Trento

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Trento
Panorama di trento.jpg
Trento CoA.svg
Math cymuned yn yr Eidal, dinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth 117,997 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Alessandro Andreatta Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2, CET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Kempten, Sławno, Charlottenburg-Wilmersdorf, Huatusco, Znojmo, Prague 1, Resistencia, Donostia, Chieti, Prag Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Trentino Edit this on Wikidata
Sir Trentino Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd 157.88 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 190 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Aldeno, Cavedine, Garniga Terme, Giovo, Lavis, Pergine Valsugana, Villa Lagarina, Besenello, Civezzano, Cimone, Vallelaghi, Madruzzo, Albiano, Altopiano della Vigolana Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 46.1°N 11.1°E Edit this on Wikidata
Cod post 38121, 38122, 38123 Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Alessandro Andreatta Edit this on Wikidata

Dinas yng ngogledd yr Eidal a phrifddinas talaith Trento a rhanbarth Trentino-Alto Adige yw Trento (Lladin: Tridentum; Saesneg: Trent). Saif ar Afon Adige. Dyma le cynhaliwyd Cyngor Trent yn y 16g. Roedd yn rhan o Awstria-Hwngari cyn iddo gael ei atodi i'r Eidal ym 1919.

Roedd y boblogaeth yng nghyfrifiad 2011 yn 114,198.[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Pentref Celtaidd oedd Trento pan gafodd ei orchfygu gan Rufain yn y 1g CC. Creodd Iŵl Cesar fwrdeistref Rufeinig yma pan rowyd dinasyddiaeth i'r ardal o Gallia Cisalpina i'r gogledd o Afon Po. Enwyd y yr anheddiad yn Tridentum fel teyrnged i Neifion, duw y môr a ddaliodd dryfer (Lladin: tridens, h.y. "tri dannedd", ar ôl y tri bryn sy'n amgylchynu'r ddinas). Daeth Tridentum yn arhosfan bwysig ar Via Raetia, y ffordd Rufeinig a arweiniodd o Verona i Innsbruck.

Ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin gorchfygwyd y ddinas gan Ostrogothiaid, Bysantiaid, Lombardiaid a Ffranciaid cyn iddi ddod yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Ym 1027 rhoddodd yr Ymerawdwr Conrad II lywodraeth y ddinas yng ngofal yr esgob-dywysogion Trent, a byddai'n rheolwyr tymhorol ac ysbrydol. Tua 1200 daeth yn ganolfan bwysig o fwyngloddio, yn enwedig am arian. Yn y 14g daeth ardal Trento o dan reolaeth dugiaid Awstria, sef y teulu Habsburg a fyddai'n gorchufu'r rhanbarth am 600 mlynedd.

Roedd y tywysog-esgobion yn llywodraethu Trento tan oes Napoleon. O dan ad-drefnu'r Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd ym 1802, collodd yr esgob ei awdurdod seciwlar ac atododd yr ardal i diriogaethau Habsburg. Rhoddwyd Trento i Bafaria gan Gytundeb Pressburg ym 1805; wedyn, ym 1809, fe'i rhoddwyd gan Gytundeb Schönbrunn i Deyrnas yr Eidal, y wladwriaeth byrhoedlog a sefydlwyd gan Napoleon. Yn dilyn cwymp Napoleon ym 1814, dychwelwyd Trento i Awstria (Awstria-Hwngari ar ôl 1867). Yn ddiweddarach yn y 19g, daeth Trento, dinas â mwyafrif ethnig Eidalaidd o fewn ymerodraeth Awstria, yn symbol pwerus i'r mudiad Eidalaidd irredentismo. Fe'i hatodwyd, ynghyd â'i thalaith Eidaleg, i'r Eidal ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cadeirlan San Vigilio
  • Eglwys Santa Maria Maggiore
  • Palazzo delle Albere, preswylfa gaerog yr esgob-dywysogion
  • Castell Buonconsiglio

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. City Population; adalwyd 16 Ionawr 2021