Stromboli
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Poblogaeth | 450 |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Aeolaidd |
| Sir | Lipari |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 12.6 km² |
| Uwch y môr | 926 metr |
| Gerllaw | Môr Tirrenia |
| Cyfesurynnau | 38.804°N 15.2233°E |
![]() | |
Ynys a llosgfynydd yn yr Eidal yw Stromboli (Groeg: Strongyle). Saif yn y Môr Tyrrhenaidd, oddi ar arfordir gogleddol ynys Sicilia. Mae'n un o'r Ynysoedd Aeolaidd. Saif y mynydd 924 m (3,031 troedfedd) uwch lefel y môr, ond mae'n codi dros 2,000 m (6,500 troedfedd) uwch gwaelod y môr. Mae'n anarferol ymhlith llosgfynyddoedd am ei fod wedi bod yn ffrwydro'n gyson, ar raddfa gymharol fechan, ers o leiaf 2,000 o flynyddoedd. Ambell dro ceir ffrwydrad mwy; roedd y diwethaf yn 1930, pan laddwyd nifer o bobl.
