Plaid Annibyniaeth y DU

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth UKIP)
Jump to navigation Jump to search
United Kingdom Independence Party
Logo UKIP
Arweinydd gwag
Sefydlwyd 1993
Pencadlys PO Box 408
Newton Abbot
TQ12 9BG
Ideoleg Wleidyddol Gwrth-Ewropeaidd
Safbwynt Gwleidyddol Dadleuol
Tadogaeth Ryngwladol dim
Tadogaeth Ewropeaidd dim
Grŵp Senedd Ewrop Europe of Freedom and Democracy
Lliwiau Melyn a phorffor
Gwefan www.ukip.org
Gwelwch hefyd Gwleidyddiaeth y DU

Mae Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig[1] (Saesneg: United Kingdom Independence Party neu UKIP) yn blaid wleidyddol sy'n anelu at dynnu'r Deyrnas Unedig allan o'r Undeb Ewropeaidd [2]. Ei hail amcan yw tynhau rheolau mewnfudo i Brydain. Ar 9 Hydref 2014 yn yr is-etholaeth Clacton, Lloegr, etholwyd Douglas Carswell yn Aelod Seneddol cyntaf UKIP.[3] Sicrhaodd UKIP 59.7% o'r bleidlais. Yn Mawrth 2017 gadawodd Carswell y blaid i sefyll fel aelod annibynnol.

Polisi tuag at ddatganoli[golygu | golygu cod y dudalen]

Plaid gyda pholisïau unoliaethol yw UKIP, sy'n gwrthwynebu datganoli.

Douglas Carswell, Aelod Seneddol cyntaf y blaid

Ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007 roedd ganddynt bolisi o ddiddymu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gyhuddo'r Cymry (a'r Alban) am bleidleisio dros "ranbartholi" oherwydd teimlad gwrth-Seisnig yn unig.[4][5]. Roedd polisi'r blaid wedi newid erbyn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2010 i un o gadw'r Cynulliad ond i gael gwared o'r Aelodau.[6][7] Serch hyn, maen nhw'n cynnig ymgeiswyr i etholiadau'r Cynulliad, er mwyn ymladd eu hachos o'r tu mewn.

Etholiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn yr Etholiad Ewrop 2009 yng Nghymru, daeth UKIP yn bedwaredd gyda 12.8% o'r bleidlais a fwrwyd. John Bufton oedd Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP yng Nghymru o 2009 hyd 2014. Ymddeolodd yn 2014 ac ers hynny Nathan Gill sy'n cynrychioli UKIP dros Gymru. Mae yn byw yn Sir Fôn ond yn wreiddiol o Hull.[8]

Yn Etholiadau Cynulliad Cymru, 2016, cynyddodd canran UKIP o'r pleidlais bron deirgwaith (o 4.7% i 12.5%) ac enillodd y blaid saith sedd rhanbarthol.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "UKIP Wales". UKIP Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Chwefror 2014. Cyrchwyd 18 Chwefror 2018.
  2. http://www.youtube.com/watch?v=gJ9Qd7Ow5UQ Cyfweliad gydag Elwyn Williams o Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
  3. Tory MP Douglas Carswell defects to Ukip and forces byelection, The Guardian 28 August 2014, adalwyd 6 Medi 2014
  4. Manifesto: Welsh Assembly Election, 3 May 2007 ABOLISH THE ASSEMBLY & LEAVE THE EU (Copi archif o wefan UKIP)
  5. But didn't the Welsh people vote for the assembly in a referendum? (Copi archif o wefan UKIP)
  6. Constitution 2010 o wefan y blaid yn ganolog.
  7. UKIP: Plaid Genedlaethol Lloegr, Richard Wyn Jones. Barn Mail 2013
  8. [1]
  9. "Welsh Election 2016: Labour just short as UKIP wins seats". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mai 2016. http://www.bbc.com/news/election-2016-wales-36207410.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]