Official Monster Raving Loony Party
| Plaid Swyddogol yr Ynfydion Cynddeiriog Angenfilaidd | |
|---|---|
| Arweinydd | Alan "Howling Laud" Hope |
| Sefydlwyd | 1983 |
| Pencadlys | 59 New Barn Close, Fleet, Hampshire, GU51 5HU |
| Aelodaeth | 1,434[1] |
| Rhestr o idiolegau | Dychan |
| Sbectrwm gwleidyddol | "Sitting, facing forward" |
| Lliw | Melyn a Du |
| Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig | 7 / 19,031 [2] |
| Gwefan | |
| http://LoonyParty.com | |
Mae Plaid Swyddogol yr Ynfydion Cynddeiriog Angenfilaidd neu Plaid Swyddogol Angenfilaidd yr Ynfydion Cynddeiriog (Saesneg: The Official Monster Raving Loony Party) yn blaid wleidyddol gofrestredig yn y Deyrnas Unedig [3] a sefydlwyd yn 1963 gan y cerddor David Sutch (1940-1999), sy'n fwy adnabyddus fel "Screaming Lord Sutch ". Defnyddiwyd yr enw "Raving Loony" am y tro cyntaf yn 1983, yn is-etholiad Bermondsey.
Mae'r blaid yn nodedig am ei pholisïau abswrd.[4]
Er gwaethaf ei natur ddychanol, mae rhai o'r polisïau sydd wedi ymddangos ym maniffesto'r blaid wedi dod yn gyfraith, megis yr hawl i bleidleisio yn 18 oed, "pasports ar gyfer anifeiliaid anwes", a thafarndai ar agor drwy'r dydd. Yn 1963 yr oed i bleidleisio oedd 21.
Hyd at 2015 roedd dau o'u cynghorwyr wedi bod yn feiri: Alan Hope yn Ashburton, Dyfnaint a Chris Driver o Ynys Sheppey, Caint.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Official Monster Raving Loony Party : Membership". Loonyparty.com. Cyrchwyd 12 Medi 2014.
- ↑ "Elections | The Official Monster Raving Loony Party". Loonyparty.com. Cyrchwyd 27 Mai 2015.
- ↑ http://search.electoralcommission.org.uk/English/Registrations/PP66
- ↑ "Screaming Lord Sutch - History & Timeline". The Loony Archive. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-26. Cyrchwyd 31 Awst 2014.