Rhyfeloedd Chwyldroadol Ffrainc
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | rhyfel ![]() |
---|---|
Rhan o | Y Chwyldro Ffrengig ![]() |
Dechreuwyd | 20 Ebrill 1792 ![]() |
Daeth i ben | 25 Mawrth 1802 ![]() |
Olynwyd gan | Rhyfeloedd Napoleon ![]() |
Lleoliad | Ewrop ![]() |
Yn cynnwys | Coalition Wars ![]() |
![]() |
Cyfres o ryfeloedd a ymladdwyd rhwng Ffrainc a gwledydd Ewropeaidd eraill yn sgil y Chwyldro Ffrengig oedd Rhyfeloedd Chwyldroadol Ffrainc (1792–1802). Cychwynnodd ym 1792 gyda Rhyfel y Glymblaid Gyntaf. Ymosododd lluoedd Ffrengig ar y Rheindir, yr Iseldiroedd a Safwy, ac yn hwyrach aeth i ryfel yn erbyn Prydain a Sbaen. Enillodd Ffrainc y rhyfel hwn ym 1797. Llwyddodd yr Ail Glymblaid i yrru'r Ffrancod o'r Eidal a'r Rheindir ym 1798, cyn i Napoleon ennill y rhyfel hwnnw hefyd. Cyfunwyd y rhyfeloedd hyn a'r Rhyfeloedd Napoleonig ar ddechrau'r 19g.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Chambers Dictionary of World History (Caeredin, Chambers, 2004), t. 307.
