Plaid Annibyniaeth y DU
| Plaid Annibyniaeth y DU UKIP | |
|---|---|
![]() | |
| Arweinydd | gwag |
| Sefydlwyd | 1993 |
| Pencadlys | Lexdrum House, Old Newton Road, Newton Abbot, Devon, TQ12 6UT |
| Rhestr o idiolegau | Gwrth ewrop Cenedlaetholdeb Prydeinig |
| Sbectrwm gwleidyddol | Adain dde |
| Lliw | Porffor |
| Senedd Cymru | 0 / 60 |
| Llywodraeth Lleol yn y DU | 14 / 19,689 |
| Gwefan | |
| ukip.org | |
Mae Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig[1] (Saesneg: United Kingdom Independence Party neu UKIP) yn blaid wleidyddol sy'n anelu at dynnu'r Deyrnas Unedig allan o'r Undeb Ewropeaidd [2]. Ei hail amcan yw tynhau rheolau mewnfudo i Brydain. Ar 9 Hydref 2014 yn yr is-etholaeth Clacton, Lloegr, etholwyd Douglas Carswell yn Aelod Seneddol cyntaf UKIP.[3] Sicrhaodd UKIP 59.7% o'r bleidlais. Yn Mawrth 2017 gadawodd Carswell y blaid i sefyll fel aelod annibynnol.
Polisi tuag at ddatganoli
[golygu | golygu cod]Plaid gyda pholisïau unoliaethol yw UKIP, sy'n gwrthwynebu datganoli.

Ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007 roedd ganddynt bolisi o ddiddymu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gyhuddo'r Cymry (a'r Alban) am bleidleisio dros "ranbartholi" oherwydd teimlad gwrth-Seisnig yn unig.[4][5]. Roedd polisi'r blaid wedi newid erbyn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2010 i un o gadw'r Cynulliad ond i gael gwared o'r Aelodau.[6][7] Serch hyn, maen nhw'n cynnig ymgeiswyr i etholiadau'r Cynulliad, er mwyn ymladd eu hachos o'r tu mewn.
Etholiadau
[golygu | golygu cod]Yn yr Etholiad Ewrop 2009 yng Nghymru, daeth UKIP yn bedwaredd gyda 12.8% o'r bleidlais a fwrwyd. John Bufton oedd Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP yng Nghymru o 2009 hyd 2014. Ymddeolodd yn 2014 ac ers hynny Nathan Gill sy'n cynrychioli UKIP dros Gymru. Mae yn byw yn Sir Fôn ond yn wreiddiol o Hull.[8]
Yn Etholiadau Cynulliad Cymru, 2016, cynyddodd canran UKIP o'r pleidlais bron deirgwaith (o 4.7% i 12.5%) ac enillodd y blaid saith sedd rhanbarthol.[9] Gwelwyd cwymp mawr yn y bleidlais UKIP yn etholiad cyffredinol DU yn 2019 yn ogystal ag etholiad i'r Senedd yn 2021 (0 12.5% i 1.6%), gan cholli y saith sedd rhanbarthol.[10]
Yn ôl nifer fe wnaeth y ceidwadwyr cipio pleidleisiau UKIP yn etholiadau lleol 2021.[11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 981: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- ↑ http://www.youtube.com/watch?v=gJ9Qd7Ow5UQ Cyfweliad gydag Elwyn Williams o Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
- ↑ Tory MP Douglas Carswell defects to Ukip and forces byelection, The Guardian 28 August 2014, adalwyd 6 Medi 2014
- ↑ Manifesto: Welsh Assembly Election, 3 May 2007 ABOLISH THE ASSEMBLY & LEAVE THE EU (Copi archif o wefan UKIP)
- ↑ But didn't the Welsh people vote for the assembly in a referendum? (Copi archif o wefan UKIP)
- ↑ Constitution 2010[dolen farw] o wefan y blaid yn ganolog.
- ↑ UKIP: Plaid Genedlaethol Lloegr Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback, Richard Wyn Jones. Barn Mail 2013
- ↑ [1]
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 981: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- ↑ Mosalski, Ruth (2021-05-10). "The politicians who won't be returning to the Senedd". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-10.
- ↑ "Election results: What the data reveals about Labour's performance - and the reasons for it". Sky News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-10.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol
