Sebastian Brant

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Sebastian Brant
Duerer brant.jpg
Ganwyd 1458 Edit this on Wikidata
Strasbwrg Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Mai 1521 Edit this on Wikidata
Strasbwrg Edit this on Wikidata
Addysg doethur yn y ddwy gyfraith Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Basel Edit this on Wikidata
Galwedigaeth bardd, awdur geiriau, bardd-gyfreithiwr, athronydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Basel Edit this on Wikidata
Mudiad y Dadeni Almaenig Edit this on Wikidata
Priod Elisabeth Bürgis Edit this on Wikidata
Plant Onophrius Brant Edit this on Wikidata

Bardd Almaenig yn yr ieithoedd Almaeneg a Lladin a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Sebastian Brant (145710 Mai 1521) sydd yn nodedig am ei gerdd Das Narrenschiff (1494).

Ganed yn Strasbwrg, un o ddinasoedd rhydd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Astudiodd y celfyddydau breiniol ym Mhrifysgol Basel, a derbyniodd ei radd baglor ym 1477 cyn ennill doethuriaeth yn y gyfraith ym 1489. Addysgodd yno o 1484 i 1500 ac ym 1496 derbyniodd gadair athro yn y gyfraith sifil a'r gyfraith ganonaidd.[1][2] Gweithiodd hefyd yn olygydd i sawl argraffwr yn ninas Basel, gan gynnwys Johann Amerbach.

Ym 1494 cyhoeddwyd ei gampwaith, y gerdd alegorïaidd hir Das Narrenschiff, gyda darluniadau gan Albrecht Dürer. Adrodda'r gerdd hanesion ar long sydd yn cludo mwy na chant o bobl i wlad Narragonia, paradwys y ffyliaid. Dychan ydyw ar gymdeithas yr oes, yn enwedig yr Eglwys Babyddol. Cafodd ei gyfieithu i Ladin, Isel Almaeneg, Iseldireg, Ffrangeg, a Saesneg ac roedd yn boblogaidd ar draws Ewrop. Hwn oedd y cyhoeddiad mwyaf boblogaidd yn yr Almaeneg nes Die Leiden des jungen Werthers (1774) gan Goethe. Ym 1498 cyhoeddodd Brant gasgliad o gerddi Lladin, ac ysgrifennodd hefyd weithiau ar bynciau'r gyfraith, crefydd, a gwleidyddiaeth, ac addasiadau o wirebau moesol Publius Valerius Cato a Freidank.[1]

Wedi i Basel ymuno â Chydffederasiwn y Swistir, symudodd Brant yn ôl i Strasbwrg ym 1501, ac yno gweithiodd yn gynghorwr cyfreithiol i lywodraeth y ddinas. Ym 1503 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd dinesig, ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn gynghorwr ymerodrol a breiniarll gan Maximilian I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, a gwasanaethodd ar sawl cenhadaeth ddiplomyddol.[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Sebastian Brant. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Awst 2020.
  2. 2.0 2.1 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), t. 47.