Giambattista Vico

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Giambattista Vico
Giovan Battista Vico.jpg
Ganwyd 23 Mehefin 1668 Edit this on Wikidata
Napoli Edit this on Wikidata
Bu farw 23 Ionawr 1744 Edit this on Wikidata (75 oed)
Napoli Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Napoli Federico II Edit this on Wikidata
Galwedigaeth athronydd, Ysgrifennwr, cymdeithasegydd, Hanesydd, collector of fairy tales Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Napoli Federico II Edit this on Wikidata
Adnabyddus am The New Science, De nostri temporis studiorum ratione Edit this on Wikidata

Athronydd, hanesydd, a chyfreithegwr o Eidalwr oedd Giambattista Vico (Giovanni Battista Vico; 23 Mehefin 166823 Ionawr 1744) sy'n nodedig am arloesi hanes diwylliannol, anthropoleg ddiwylliannol, ac ethnoleg. Ei gampwaith ydy Scienza nuova (1725), gwaith sy'n ceisio cysylltu hanesyddiaeth a gwyddorau cymdeithas i greu un "wyddor y ddynolryw".

Ganwyd yn Napoli. Bachgen sâl ydoedd, ac er na chafodd fawr o addysg yn yr ysgol mi oedd yn ddarllenwr brwd. Gweithiodd am gyfnod fel tiwtor cyn iddo gael ei benodi'n athro rhethreg ym Mhrifysgol Napoli yn 1699. Penodwyd yn hanesydd llys i Frenin Napoli yn 1734.

Lluniodd ddull systematig o ymchwilio i'r gorffennol, ac mae ei waith yn nodweddiadol o hanesyddoliaeth a damcaniaethau am gylchred gwareiddiad, ac yn dadlau bod holl nodweddion cymdeithas a diwylliant yn berthnasol i astudiaeth hanes, a dylid barnu cyfnodau hanes yn ôl safonau a moesau'r lle a'r oes dan sylw. Egwyddor ei ysgolheictod oedd verum esse ipsum factum ("yr hyn a wneir ydy'r gwir"), yn groes i feddylfryd Descartes ynglŷn ag epistemoleg: hynny yw, yn ôl Vico, gallwn deall hanes a chymdeithas yn well na'r byd naturiol am yr union reswm taw pethau a wneid gan ddyn, nid Duw, ydynt. Cafodd ei esgeuluso am ryw canmlwydd a hanner, cyn i ysgolheigion yn niwedd y 19g gydnabod ei bwysigrwydd fel yr hanesydd modern cyntaf o'i fath.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Giovanni Battista Vico yn Napoli, Teyrnas Napoli, ar 23 Mehefin 1668, yn unig blentyn i Antonio a Candida Vico. Bu bron iddo farw yn fachgen oherwydd toriad i'w benglog, ac o ganlyniad ni chafodd fawr o addysg yn yr ysgol. Gwerthwr llyfrau oedd Antonio, ac felly bu Giovanni yn darllen yn frwd yn y cartref. Mynychodd brifysgol yr Iesuwyr am gyfnod, er iddo ddim ond mynd i'r darlithoedd a oedd o ddiddordeb iddo. Treuliodd ran fawr o'i amser yn astudio rhesymeg a metaffiseg yr ysgolwyr cyn iddo ymddiddori yn y gyfraith. Ar sail yr hunanaddysg hon, llwyddodd Giovanni i amddiffyn ei dad mewn achos cyfreithiol pan oedd dim ond yn 16 oed. Er y gamp honno yn yr ystafell lys, gwrthododd Giovanni trin y gyfraith eto drwy gydol ei oes.[1]

Gweithiodd fel tiwtor i berthnasau teulu Esgob Ischia o 1685 i 1695, tra'n byw yn Vatolla ger Perdifumo. Dyma'r unig gyfnod o'i oes y bu'n byw y tu allan i ddinas Napoli, ac mae'n debyg dyma oedd cyfnod hapusaf ei oes. Treuliodd ei amser rhydd yn darllen am athroniaeth, hanes, moeseg, cyfreitheg, a barddoniaeth. Gwybodaeth arwynebol oedd ganddo o wyddoniaeth, ac nid oedd yn hoff o fathemateg o gwbl.[1]

Dychwelodd Vico i Napoli yn 1697, a chafodd ei benodi'n athro rhethreg ym Mhrifysgol Napoli yn 1699. Yn y swydd hon, traddododd ddarlith agoriadol ar ddechrau pob blwyddyn academaidd o 1699 i 1708 Penodwyd yn hanesydd llys i Frenin Napoli yn 1734. Cyhoeddodd tair chyfrol o astudiaethau cyfreithiol (1720–22). Er ei weithgarwch academaidd, ni chafodd Vico ei benodi'n athro y gyfraith Rufeinig. Er mwyn cynnal ei deulu mawr bu'n rhaid iddo ennill rhagor o incwm drwy ysgrifennu barddoniaeth a molawdau ar gomisiwn. Bu farw yn Napoli ar 23 Ionawr 1744, yn 75 oed, wedi afiechyd hir a phoenus.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Giambattista Vico" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 28 Mehefin 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Maeve Edith Albano, Vico and Providence (Efrog Newydd: P. Lang, 1986).
  • Thomas Berry, The Historical Theory of Giambattista Vico (Washington, D.C.: Catholic University of America Press, 1949).
  • Peter Burke, Vico (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1985).
  • A. Robert Caponigri, Time and Idea: The Theory of History in Giambattista Vico (Llundain: Routledge & Kegan Paul, 1953).
  • Antonio Corsano, Giambattista Vico (Bari, Puglia: Laterza, 1956).
  • Benedetto Croce, The Philosophy of Giambattista Vico (1913).
  • Robert Flint, Vico (Caeredin: W. Blackwood, 1884).
  • C. L. Stephenson, Giambattista Vico and the Foundations of a Science of the Philosophy of History (1982).
  • Donald Phillip Verene, Vico's Science of Imagination (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 1981).