Ali Yassine
Jump to navigation
Jump to search
Ali Yassine | |
---|---|
Ganwyd | 1963 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | actor, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm ![]() |
Cysylltir gyda | Pobol y Cwm ![]() |
Cynhyrchydd, cyfarwyddwr, actor a chyflwynydd radio a theledu Cymreig o dras Eifftaidd a Somali ydy Ali H. M. Yassine (ganed 1963), a chyn-gyhoeddwr ar faes pêl-droed a rygbi Caerdydd.[1] Mynychodd Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd. Dysgodd y Gymraeg pan oedd yn ei ugeiniau. Bu'n actio ar Pobol y Cwm, yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru a chyflwyno rhaglenni dogfen ar gyfer S4C.[2]
Ers 2012 mae'n gweithio fel rheolwr Swyddfa Ffilm Caerdydd, adran o'r cyngor sy'n rheoli ffilmio a ffotograffiaeth yng Nghaerdydd.
Llyfrau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Ali Yassine: Llais yr Adar Gleision, cyfres Stori Sydyn 2010, Ali Yassine gyda Alun Gibbard, Y Lolfa, ISBN 9781847711731
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Tim Lewis (28 Ebrill 2009). Announcer Ali: "I’ve got the best job in the world". South Wales Echo.
- ↑ Sarah Manners (2 Awst 2008). ‘It’s a big part of who I am; Welsh gives me identity’. South Wales Echo.