Neidio i'r cynnwys

Shakin' Stevens

Oddi ar Wicipedia
Shakin' Stevens
Y Cefndir
Enw
(ar enedigaeth)
Michael Barratt
Llysenw/auShaky
Ganwyd (1948-03-04) 4 Mawrth 1948 (77 oed)
Caerdydd, Morgannwg, Cymru
Math o GerddoriaethRoc a rol
Cyfnod perfformio1968–presennol
LabelEpic
Perff'au eraillShakin' Stevens and the Sunsets
Gwefanshakinstevens.com

Canwr a chyfansoddwr o Gymru yw Shakin' Stevens (ganwyd Michael Barratt, 4 Mawrth 1948). Fe oedd yr artist a werthodd y fwya' o senglau yn yr 1980au.

Cychwynodd ei yrfa perfformio a recordio yn y 1960au hwyr, er mai 1980 oedd cychwyn ei lwyddiant masnachol. Roedd ei ganeuon mwyaf poblogaidd yn rhai hiraethus, yn ysgogi sain roc a rol a phop y 1950au.

Yn y DU yn unig, cafodd Stevens 29 sengl yn y 40 Uchaf gan cynnwys pedwar cân ar y brig - "This Ole House", "Green Door", "Oh Julie", a "Merry Christmas Everyone". Heblaw am y ffaith fod "Merry Christmas Everyone" yn parhau'n boblogaidd adeg y Nadolig, ei sengl olaf a gyrhaedodd y 40 Uchaf oedd "Trouble" yn 2005.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Michael Barratt yng Nghaerdydd, yr ieuengaf o 11 plentyn aned i Jack a May Barratt.[1] Roedd ei dad yn gyn-filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf a fu'n gweithio fel glöwr ond erbyn 1948 roedd yn adeiladwr. Ganwyd yr hynaf o'i frodyr a chwiorydd yng nghanol yr 1920au, ac erbyn ei enedigaeth roedd rhai ohonynt wedi priodi a dechruau teuluoedd ei hunain. Bu farw Jack Barratt yn 1972, yn 75 oed. Bu farw May Barratt yn 1984, yn 83 oed.

Fe'i magwyd yn Elai ac fel arddegwr yng nghanol y 1960au, ffurfiodd fand roc a rol amatur gyda ffrindiau ysgol, a daeth yn arweiniwr a phrif lais y band. Enw gwreiddiol y band oedd yr Olympics, yna'r Cossacks, cyn i'r band ailenwi yn y diwedd i'r Denims, gan berfformio yn lleol yng Nghaerdydd ac ardal De Cymru. Yn y 1960au hwyr, roedd Stevens yn gysylltiedig a Chynghrair y Comiwnyddion Ifanc (YCL), cangen iau Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr drwy chwarae yn nigwyddiadau'r YCL. Ar y pryd roedd yr UCL yn gysylltiedig a nifer o ffigyrau blaenllaw y byd cerddoriaeth, gan gynnwys Pete Townshend. Fodd bynnag, dywedodd Stevens mai'r rheswm am hyn oedd bod yr unigolyn oedd yn trefnu gigs y band yn aelod o'r Gynghrair.[2]

Yn yr 1960au hwyr, ei waith swyddogol oedd dyn llaeth, ac roedd yn byw mewn fflat oedd yn rhan o floc swyddfa yng nghanol dinas Caerdydd. Dymchwelwyd y bloc swyddfa flynyddoedd yn ddiweddarach.[3]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd Stevens gyda Carole Dunn yn Hydref 1967 ac ysgarodd y ddau yn 2009 wedi 42 mlynedd. Cawsant tri o blant: dau fab, Jason a Dean a merch, Paula. Wedi'r ysgariad, dechreuodd Stevens berthynas gyda'i reolwr Sue Davies. Mae'n dweud iddi achub ei fywyd pan gafodd drawiad ar y galon yng Nghorffennaf 2010.[4]

Mae Stevens yn byw yn Marlow, Swydd Buckingham.[5] Mae'n cefnogwr ar hyd ei oes o dîm pêl-droed Dinas Caerdydd.[6]

Yn 2002, cyhuddwyd Stevens o yrru pan dros y terfyn alcohol ac fe'i waharddwyd o yrru am ddwy flynedd. Cafodd ddirwy o £400.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Shakin Stevens: Echoes of Our Times". HuffingtonPost.co.uk (yn Saesneg). 2 Medi 2016. Cyrchwyd 19 Chwefror 2017.
  2. Simpson, Dave (14 Medi 2016). "Shakin' Stevens: 'I'm like a Skittle. If I get knocked down I get back up again'". The Guardian (yn Saesneg). London.
  3. Heatley, Michael (2005). Shaky – The Biography of Shakin' Stevens (yn Saesneg). Michael O'Mara Books Ltd. t. 240. ISBN 1-84317-177-5.
  4. "Shakin' Stevens bounces back from heart attack to keep the rock'n'roll flame alive". Wales Online (yn Saesneg). 3 Rhagfyr 2011. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2020.
  5. "My Neighbourhood: Shakin' Stevens on Little Marlow | Exclusive Magazines". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ebrill 2017. Cyrchwyd 30 Hydref 2018.
  6. Cardiff City F.C. profile Archifwyd 26 Mehefin 2012 yn y Peiriant Wayback, The-football-club.com; accessed 2 Hydref 2014.
  7. "Shaky gets two-year driving ban". BBC News. Cyrchwyd 19 Chwefror 2017.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.