Dull D'Hondt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

System ar gyfer rhoi seddi i ymgeiswyr mewn etholiadau rhestrau plaid cynrychiolaeth gyfrannol yw dull D'Hondt.

Defnydd yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Mabwysiadwyd y dull gan Gymru ar gyfer etholiadau Cynulliad Cymru a Senedd Ewrop[1].

O gwmpas y byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mabwysiadwyd y dull gan sawl gwlad eraill, gan gynnwys, Yr Ariannin, Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Chile, Colombia, Croatia, Gweriniaeth Tsiec, Denmarc, Ecwador, Ffindir, Hwngari, Israel, Japan, Macedonia, Yr Iseldiroedd, Gogledd Iwerddon, Paragwâi, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Yr Alban, Slofenia, Serbia, Sbaen, Y Swistir, Twrci, Gwlad yr Iâ ac Wrwgwái. Mae addasiad o system D'Hondt yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau i Gynulliad Llundain, Lloegr.

Dyraniad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl i'r holl bleidleisiau cael eu cyfrif, mae cyfres o gyniferyddion yn cael eu cyfrif fesul plaid. Dyma fformiwla ar gyfer cyniferydd[2]

lle mai:

  • P yw cyfanswm nifer o bleidleisiau mae'r blaid wedi derbyn
  • s yw nifer o seddi mae'r blaid wedi cyfrif hyd yn hyn, 0 i bob plaid ar ddechrau'r broses

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. bbc.co.uk; adalwyd 6 Mai 2016.
  2. Lijphart, Arend (2003), "Degrees of proportionality of proportional representation formulas", in Grofman, Bernard; Lijphart, Arend, Electoral Laws and Their Political Consequences, Agathon series on representation, 1, Algora Publishing, pp. 170–179, ISBN 9780875862675. Gweler yr adran "Sainte-Lague" yn enwedig, pp. 174–175.