Cefnwyrni

Oddi ar Wicipedia
Cefnwyrni
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathafiechyd strwythyr yr esgyrn, afiechyd yr asgwrn cefn, Tro yn yr asgwrn cefn, arwydd meddygol, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae cefnwyrni, neu sgoliosis yn gyflwr meddygol lle mae asgwrn cefn rhywun efo crymedd i'r ochr.[1] Mae'r cromlin fel arfer y siâp "S"- neu "C". Mewn rhai, mae graddfa'r crymedd yn sefydlog, tra bod eraill yn cynyddu dros amser. Nid yw cefnwyrni ysgafn fel arfer yn achosi problemau, tra gall achosion difrifol ymyrryd ag anadlu.[2] Fel arfer, nid oes unrhyw poen.[3]

Nid yw achos y rhan fwyaf o achosion yn hysbys, ond credir ei fod yn cynnwys cyfuniad o ffactorau geneteg ac amgylcheddol. Mae ffactorau risg yn cynnwys effaith ar eraill o deulu eraill. Gall hefyd ddigwydd o ganlyniad i gyflwr arall fel sbermau cyhyrau, parlys yr ymennydd, syndrom Marfan, a thiwmorau megis niwrofibromatosis. Cadarnheir diagnosis gyda pelydrau-X. Fel arfer, dosbarthir scoliosis fel naill ai strwythurol lle mae'r gromlin yn sefydlog, neu'n weithredol lle mae'r asgwrn cefn yn normal.

Mae triniaeth yn dibynnu ar maint y gromlin, lleoliad, ac achos. Mae'n bosib y bydd mân chromlin yn cael eu gwylio'n achlysurol. Gall triniaethau gynnwys carntroeo neu lawdriniaeth. Rhaid gosod y cantro i'r person a'i ddefnyddio bob dydd nes i'r tyfu ddod i ben. Mae'r dystiolaeth nad yw trin cwcerapracteg, atchwanegiadau dietegol, neu ymarferion yn atal y cyflwr rhag gwaethygu yn ddiffygiol. Fodd bynnag, argymhellir ymarfer corff o hyd oherwydd ei fanteision iechyd eraill.

Cefnwyrni 40⁰

Mae cefrnwyrni yn ymddangos mewn tua 3% o pobol.[4] Mae'n fwyaf cyffredin yn bobol rhwng 10 ac 20 oed. Mae merched fel arfer yn cael eu heffeithio'n fwy difrifol na bechgyn.[5][6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Questions and Answers about Scoliosis in Children and Adolescents". NIAMS. December 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 August 2016. Cyrchwyd 12 August 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Yang, S; Andras, LM; Redding, GJ; Skaggs, DL (January 2016). "Early-Onset Scoliosis: A Review of History, Current Treatment, and Future Directions.". Pediatrics 137 (1): e20150709. doi:10.1542/peds.2015-0709. PMID 26644484.
  3. Agabegi, SS; Kazemi, N; Sturm, PF; Mehlman, CT (December 2015). "Natural History of Adolescent Idiopathic Scoliosis in Skeletally Mature Patients: A Critical Review.". The Journal of the American Academy of Orthopaedic Surgeons 23 (12): 714–23. doi:10.5435/jaaos-d-14-00037. PMID 26510624.
  4. Shakil, H; Iqbal, ZA; Al-Ghadir, AH (2014). "Scoliosis: review of types of curves, etiological theories and conservative treatment.". Journal of back and musculoskeletal rehabilitation 27 (2): 111–5. doi:10.3233/bmr-130438. PMID 24284269.
  5. "adolescent idiopathic scoliosis". Genetics Home Reference. September 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 August 2016. Cyrchwyd 12 August 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "scoliosis". Dictionary.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 August 2016. Cyrchwyd 12 August 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)