Talaith Bolzano
| Math | taleithiau'r Eidal |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | County of Tyrol, de |
| Prifddinas | Bolzano |
| Poblogaeth | 531,178 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Arno Kompatscher |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg, Almaeneg, Ladineg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Trentino-Alto Adige |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 7,400.43 km² |
| Yn ffinio gyda | Talaith Belluno, Talaith Trento, Talaith Sondrio, Canton y Grisons, Lienz District, Bezirk Zell am See, Schwaz District, Innsbruck-Land District, Imst District, Landeck District |
| Cyfesurynnau | 46.5°N 11.33°E |
| Cod post | 39010–39059 |
| IT-BZ | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Talaith Bolzano |
| Corff deddfwriaethol | Cyngor Talaith Bolzano |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Talaith Bolzano |
| Pennaeth y Llywodraeth | Arno Kompatscher |
![]() | |
Talaith ymreolaethol yn rhanbarth Trentino-Alto Adige, yr Eidal, yw Talaith Bolzano (Eidaleg: Provincia autonoma di Bolzano-Alto Adige, Almaeneg: Autonome Provinz Bozen-Südtirol, Ladineg: Provinzia Autonòma de Balsan-Südtirol). Ffurfiwyd y dalaith o ran ddeheuol ardal hanesyddol y Tirol, a chyfeirir at yr ardal fel Alto Adige mewn Eidaleg a Südtirol mewn Almaeneg. Dinas Bolzano yw ei phrifddinas.
-
Talaith Bolzano (coch) yn Trentino-Alto Adige
-
Talaith Bolzano yn yr Eidal
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 533,267.[1]
Mae'r dalaith yn cynnwys 116 o gymunedau (comuni). Y mwyaf yn ôl poblogaeth yw
Mae'r dalaith yn ffurfio rhan ogleddol rhanbarth Trentino-Alto Adige ac mae'n ffinio ar y Swistir ac Awstria. Mae'r ardal yn dairieithog: Almaeneg, Eidaleg a Ladineg, gyda siaradwyr Almaeneg fel mamiaith yn y mwyafrif. Hyd at 1918, roedd yr ardal yn rhan o Ymerodraeth Awstria, ond wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf daeth yn rhan o'r Eidal. Yng nghyfrifiad 1910, roedd llai na 3% o'r boblogaeth yn siarad Eidaleg fel mamiaith, ond dan lywodraeth Mussolini gwnaed ymdrech fawr i Eidaleiddio'r ardal.
Y sefyllfa ieithyddol yn ôl cyfrifiad 2001 oedd:
Mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad Almaeneg fel mamiaith mewn 103 allan o 116 cymuned y dalaith. Mewn 8 cymuned, siaradwyr Ladineg sydd yn y mwyafrif.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 13 Awst 2023
