Neidio i'r cynnwys

Y Democratiaid Rhyddfrydol (DU)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Liberal Democrats)
Y Democratiaid Rhyddfrydol
Enghraifft o'r canlynolplaid wleidyddol Edit this on Wikidata
Idiolegsocial liberalism, pro-Europeanism, Rhyddfrydiaeth Edit this on Wikidata
Label brodorolLiberal Democrats Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu3 Mawrth 1988 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysEnglish Liberal Democrats, Scottish Liberal Democrats, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolAlliance of Liberals and Democrats for Europe Party, Liberal International Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Enw brodorolLiberal Democrats Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.libdems.org.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Paddy Ashdown yn canfasio yn Chippenham yn 1992. Bu'n arweinydd rhwng 1988 a 1999.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn blaid wleidyddol ryddfrydol, gymdeithasol sy'n gweithredu yn y Deyrnas Unedig ac a elwir ar lafar yn Lib Dems. Hyd at 2015, hi oedd y drydedd blaid fwyaf o'r pleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig.[1][2][3]

Ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 1988 pan unwyd y Blaid Ryddfrydol a Plaid y Democratiaid Cymdeithasol (Social Democratic Party neu'r "SDP"). Cyn hynny am saith mlynedd, roedd y ddwy blaid wedi ffurfio'r 'Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr'. Hyd at 1988, bu'r Blaid Ryddfrydol mewn bodolaeth am 129 mlynedd, gydag arweinwyr cryf a Chymreig megis Gladstone a Lloyd George. Rhoddwyd cryn bwyslais ar ddiwygiadau rhyddfrydol er lles y gymdeithas, ac arweiniodd hyn at sefydlu'r Wladwriaeth les yng ngwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon. Yn 1920, fodd bynnag, goddiweddwyd y Rhyddfrydwyr gan y Blaid Lafur, fel y prif fygythiad i'r Blaid Geidwadol. Gwahanwyd y Rhyddfrydwyr a'r Llafurwyr ymhellach yn 1981 oherwydd i'r Blaid Lafur droi fwyfwy i'r asgell chwith.[4][5]

Etholwyd Nick Clegg yn Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2007 ac yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010, cipiwyd 57 o'r seddi ganddynt, a nhw felly oedd y drydedd blaid fwyaf o ran nifer yr Aelodau Seneddol. Roedd gan y Ceidwadwyr 307 a Llafur 258 AS, a gan nad oedd gan yr un blaid y mwyafrif clir, ymunodd y Democratiaid Rhyddfrydol gyda'r Ceidwadwyr i ffurfio cynghrair a phenodwyd Clegg yn Ddirprwy Brif Weinidog y DU.[6] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015, lleihawyd nifer ei haelodau Seneddol i 8 ac ymddiswyddodd Clegg fel Arweinydd ei blaid.[7]

Ffurfio

[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol ar 3 Mawrth 1988 pan unwyd y Blaid Ryddfrydol gyda'r Democratiaid Cymdeithasol, ond daeth i gytundeb gyda'i gilydd saith mlynedd ynghynt pan ffurfiwyd y 'Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr' (SDP–Liberal Alliance).[8] Tarddiad y Blaid Ryddfrydol oedd y Chwigiaid, y Radicaliaid a'r Peelites (yn 1859). Roedd yr SDP cryn dipyn yn iau - fe'i crewyd yn 1982 gan gyn-aelodau seneddol y Blaid Lafur, gydag ambell Geidwadwr a newidiodd ei liw.[9]

Sylweddolodd yr SDP a'r Rhyddfrydwyr - yn gam neu'n gymwys - nad oedd lle i bedair plaid yng ngwleidyddiaeth gwledydd Prydain, a daethpwyd i gytundeb (neu 'Gynghrair') na fyddent yn sefyll yn erbyn ei gilydd mewn etholiad. Arweinyddion y Gynghrair oedd David Steel o'r Rhyddfrydwyr a Roy Jenkins ar ran yr SDP; cyn hir, daeth David Owen i gymryd lle Jenkins.[9] Roedd gan y ddwy blaid eu polisiau eu hunain, ond cyflwynwyd un maniffesto ar gyfer Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1987.

Arweinwyr

[golygu | golygu cod]

Canlyniadau mewn Etholiadau Cyffredinol

[golygu | golygu cod]
Etholiad
cyffredinol
Enw Arweinydd Cyfran o'r
bleidlais
Seddi Cyfran o'r
seddi
Ffynhonnell
1983 Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr David Steel

David Owen

25.4%
23 / 650
3.5% [10]
1987 Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr 22.6%
22 / 650
3.4% [10]
1992 Democratiaid Rhyddfrydol Paddy Ashdown 17.8%
20 / 651
3% [11]
1997 Democratiaid Rhyddfrydol 16.8%
46 / 659
7% [11]
2001 Democratiaid Rhyddfrydol Charles Kennedy 18.3%
52 / 659
8% [12]
2005 Democratiaid Rhyddfrydol 22.0%
62 / 646
10% [13]
2010 Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg 23.0%
57 / 650
9% [14]
2015 Democratiaid Rhyddfrydol 7.9%
8 / 650
1.2% [15]
2017 Democratiaid Rhyddfrydol Tim Farron 7.4%
12 / 650
1.8% [16]
2019 Democratiaid Rhyddfrydol Jo Swinson 11.6%
11 / 650
1.7% [17]

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Aelodaeth
2001 73,276[18]
2002 71,636[18]
2003 73,305[19]
2004 72,721[20]
2005 72,031[21]
2006 68,743[22]
2007 65,400[23]
2008 59,810[24]
2009 58,768[25]
2010 65,038[26]
2011 48,934[27]
2012 42,501[28]
2013 43,451[29]
2015 61,456[30]

Gwelir hefyd

[golygu | golygu cod]

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - y Blaid yng Nghymru.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. http://www.economist.com/news/britain/21645809-survive-party-government-lib-dems-must-hold-south-west-england-they-probably
  2. http://www.bbc.co.uk/programmes/p02ps438
  3. http://www.newstatesman.com/politics/2014/10/why-being-centrist-party-hasnt-helped-lib-dems
  4. Mike Finn (PSA Symposium) (Ebrill 2014). The Coalition and the Liberal Democrats: The Radical Centre in action?. Political Studies Association (forthcoming).
  5. Mark Satin (2004). Radical Middle: The Politics We Need Now. Westview Press and Basic Books. ISBN 978-0-8133-4190-3.
  6. "David Cameron is UK's new prime minister". bbc.co.uk. 12 Mai 2010. Cyrchwyd 12 Mai 2010.
  7. "Election results: Nick Clegg resigns after Lib Dem losses". BBC News. 8 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-24. Cyrchwyd 15 Mai 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw autogenerated2
  9. 9.0 9.1 "A concise history of the Liberal Parties, SDP and Liberal Democrats". Liberal Democrat History Group. 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-29. Cyrchwyd 2015-06-24. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  10. 10.0 10.1 "Statistics 1980s". Electoral Reform Society. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-05. Cyrchwyd 13 April 2008.
  11. 11.0 11.1 "Statistics 1990s". Electoral Reform Society. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-05. Cyrchwyd 15 Mai 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  12. "Results & Constituencies". BBC. 2001. Cyrchwyd 29 Mawrth 2008.
  13. Kettle, Martin (26 Ebrill 2005). "Kennedy can still exploit this perfect political storm". The Guardian. Llundain. Cyrchwyd 21 Mawrth 2008.
  14. Election 2010 United Kingdom – National Results BBC News
  15. "20 things you Mai have missed from the election". BBC News. 8 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-10. Cyrchwyd 15 Mai 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  16. "Results of the 2017 General Election". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-04.
  17. "Results of the 2019 General Election". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-04.
  18. 18.0 18.1 "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2002" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  19. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2003" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  20. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2004" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  21. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2005" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  22. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2006" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  23. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2007" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  24. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2008" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  25. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2009" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  26. Eaton, George (25 Gorffennaf 2013). "Lib Dem money woes grow as party membership hits new low". New Statesman. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-24. Cyrchwyd 15 Mai 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  27. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2011". The Liberal Democrats. t. 27. Cyrchwyd 2 Awst 2012.
  28. Titley, Simon (19 Ionawr 2013). "Liberator's blog: Has the fall in party membership finally ended?". Liberator. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2013.
  29. Rathe, Austin (8 Ionawr 2014). "Liberal Democrats end year with historic membership growth – but we must keep up the good work". Liberal Democrat Voice. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-30. Cyrchwyd 2015-06-24.
  30. http://www.libdems.org.uk/membership_figures

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.