Douglas Carswell

Oddi ar Wicipedia
Douglas Carswell
MP
Aelod Seneddol
dros etholaeth Clacton
etholaeth Harwich (2005-2010)
Yn ei swydd
10 Hydref 2014 – 3 Mai 2017
Rhagflaenydd Ef ei hun
Olynydd Giles Watling
Yn ei swydd
5 Mai 2005 – 29 Awst 2014
Rhagflaenydd Ivan Henderson
Olynydd Ef ei hun
Manylion personol
Ganwyd (1971-05-03) 3 Mai 1971 (52 oed)
Llundain, Lloegr
Cenedligrwydd Prydeiniwr
Plaid wleidyddol Annibynnol (2017)
Cysylltiadau
gwleidyddol
UKIP (2014–2017)
Ceidwadwyr (1990–2014)
Gŵr neu wraig Clementine Bailey
Plant 1
Man preswyl Essex
Alma mater University of East Anglia (BA)
Coleg y Brenin, Llundain (MA)
Gwaith Gwleidydd
Crefydd Eglwys Loegr
Gwefan www.douglascarswell.com

Etholwyd y Sais John Douglas Wilson Carswell (ganed 3 Mai 1971) yn Aelod Seneddol cyntaf UKIP yn Is-etholiad Clacton, 2014,[1] gan gynrychioli etholaeth Clacton yn Essex.[2]

Cyn hynny bu'n Aelod Seneddol dros y Blaid Geidwadol yn etholaeth Harwich. Newidiodd ei got gwleidyddol yn Awst 2014, gan droi o'r Blaid Geidwadol ac at UKIP. Ymddiswyddodd ar unwaith o'r Blaid Geidwadol a golygai hyn fod y sedd yn wag, ac felly cynhaliwyd Is-etholiad Clacton. Eglurodd mai'r rheswm pam y newidiodd ei deyrngarwch at UKIP oedd ei ddymuniad i weld "newid syfrdanol o fewn gwleidyddiaeth Prydain; nid yw arweinwyr y Ceidwadwyr yn seriws, dydn nhw ddim yn dymuno newid."[3]

Ar 25 Mawrth 2017 cyhoeddodd ei fod yn gadael UKIP gan ddod yn aelod seneddol annibynnol, yn dilyn ffrae gyhoeddus rhyngddo a chyn-arweinydd UKIP, Nigel Farage ac ariannwr y blaid Arron Banks.[4] Penderfynodd beidio sefyll eto yn etholiad brys Mehefin 2017 gan roi ei gefnogaeth i'r ymgeisydd Ceidwadol.[5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. BBC News, "UKIP gains first elected MP with Clacton win"; adalwyd 10 Hydref 2014.
  2. Meikle, James (24 Ionawr 2014). "Tory MP Douglas Carswell gives Twitter report as he collars shoplifter". The Guardian. Cyrchwyd 29 Awst 2014.
  3. "Tory MP Douglas Carswell defects to UKIP and forces by-election". BBC News. 28 August 2014. Cyrchwyd 29 Awst 2014.
  4. Aelod Seneddol UKIP yn gadael ei blaid , Golwg360, 25 Mawrth 2017. Cyrchwyd ar 20 Ebrill 2017.
  5. Aelod UKIP am “gefnogi’r Tori” ar Fehefin 8 , Golwg360, 20 Ebrill 2017.