Plaid Werdd Cymru a Lloegr
| Plaid Werdd Cymru a Lloegr | |
|---|---|
| Arweinydd | Carla Denyer a Adrian Ramsay |
| Dirprwy arweinydd | Zack Polanski |
| Sefydlwyd | 1990 |
| Rhagflaenwyd gan | Y Blaid Werdd |
| Pencadlys | Development House, 56-64 Leonard Street, London, EC2A 4LT |
| Asgell yr ifanc | Gwyrdd Ifanc Cymru a Lloegr |
| Aelodaeth (2022) | 53,126 [1] |
| Rhestr o idiolegau | Cynaladwyedd, Cynhesu byd eang, Egni adnewyddadwy |
| Sbectrwm gwleidyddol | Gwleidyddiaeth asgell chwith |
| Partner rhyngwladol | Y Blaid Werdd Rhyngwladol |
| Cysylltiadau Ewropeaidd | Plaid Werdd Ewrop |
| Grŵp yn Senedd Ewrop | Cynghrair Rhydd Ewrop y Blaid Werdd |
| Lliw | Gwyrdd |
| Tŷ'r Cyffredin (Seddi Cymru a Lloegr) | 5 / 575 |
| Tŷ'r Arglwyddi | 2 / 752 |
| Cynulliad Llundain | 3 / 25 |
| Senedd Cymru | 2 / 96 |
| Llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr[2] | 1,317 / 17,403 |
| Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu | 0 / 37 |
| Gwefan | |
| www.greenparty.org.uk | |
Plaid wleidyddol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr ydy Plaid Werdd Cymru a Lloegr (Saesneg: Green Party of England and Wales). Mae'n aelod o Blaid Werdd Ewrop a'r mudiad Gwyrdd rhyngwladol a hi yw'r blaid werdd fwyaf yng ngwledydd Prydain. Sefydlwyd y blaid yn 1990 pan ymrannodd 'Y Blaid Werdd' yn dair rhan: Iwerddon, yr Alban a hon (Cymru a Lloegr). Yn wahanol i fwyafrif y pleidiau eraill, mae wedi'i seilio ar thema, sef dyfodol y blaned a'r pwysigrwydd o leihau carbon deuocsid, cynaladwyedd, cynhesu byd eang, cynyddu egni adnewyddadwy a lleihau ynni niwclear a'n dibynnedd ar danwydd ffosil. Mae hefyd yn gefnogol i gynrychiolaeth gyfrannol.
Mae'n gweithredu yng Nghymru dan yr enw 'Plaid Werdd Cymru', sy'n ymreolaethol o fewn Plaid Werdd Cymru a Lloegr.
Yn 2014 roedd gan y blaid un Aelod Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin, sef Caroline Lucas, sy'n cynrychioli etholaeth Brighton Pavilion.[3] Roedd Lucas yn arweinydd y blaid rhwng 2008 a 2012, pan drosglwyddwyd yr awenau i Natalie Bennett.[4][5] Mae gan y Blaid Werdd hefyd un arglwydd am oes.
Plaid Werdd Cymru
[golygu | golygu cod]Cangen lled-annibynnol o Blaid Werdd Cymru a Lloegr ydy Plaid Werdd Cymru. Mae gan y Blaid Werdd Cymru a Lloegr 126 cynghorwyr ond does dim un yng Nghymru.
Cyd-weithio â Phlaid Cymru
[golygu | golygu cod]Ystyrir Cynog Dafis yn aelod seneddol cyntaf y Blaid Werdd oherwydd cytundeb rhwng y Blaid Werdd a Phlaid Cymru yng Ngheredigion. Roedd Cynog yn gefnogol iawn i syniadau gwyrdd fel y "Bunt Werdd" ac roedd cefnogaeth y Gwyrddion yn bwysig mewn etholaeth ymylol. Cynrychiolodd Cynog Etholaeth Ceredigion a Gogledd Sir Benfro dros Blaid Cymru a'r Blaid Werdd ar y cyd o Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 tan 2000. Mae aelodau o Blaid Cymru yn Llundain wedi helpu'r Gwyrddion yn etholiad cyffredinol 2010, e.e. Rob Sciwen Davies yn Nwyrain Llundain a Petroc ap Seisyllt yn Lewisham.[angen ffynhonnell] Mae hyn yn adlewyrchiad perthynas y ddwy blaid yn Senedd Ewrop fel cyd aelodau o'r EPA, clymblaid o bartïon rhanbarthol a Gwyrddion. Ar hyn o bryd Jill Evans, Plaid Cymru, yw arweinydd y Gwyrddion - Cynghrair Rydd Ewrop yn Senedd Ewrop, ac felly yn arweinydd Ewropeaidd y Gwyrddion.
Swyddogion a Changhennau ym Mai 2010
[golygu | golygu cod]- Ysgrifennydd Cyffredinol: John Matthews
- Swyddog y Wasg: Jake Griffiths
- Aelodaeth: Owen Clarke
- Gwyrddion Ifainc: Sam Coates
- Caerdydd a'r Fro: Jake Griffiths
- Ceredigion : Chris Simpson
- Gwent: Diane Howell
- Gogledd Cymru: Joe Blakesley
- Abertawe: Keith Ross
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "statement of accounts, Green Party". Electoral Commission. 22 Awst 2023. Cyrchwyd 24 Awst 2023.
As at 31 Rhagfyr 2022 the party had 53,126 members
- ↑ Mackintosh, Thomas (4 Mai 2024). "Green Party: Co-leaders hail highest number of councillors". BBC News. Cyrchwyd 4 Mai 2024.
- ↑ "Election 2010 – Constituency – Brighton Pavilion". BBC News. 7 Mai 2010. Cyrchwyd 7 Mai 2010.
- ↑ Jowit, Juliette (5 Awst 2004). "Green party elects Natalie Bennett as leader". The Guardian. London. Cyrchwyd 3 Medi 2012.
- ↑ "Natalie Bennett elected new Green Party leader in England and Wales". BBC News. 3 Medi 2012. Cyrchwyd 3 Medi 2012.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) blog
- (Saesneg) Plaid Werdd Cymru
- (Saesneg) maniffesto[dolen farw]