Is-etholiad Rochester a Strood, 2014

Oddi ar Wicipedia
Is-etholiad Rochester a Strood, 2014

← 2010 20 Tachwedd 2014 2015 →

Lleoliad Rochester a Strood o fewn Caint



Is-etholiad er mwyn ethol Aelod Seneddol i Dŷ'r Cyffredin dros etholaeth Rochester a Strood yw Is-etholiad Rochester and Strood a gynhelir ar 20 Tachwedd 2014.[1] Etholwyd ail Aelod Seneddol UKIP, sef Mark Reckless gyda 42.1% o'r bleidlais; y Ceidwadwyr oedd yn ail gyda 34.8% a Llafur yn drydydd gydag 16.8%.

Galwyd yr etholiad gan i'r Aelod a oedd yn cynrychioli'r etholaeth (sef Mark Reckless), newid ei aelodaeth o'r Blaid Geidwadol i'r UK Independence Party (UKIP) ac ymddiswyddo fel Aelod Seneddol ar 27 Medi 2014.[2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ychydig cyn i Reckless newid ei deyrngarwch, ymddiswyddodd cyfaill iddo, sef Douglas Carswell, yn yr un modd, gan newid o'r Blaid Geidwadol i UKIP,[3] a hynny ar 28 Awst 2014. Fe'i ail-etholwyd yn AS dros UKIP yn Is-etholiad Clacton, 2014 yn etholaeth Clacton, Essex, gyda mwyafrif sylweddol a 59.7% o'r bleidlais.[4]

Mae'r etholaeth yn cynnwys y trefi: Rochester, Strood, rhannau o Chatham, Brompton, St Mary's Island a Hoo Peninsula.[5]

Canlyniad[golygu | golygu cod]

Rochester and Strood by-election, 20 November 2014[6][7]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Annibynnol Mike Barker 54 0.13 N/A
Plaid Annibynnol Christopher Challis 22 0.05% N/A
Monster Raving Loony Hairy Knorm Davidson 151 0.38 N/A
Britain First Jayda Fransen 56 0.14 N/A
Annibynnol Stephen Goldsborough 69 0.17 N/A
Y Blaid Werdd Clive Gregory 1692 4.2 +2.7
Democratiaid Rhyddfrydol Geoff Juby 349 0.8 -15.5
Llafur Naushabah Khan 6713 16.8 -11.7
People Before Profit Nick Long 69 0.17 N/A
Patriotic Socialist Party Dave Osborn 33 0.08 N/A
UKIP Mark Reckless 16867 42.1 N/A
Annibynnol Charlotte Rose 43 0.11 N/A
Ceidwadwyr Kelly Tolhurst 13947 34.8 -14.4
Mwyafrif 2,920 7.3
Nifer pleidleiswyr 40,065 50.6 -14.3
UKIP yn cipio oddi wrth Ceidwadwyr Gogwydd (heb ei nodi)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rochester by-election date set for 20 November". BBC News. 10 Hydref 2014. Cyrchwyd 15 Hydref 2014.
  2. "Mark Reckless defects to UKIP from Tories". BBC News. 27 Medi 2014. Cyrchwyd 27 Medi 2014.
  3. "BBC News - Conservative MP Mark Reckless defects to UKIP". BBC News. Cyrchwyd 27 Hydref 2014.
  4. "Clacton by-election to be held on 9 October". BBC News. Cyrchwyd 27 Hydref 2014.
  5. 2010 post-revision map non-metropolitan areas and unitary authorities of England
  6. "By-election date set after MP Mark Reckless defects to Ukip". Telegraph.co.uk. 14 October 2014. Cyrchwyd 27 October 2014.
  7. "UKIP's Reckless wins Rochester seat". BBC News. BBC. Cyrchwyd 21 November 2014.