Caravaggio

Oddi ar Wicipedia
Caravaggio
Darlun sialc o Caravaggio gan Ottavio Leoni, tua 1621
GanwydMichelangelo Merisi Edit this on Wikidata
29 Medi 1571 Edit this on Wikidata
Milan, Caravaggio Edit this on Wikidata
Bu farw18 Gorffennaf 1610, 1610 Edit this on Wikidata
Porto Ercole Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDugiaeth Milan Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSupper at Emmaus, Amor Vincit Omnia, Medusa, Basket of Fruit, The Fortune Teller, The Seven Works of Mercy, Self-Portrait as Bacchus, Bacchus, Annunciation, Judith Beheading Holofernes Edit this on Wikidata
Arddullpeintio genre, paentiadau crefyddol, bywyd llonydd Edit this on Wikidata
MudiadBaróc, Gwrth-Ddiwygiad Edit this on Wikidata
TadFermo Merixio Edit this on Wikidata
MamLucia Aratori Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Sofran Milwyr Malta Edit this on Wikidata
llofnod

Arlunydd o'r Eidal oedd Michelangelo Merisi da Caravaggio (28 Medi 157118 Gorffennaf 1610). Caiff ei osod yn gyffredin yn yr ysgol Baróc; ef oedd cynrychiolwr adnabyddus cyntaf yr arddull yma o ddarlunio.[1]

Daeth i Rufain o Milano ym 1592, pan oedd yr arddull o beintio a elwir yn manierismo ar y blaen. Yn wreiddiol fe arbenigai mewn peintio ffrwythau a blodau (pwnc traddiodadol i beintwyr o Lombardia), ond fe ddatblygodd i ddarlunio ffigyrau dynol, gan gynnwys peintiadau "genre" o fywyd pob dydd. Ymhen tipyn fe ddaeth yn beintiwr i'r cardinal Francesco Maria del Monte. Ei ddarluniau mawr cyhoeddus cyntaf oedd Galwedigaeth Sant Mathew a Merthyrdod Sant Mathew yn San Luigi, eglwys y Ffrancod yn Rhufain. Fe beintiodd cymysgedd o weithiau crefyddol, rhai mytholegol a phortreadau o hyn ymlaen. Roedd yn enwog am realaeth ei ddarluniau, a oedd weithiau'n ysgytiol i'w gyfoedion. Roedd ei ddefnydd o olau a thywyllwch, neu chiaroscuro, yn enwedig o feistrolgar a dylanwadol.

Roedd ei fywyd yn gythryblus o fry; ffodd o Rufain ym 1606 ar ôl lladd gŵr o'r enw Ranuccio Tomassoni mewn gornest ar gwrt tenis. Ffodd yn gyntaf i Napoli ac yna i Malta. Yno fe ddaeth yn farchog yn Urdd Sant Ioan o Jerwsalem, ac fe beintiodd ddarlun o Ddienyddiad Ioan Fedyddiwr uwchben allor y marchogion yng nghadeirlan Valletta. Ond ymhen llai na blwyddyn fe'i fwrwyd allan o Urdd Sant Ioan ar ôl iddo ymosod ar farchog arall. Teithiodd hyd a lled Sisili a Napoli yn ceisio osgoi ei elynion, ac fe fu farw o dwymyn yn Porto Ercole yn Toscana ym 1610, yn 38 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gilles Neret. Caravaggio (yn Saesneg). Taschen. t. 93. ISBN 978-3-8365-3685-1.