Alessandro Manzoni

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Alessandro Manzoni
Francesco Hayez - Ritratto di Alessandro Manzoni.jpg
Ganwyd Alessandro Francesco Tommaso Antonio Manzoni Edit this on Wikidata
7 Mawrth 1785 Edit this on Wikidata
Milan Edit this on Wikidata
Bu farw 22 Mai 1873 Edit this on Wikidata (88 oed)
Milan Edit this on Wikidata
Galwedigaeth ysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata
Swydd member of the Chamber of Deputies of the Kingdom of Sardinia Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Historical Right Edit this on Wikidata
Tad Giovanni Verri Edit this on Wikidata
Mam Giulia Beccaria Edit this on Wikidata
Priod Enrichetta Blondel, Teresa Borri Edit this on Wikidata
Plant Pietro Luigi Manzoni Edit this on Wikidata
Llofnod

Bardd a nofelydd Eidalaidd oedd Alessandro Manzoni (7 Mawrth 178522 Mai 1873) sydd yn nodedig am ei nofel hanesyddol I promessi sposi a ystyrir yn un o glasuron llên yr Eidal. Roedd yn genedlaetholwr Eidalaidd brwd yn ystod cyfnod y Risorgimento, ac mae ei farddoniaeth yn cyfleu ei Gatholigiaeth.

Bywyd cynnar (1785–1810)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed ym Milan, Dugiaeth Milan, yn fab i Pietro Manzoni, un o'r fân-bendefigaeth yn Lombardi, a'i wraig Giulia Beccaria, a oedd yn ferch i Cesare Bonesana, Marchese di Beccaria, diwygiwr cyfreithiol yn oes yr Oleuedigaeth. Mae'n debyg nad oedd Pietro yn dad biolegol Alessandro, ac ym 1792 gwahanodd Pietro a Giulia wedi saith mlynedd yn briod. Treuliodd Alessandro ei addysg mewn ysgolion preswyl Catholig, ac o ganlyniad i'r profiad hwnnw fe fagodd deimladau gwrthlglerigol yn ei ieuenctid.[1]

Ym 1805 aeth Manzoni i fyw gyda'i fam, a'i chariad, ym Mharis. Yn ystod ei bum mlynedd yno bu'n cymdeithasu â deallusion a radicalwyr y ddinas, gan gynnwys yr idéologues, a chofleidiodd sgeptigiaeth Voltairaidd.[2] Priododd â Henriette Blondel, merch 16 oed o Galfinydd, ym 1808.[1]

Gyrfa lenyddol (1810–60)[golygu | golygu cod y dudalen]

Trodd Henriette yn Gatholig yn fuan wedi'r briodas, gyda chymorth offeiriad Jansenaidd, ac ym 1810 dychwelodd Manzoni ei hun at y ffydd ac ailgysegrwyd y briodas yn ôl y ddefod Gatholig Rufeinig.[3][1] Symudasant i fila ym mhentref Brusuglio, ar gyrion Milan, ac yno cyfansoddodd Manzoni ei gylch o gerddi crefyddol, yr Inni sacri.[2] Er iddo droi'n ôl at Gatholigiaeth, parhaodd i fynegi taliadau gwrthglerigiol, er enghraifft yn ei gerdd "Il trionfo della libertà" (1821). Yn y cyfnod hwn ysgrifennodd hefyd ei draethawd Osservazioni sulla morale cattolica (1819), yr awdl Marzo 1921, awdl er cof am Napoleon, Il cinque maggio (1822), a dwy drasiedi hanesyddol a ysbrydolwyd gan waith Shakespeare, Il conte di Carmagnola (1820) ac Adelchi (1822).

Cyhoeddwyd campwaith Manzoni, I promessi sposi, mewn tair cyfrol o 1825 i 1827. Dyma nofel a leolir yn Lombardi yn nechrau'r 17g ac yn ymwneud â gwrthryfel y Milaniaid yn erbyn y Hapsbwrgiaid yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–48) a'r Pla Mawr (1629–31). Fe'i ysgrifennwyd mewn iaith debyg i'r hyn a glywid ar lafar yn Fflorens, mewn ymgais i ffurfio ffurf lenyddol ar Eidaleg a fyddai'n eglur i ddarllenwyr ar draws yr Eidal. Erbyn yr argraffiad olaf o I promessi sposi a olygwyd ganddo (1840–42), llwyddodd Manzoni i ddileu'r holl briod-ddulliau hen ffasiwn o'i waith, a daeth y nofel hon yn fodel i lenorion Eidaleg iau.

Cafodd Alessandro a Henreitte 10 o blant, a bu farw wyth ohonynt yn ystod oes y tad. Bu farw Henriette ym 1833.[1]

Diwedd ei oes (1860–73)[golygu | golygu cod y dudalen]

Penodwyd Manzoni yn seneddwr yn senedd gyntaf Teyrnas yr Eidal ym 1860. Fe'i urddwyd yn ddinesydd anrhydeddus Rhufain ym 1872.[1] Bu farw ym Milan yn 88 oed.[2] Mynychwyd ei angladd gwladwriaethol gan Umberto, Tywysog Safwy.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) "Manzoni, Alessandro" yn Encyclopedia of Modern Europe: Europe 1789-1914. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 1 Mai 2020.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Alessandro Manzoni. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Mai 2020.
  3. (Saesneg) "Alessandro Manzoni" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 1 Mai 2020.