Das Narrenschiff

Oddi ar Wicipedia
Torlun pren gan Albrecht Dürer o glawr Das Narrenschiff.

Cerdd hir gan Sebastian Brant yw Das Narrenschiff (Almaeneg am "Long y Ffyliaid") a gyhoeddwyd gyntaf ym 1494. Darluniwyd y gwaith gan Albrecht Dürer. Cafodd ei gyfieithu i Ladin, Isel Almaeneg, Iseldireg, Ffrangeg, a Saesneg ac roedd yn boblogaidd ar draws Ewrop yng nghyfnod y Dadeni. Hwn oedd y cyhoeddiad mwyaf boblogaidd yn yr Almaeneg nes Die Leiden des jungen Werthers gan Goethe. Adroddai'r gerdd hanesion ar long sydd yn cludo mwy na chant o bobl i wlad Narragonia, paradwys y ffyliaid. Dychan ydyw ar gymdeithas yr oes, yn enwedig yr Eglwys Babyddol.