi Ferrazzi.jpg
Portread o Giacomo Leopardi o 1820.
FfugenwCosimo Papareschi Edit this on Wikidata
GanwydGiacomo Taldegardo Francesco di Sales Saverio Pietro Leopardi Edit this on Wikidata
29 Mehefin 1798 Edit this on Wikidata
Recanati Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mehefin 1837 Edit this on Wikidata
Napoli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTaleithiau'r Babaeth Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, athronydd, ieithegydd, cyfieithydd, awdur ysgrifau, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amQ3602986, Q4489699, Q3625268, Canti, Q3676473, Q3710307, Q3730665, La ginestra, L'Infinito, Q3823759, Q3847128, Small Moral Works, Q3895154, Q3795058, Q3899171, Q3795657, Q3964975, Zibaldone Edit this on Wikidata
TadMonaldo Leopardi Edit this on Wikidata
MamAdelaide Antici Leopardi Edit this on Wikidata
PerthnasauTerenzio Mamiani Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.leopardi.it Edit this on Wikidata
Llofnod
Leopardi firma.gif

Bardd, athronydd, ysgrifwr, ac ieithegwr Eidalaidd oedd y Conte Giacomo Leopardi (29 Mehefin 179814 Mehefin 1837) sydd yn nodedig am ei farddoniaeth delynegol odidog a'i draethodau ysgolheigaidd ac athronyddol unigryw.

Ganed Giacomo Taldegardo Francesco di Sales Saverio Pietro Leopardi i deulu bonheddig yn Recanati ym Marche, a oedd dan reolaeth Taleithiau'r Babaeth. Bachgen hynod o ddeallus ac henffel ydoedd, a chafodd ei lesteirio gan blwyfoldeb gwledig ei amgylchedd a diffyg adnoddau ei diwtoriaid. Gwaethaf oll, bu ei rieni yn ddideimlad i anableddau corfforol Giacomo ac yn esgeulus o'i alluoedd. Erbyn 16 oed roedd wedi dysgu Groeg, Lladin, a sawl iaith arall ar liwt ei hun, ysgrifennu dwy drasiedi a nifer o gerddi yn Eidaleg, cyfieithu sawl un o'r clasuron, a chyflawni nifer o draethodau esboniadol yn brawf o'i ddoniau ysgolheigaidd. Gwaethygodd ei afiechyd o ganlyniad i'w astudiaethau llethol, a dioddefai nam ar ei olwg. Aeth yn ddall mewn un llygad, a datblygodd gefn crwm oherwydd y llechau a chlefyd serebro-sbinol.[1]

Cafodd berthynas dda gyda'i frawd a chwaer, ond ni chafodd ei drin yn annwyl gan ei rieni, hyd yn oed yn ei byliau o salwch. Mynegai ei obeithion a'i chwerwder fel ei gilydd yn ei farddoniaeth, er enghraifft "Appressamento della morte", penillion terza rima ar batrwm Francesco Petrarca a Dante Alighieri a ysgrifennwyd ganddo ym 1816. Yn niwedd ei arddegau, cafodd Leopardi ddau brofiad anhapus a sicrhaodd ei dröedigaeth at besimistiaeth. Ym 1817 dioddefodd siom ei gariad annychweledig tuag at ei gyfnither Gertrude Cassi, a oedd yn briod, yr honno a fyddai'n destun ei ddyddiadur Diario d'amore a'r alargan "Il primo amore". Ym 1818, bu farw Terese Fattorini, merch fach y gyrrwr coetsis, trasiedi a fyddai'n ysbrydoli un o'i delynegion enwocaf, "A Silvia". Codwyd ei galon braidd ym 1818 pan gafodd ei ymweld gan yr ysgolhaig clasurol a gwladgarwr Pietro Giordani, a'i anogodd i ddianc rhag ei deulu. O'r diwedd, aeth Leopardi i Rufain am ychydig o fisoedd ym 1822–23, ond nid taith bleserus oedd honno. Dychwelodd i'w sefyllfa anhapus yn Recanati.

Cyhoeddwyd ei gasgliad enwog o farddoniaeth, Canzoni, ym 1824. Y flwyddyn olynol, derbyniodd gynnig i olygu gweithiau Cicero ym Milan. Treuliodd y blynyddoedd wedyn yn teithio'n ôl ac ymlaen rhwng Bologna, Recanati, Pisa, a Fflorens. Cyhoeddwyd y casgliad o farddoniaeth Versi (1826) a'r traethiad athronyddol Operette morali (1827) yn ystod y cyfnod hwn. Bu'n rhaid iddo ddychwelyd i Recanati o 1828 i 1830 oherwydd diffyg arian, cyn iddo ddianc i Fflorens unwaith eto gyda chymorth ei gyfeillion. Yno cyhoeddodd gasgliad barddonol arall, I canti (1831). Ysbrydolwyd rhai o'i delynegion tristaf gan ei gariad am Fanny Targioni-Tozzetti o Fflorens. Magodd gyfeillgarwch agos â dyn ifanc o'r enw Antonio Ranieri, a oedd yn alltud o Napoli.

Symudodd i Rufain, wedyn i Fflorens, ac o'r diwedd ymsefydlodd yn Napoli, Teyrnas y Ddwy Sisili, ym 1833. Yno ysgrifennai'r gerdd hir "Ginestra" (1836). Bu farw yn ystod epidemig y geri marwol yn Napoli yn 38 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Giacomo Leopardi. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Awst 2021.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Jean-Pierre Barricelli, Giacomo Leopardi (Boston: Twayne, 1986).
  • Fabio A. Camilletti, Leopardi's Nymphs: Grace, Melancholy, and the Uncanny (Efrog Newydd: Routledge, 2013).
  • Roberta Cauchi-Santoro, Beyond the Suffering of Being: Desire in Giacomo Leopardi and Samuel Beckett (Fflorens: Firenze University Press, 2016).
  • Iris Origo, Leopardi: A Biography (Llundain: Milford, 1935).
  • Iris Origo, Leopardi: A Study in Solitude (Llundain: Hamish Hamilton, 1953).
  • Antonio Negri, Lenta Ginestra: Saggio sull' ontologia di Giacomo Leopardi (Milan: SugarCo Edizioni, 1987).
  • Frank Rosengarten, Giacomo Leopardi's Search for a Common Life through Poetry: A Different Nobility, a Different Love (Madison, New Jersey: Farleigh Dickinson University Press, 2012).
  • J. H. Whitfield, Giacomo Leopardi (Rhydychen: Blackwell, 1954).