Neidio i'r cynnwys

Griff Rhys Jones

Oddi ar Wicipedia
Griff Rhys Jones
GanwydGriffith Rhys Jones Edit this on Wikidata
16 Tachwedd 1953 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, digrifwr, ysgrifennwr, sgriptiwr, byrfyfyriwr, actor teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.griff-rhysjones.co.uk/ Edit this on Wikidata

Digrifwr, llenor, actor a gŵr busnes o Gymru yw Griffith "Griff" Rhys Jones (ganwyd 16 Tachwedd 1953)[1]. Daeth i sylw yn yr 1980au pen serennodd ynghyd â Mel Smith mewn nifer o raglenni comedi ar y teledu yng ngwledydd Prydain.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Griffith Rhys Jones yng Nghaerdydd,[2] yn fab i Gwynneth Margaret (née Jones) a'r meddyg Elwyn Rhys Jones[3]. Roedd yn 6 mis oed pan symudodd y teulu i Gorllewin Sussex gyda gwaith ei dad.[4] Mynychodd Jones Ysgol Gynradd Conifers yn Midhurst, cyn i'w deulu symud i Epping, Essex.[2] Mynychodd ysgol gynradd yn Epping, ac Ysgol Brentwood, hefyd yn Essex.[5][2] Tra'r oedd y teulu'n byw yn Essex, roedd gan ei dad gwch yn West Mersea, a gallent hwylio o gwmpas arfordir Suffolk ac i'r Broads.[6]

Tra yn Ysgol Brentwood, cyfarfodd â Charlie Bean (a ddaeth yn Gyfarwyddwr Gweithredol Banc Lloegr yn ddiweddarach) a Douglas Adams (a aeth ymlaen i ysgrifennu The Hitchhiker's Guide to the Galaxy). Yn 1967, ymddangosodd yn nrama Macbeth fel y Prif Wrach, gyda Douglas Adams fel Siward a sarsiant. Roedd yn rhan o'r grŵp a'u gelwid yn "The Clique" gan y prifathro oherwydd eu campau direidus. Ar ôl cyfnod byr yn gweithio fel gwas pwmp-petrol, cafodd swydd blwyddyn-bwlch ar long P&O yr Uganda, yn gweithro i gwmni a oedd yn trefnu teithiau ysgol. Yn ei hunangofiant, Semi-Detached, mae'n disgrifio sut rhoddwyd iddo'r cyfrifoldeb o edrych ar ôl 600 o ferched ysgol o Ganada, ac yna nifer tebyg o ferched ysgol Albanaidd iau, ac mae'n disgrifio'r profiad fel "St Trinians ar y môr".[7] Fe ysgrifennodd at wyth o'r merched o Ganada yn ddiweddarach, gan golli ei wyryfdod i un ohonynt.[8]

Dilynodd Bean ac Adams i Brifysgol Caergrawnt, lle astudiodd hanes a Saesneg yng Ngoleg Emmanuel. Tra yno, ymunodd Rhys Jones â chlwb Footlights Caergrawnt (a daeth yn is-lywydd yn 1976). Roedd hefyd yn lywydd y Clwb Dramatig Amatur. Ar y pryd, roedd ei uchelgais yn myd y theatr, yn cyfarwyddo yn arbennig.[9]

Ymunodd â adran Adloniant Ysgafn BBC Radio fel cyfarwyddwr dan hyfforddiant, gan weithio ar raglenni dychanol Week Ending a Brain of Britain.[10] Pan wahoddwyd ef i weld sioe ei arwr, Frankie Howerd, gan ei ffrindiau Clive Anderson a Rory McGrath, cymerodd le cynhyrchydd y sioe pan ddioddefodd hwnnw o salwch fel canlyniad o'r straen o ddelio gyda'r digrifwr. Yn ddiweddarach cynhyrchodd Rhys Jones raglen Rowan Atkinson, Atkinson's People, ar gyfer y BBC.

Mae Rhys Jones wedi ymddangos ar Whose Line Is It Anyway? ddwywaith. Yr ail-ymddangosiad oedd y mwyaf cofiadwy, pan stwffiodd hosan John Sessions yn ei geg ychydig cyn diwedd y gêm Film and Theatre Styles, bu bron iddo fethu tynnu'r hosan allan wedyn. Lleisiodd y cymeriadau yng nghartŵn Funnybones, rhaglen plant a enillodd nifer o wobrau. Lleisiwyd y fersiwn Gymraeg, Sgerbyde gan Ray Gravell.[11]

Chwaraeodd Rhys Jones rôl nifer o gymeriadau bychain ar Not the Nine O'Clock News, a daeth yn aelod parhaol o'r cast gan gymryd lle Chris Langham yn yr ail gyfres. Mae Rhys Jones yn dweud na gafodd y gwaith oherwydd ei allu na'i gymeriadau yn y sioeau cynt, ond oherwydd fod ei chwaer a'r cynhyrchydd John Lloyd yn caru ar y pryd.

Enillodd Rhys Jones wobr Theatr Laurence Olivier yn 1984 (ar gyfer tymor 1983) ar gyfer y Perfformiad Digri Gorau yn Charley's Aunt ac yn 1994 (ar gyfer tymor 1993) ar gyfer y Perfformiad Digri Gorau yn An Absolute Turkey. Chwaraeodd rhan "Toad" yng nghynhyrchiad y Theatr Genedlaethol o The Wind in the Willows yn 1990, yn ogystal â nifer o rôlau eraill yn y theatr.

Cydweithio gyda Mel Smith

[golygu | golygu cod]

Ar ôl gorffen Not the Nine O'Clock News, credodd Smith a Rhys Jones y byddent yn dod yn di-waith. Penderfynon wneud rhywbeth ynghylch hyn: gan greu ac ysgrifennu mwy o waith ar y cyd. Yn 1981 cychwynon nhw gwmni cynhyrchu eu hunain, Talkback Productions. Aeth ymlaen i fod gwmni llewyrchus gan gynhyrchu eu rhaglenni teledu eu hunain yn ogystal â rhaglenni comedi poblogaidd eraill.[12]

Ysgrifennu

[golygu | golygu cod]

Mae Rhys Jones wedi ysgrifennu neu cyd-ysgrifennu nifer o'r rhaglenni mae wedi ymddangos ynddynt, a nifer o lyfrau ynghlwm a'r rhaglenni.

Yn 2002, dechreuodd ysgrifennu llyfr o'r enw To the Baltic with Bob, yn disgrifio ei anturiaethau ar y môroedd mawr gyda'i ffrind hwylio Bob, tra maent yn teithio i St Petersburg, o borthladd i borthladd.[13] Cyhoeddwyd y llyfr yn 2003, gan ddweud: "Fel plentyn, rydych chi'n mynd allan i chwarae ac yn colli trac o amser a lle. Mae'n anoddach cael gafael ar y cyflwr gwynfyd hwnnw fel rydych chi'n heneiddio. Fe es i ar daith i St Petersburg am chwe mis gyda ffrindiau er mwyn ei adennill."[14]

Mae ei fywyd cynnar wedi cael ei grynhoi yn ei hunangofiant, Semi-Detached, a gyhoeddwyd yn 2006 gan Penguin Books. Cyhoeddwyd ei lyfr Mountain ym mis Gorffennaf 2007, i gydfynd a'r cyfres deledu ar BBC1.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Cyfarfu Rhys Jones a'i wraig, Jo, dylunydd graffeg, tra'n gweithio i'r BBC. Mae wedi disgrifio eu cyfarfod cyntaf, gan ddweud "Y diwrnod gyfarfyddon ni, roeddwn i'n hanner noeth, ac roedd hi'n taflu dŵr drostai."[15] Mae ganddynt ddau o blant ac maent yn byw rhan amser mewn dau gartref, yn West End, Llundain (yn Islington gynt) ac yn Holbrook, Suffolk.[16] Mae gan y teulu Labrador brown o'r enw "Cadbury".[17] Mae Rhys Jones yn berchen ar gwch hwylio glas o'r enw Undina, sy'n 50 mlynedd oed ac yn 45 troedfedd o hyd.

Yn 2004 prynodd fferm Trehilyn Uchaf ger Dinbych-y-Pysgod, Sir Benfro. Treuliodd flynyddoedd yn adfer y tŷ fferm a'r adeiladau eraill ac fe'i ffilmiwyd ar gyfer rhaglen ddogfen BBC The Pembrokeshire Farm. Mae'r tai ar gael i'w llogi fel bythynnod gwyliau, yn ogystal â Bwthyn Trehilyn, sydd hefyd yn berchen iddo ac yn dŷ gwyliau.[18][19] Mae wedi lleisio ei wrthwynebiad i bolisi Llywodraeth Cymru o roi'r dewis i gynghorau lleol godi ardoll ymwelwyr.[20]

Bu Rhys Jones yn yfwr trwm gynt, ond mae'n lwyrymwrthodwr erbyn hyn: "Nid ydw i'n yfed, felly mae mynd i barti yn gallu bod yn ddiflas. Erbyn 11 o'r gloch, mae pawb arall ar blaned arall, ac nid ydych chi yno gyda nhw, fellu dwi'n tueddu i osgoi'r math yna o beth"[21] Nid yw'n bwyta gwenith ychwaith. Tra yn ei bedwardegau cynnar, dechreuodd redeg yn ei amser hamdden.

Mae wedi derbyn graddau er anhrydedd gan Brifysgol Morgannwg, Prifysgol Essex[5] a D.Litt er anrhydedd o Brifysgol Anglia Ruskin.[22] Mae hefyd yn Gymrawd y Coleg Cerdd a Drama Cymru,[23] Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, ac yn Gymrawd Er Anrhydedd ei gyn-goleg, Coleg Emmanuel, Caergrawnt.[24] Yn 2009 cafodd ei anrhydeddu gan cyn-brifysgol ei dad, Coleg Feddygol Prifysgol Cymru (nawr yn rhan o Brifysgol Caerdydd).[9]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Who's Who
  2. 2.0 2.1 2.2 "Rhys Jones, Griff (1953–)". screenonline.org.uk. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2017.
  3. "Griffith Rhys Jones biography". Filmreference.com. Cyrchwyd 21 Mehefin 2011.
  4. Matthew Stadlen "Griff Rhys Jones: 'I’m greedy for life – I do too many things'", The Daily Telegraph, 3 Tachwedd 2014.
  5. 5.0 5.1 "Essex announces honorary graduands". essex.ac.uk. 4 Mai 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Ionawr 2013.
  6. Suffolk: Estuary English[dolen farw], Mail on Sunday, 2001.
  7. Semi-Detached, Griff Rhys Jones' autobiography, Penguin, 2006
  8.  Michael Odell (5 Tachwedd 2006). This much I know: Griff Rhys Jones. The Guardian.
  9. 9.0 9.1 "Degree for Griff Rhys Jones from father's old university". South Wales Echo. 14 Gorffennaf 2009.
  10. Bio at Screen Online
  11. "Sgerbyde". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2025-06-16.
  12. "What's a wealthy guy like you ..." The Guardian (yn Saesneg). 21 Mehefin 2003. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-06-16.
  13.  Griff Rhys Jones. My Cardiff, ar Archif y We.
  14.  Michael Odell (5 Tachwedd 2006). This much I know: Griff Rhys Jones. The Guardian.
    "As a child you go out and play and you lose all track of time and space. It's harder and harder to attain that blissful state of absorption as you get older. I did a six-month sailing trip to St Petersburg with some mates just to get it back."
  15. "The day we met, I was semi-naked and she was throwing water over me."
  16.  Clowning around with Mr Jones. BBC (14 Mai 1999).
  17.  Restoration interview. BBC (29 Ebrill 2004).
  18. Ridout, Joanne (27 Rhagfyr 2022). "Renovation project by Griff Rhys Jones at derelict farm". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-06-16.
  19. Ridout, Joanne (2022-12-27). "Renovation project by Griff Rhys Jones at derelict farm". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-06-17.
  20. ""Pembrokeshire tourism needs incentives, not punishment" - Griff Rhys Jones". Western Telegraph (yn Saesneg). 2023-08-16. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2025-06-17.
  21.  Clowning around with Mr Jones. BBC (14 Mai 1999).
  22. "Anglia Ruskin University Honorary Graduates". anglia.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Rhagfyr 2012.
  23. "Royal Welsh College of Music and Drama – Honorary Fellows". rwcmd.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mawrth 2012.
  24. "Emmanuel College – About Emmanuel – The Fellows". University of Cambridge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mehefin 2012.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]