Ada Vachell

Oddi ar Wicipedia
Ada Vachell
Plac glas Vachell
Ganwyd27 Rhagfyr 1866 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw29 Rhagfyr 1923 Edit this on Wikidata
Clifton, Bryste Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethymgyrchydd Edit this on Wikidata

Roedd Ada Vachell neu Ada Marian Vachell neu Y Chwaer Ada (27 Rhagfyr 1866 - 29 Rhagfyr 1923) yn weithiwr i bobl ag anableddau ym Mryste .

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganwyd Vachell yng Nghaerdydd ym 1866. Ei mam oedd Mary Anne neu Marian (ganwyd Fedden) a William Vachell a oedd yn fasnachwr haearn a Maer Caerdydd deirgwaith[1]. Gadawodd y dwymyn goch Ada yn wan ac yn rhannol fyddar, achosodd yr un clefyd marwolaeth dau o'i thri brawd. Roedd ei thad yn Faer Caerdydd am y trydydd tro a'r tro olaf ym 1875 [2] ac ym 1877 symudodd y teulu cyfan i Clifton ym Mryste lle'r oedd teulu'r fam yn byw.

Mae'n ymddangos bod Vachell wedi cael addysg afreolus. Wrth i Ada dyfu dechreuodd ddosbarthiadau Ysgol Sul ar gyfer morwynion. Sefydlodd "Clwb Llaw Mewn Llaw" i gynorthwyo merched ffatri cynorthwyo eu hunain. Yn 1892, arloesodd wyliau gwledig i ferched ffatri.[3]

Wedi sylwi bod anabledd corfforol yn aml yn condemnio dioddefwyr i fywyd o ddibyniaeth economaidd ac arwahanrwydd cymdeithasol, a bod poen cronig oedd yn cael ei waethygu gan ddiflastod yn aml yn arwain at feddwdod, penderfynodd ei fod am wneud rhywbeth i gynorthwyo pobl ag anableddau.[4]

Darganfydd ei alwedigaeth oes pan ymwelodd â Grace Kimmins a oedd yn gweithio yn Nwyrain Llundain ac yn ddiweddarach yn Sussex. Roedd Kimmins wedi cymryd ei arwyddair i'w gwaith Laetus sorte mea (yn hapus gyda'm rhan) o nofel Juliana Horatia Ewing o 1885, The Story of a Short Life . Dechreuodd Urdd y Pethau Dewr Truenus (Guild of the Poor Brave Things) i helpu plant ag anableddau yn Llundain. Penderfynodd Vachell i ddefnyddio'r un arwyddair o lyfr Ewing â Kimmins ar gyfer ei gwaith hi.[4]

Sefydlodd Vachell cangen o "Urdd y Pethau Dewr Truenus" ym Mryste. Roedd yr urdd yn dysgu pobl ifanc anabl sut i wneud crefftau gan greu nwyddau gellid eu gwerthu er mwyn cynorthwyo at eu cynhaliaeth. Roedd aelodau'r urdd hefyd yn creu sioeau cyhoeddus i ddiddanu eu hunain mewn awyrgylch sobr ac er mwyn codi arian i'r elusen cael mynd a rhai o'r aelodau am wyliau glan y môr. [5] Ym mis Mai 1906 agorodd gartref gwyliau pwrpasol yn Churchill, Gwlad yr Haf.

Ym 1913 adeiladodd elusen Vachell yr hyn a elwir bellach yn Adeilad yr Urdd Treftadaeth yn Bragg's Lane, Bryste. Roedd yr adeilad brics coch hwn yn arloesol gan ei fod yn cynnwys rampiau a drysau llydan i sicrhau ei fod yn hygyrch i bobl ag anableddau.[6]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Vachell yn Clifton ar 29 Rhagfyr 1923 yn 57 mlwydd oed [4] a chladdwyd ei gweddillion ym mynwent y Gadeirlan.[3] Cafwyd gwasanaeth coffi iddi gyda miloedd yn bresennol yn Eglwys Gadeiriol Bryste ym mis Ionawr y flwyddyn ganlynol.[7]

Gwaddol[golygu | golygu cod]

Plac wedi'i ysgythru. Ar y chwith uchaf mae bagl wedi'i groesi gan gleddyf, symbol urdd y rhai dan anfantais a sefydlodd. Mae'r plac yn darllen: A woman made strong by God to give love to the lonely Valour to the weak Comfort to the sorrowful
Plac yn Eglwys Gadeiriol Bryste

Parhaodd yr elusen yr oedd hi wedi'i chreu tan 1987 pan werthodd ei heiddo a dod yn ymddiriedolaeth. Defnyddiwyd yr adeilad yn Bragg's Lane gan y cyngor lleol tan 2010 pan gafodd ei werthu. Fe wnaeth dau o bobl leol ei brynu ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio, yn briodol, fel pencadlys lleol yr NSPCC.[6]

Cafodd blac er cof am Vachell ei osod yn Eglwys Gadeiriol Bryste. Mae plac glas hefyd yn nodi lle'r oedd hi'n arfer byw yn Clyde Road ym Mryste. Mae cofnodion Urdd Pethau Dewr Truenus Bryste (ac Urdd y Rhai Anabl yn ddiweddarach) yn Archifau Bryste (Cyf. 39842) (catalog ar-lein).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "A FORMER MAYOR OF CARDIFF - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1910-10-29. Cyrchwyd 2021-05-15.
  2. Mayors and other secular officials, British History Online, gwybodaeth o Cardiff Records: Volume 5 gol John Hobson Matthews (1905) tud. 508-548. Adalwyd 15 Mai 2021
  3. 3.0 3.1 "Ada Vachell (1866-1923) - Find A Grave Memorial". www.findagrave.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-15.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Vachell, Ada Marian [known as Sister Ada] (1866-1923), worker for disabled people". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/59841. Cyrchwyd 2021-05-15.
  5. Clifton Society 13 Ionawr 1910, 'tud 9: "Clifton Society Talk
  6. 6.0 6.1 Mantin, Mike (yn en). The Guild Heritage Building, Bragg's Lane, Bristol, 1913-2013. https://www.academia.edu/3827902/The_Guild_Heritage_Building_Braggs_Lane_Bristol_1913_2013.
  7. Western Daily Press 02 Ionawr 1924 tud 5. "The Late Miss A Vichell Memorial Service"