Clive Sullivan
Clive Sullivan | |
---|---|
Ganwyd | 9 Ebrill 1943 Caerdydd |
Bu farw | 8 Hydref 1985 o canser yr afu Kingston upon Hull |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r gynghrair, chwaraewr rygbi'r undeb |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Hull F.C., Hull Kingston Rovers, Oldham R.L.F.C., Tîm rygbi'r gynghrair cenedlaethol Cymru, Great Britain national rugby league team |
Safle | Asgellwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraewr rygbi'r gynghrair o Gymru oedd Clive A. Sullivan MBE (9 Ebrill 1943 – 8 Hydref 1985). Chwaraeodd ar yr asgell i glybiau Hull FC a Hull Kingston Rovers, ac i Oldham a Doncaster, ac i dimau Cymru a Phrydain Fawr. Pan wnaed Sullivan yn gapten tim Prydain Fawr ym 1972, ef oedd capten du cyntaf mewn unrhyw gamp yng ngwledydd Prydain.[1] Roedd yn aelod o'r tîm Prydain Fawr a enillodd Gwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair 1972. Cafodd ei fab, Anthony Sullivan, yrfa lwyddiannus gyda Hull Kingston Rovers, St. Helens, a thros Gymru yn y gynghrair rygbi ac undeb, a Chlwb Rygbi Caerdydd.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Roedd Sullivan yn enedigol o ardal Sblot yng Nghaerdydd, a chafodd driniaethau i'w bengliniau, ei draed a'i ysgwyddai pan oedd yn ei arddegau cynnar. Ymunodd a'r fyddin yn 1961 a lleolwyd ef yn Catterick yn Swydd Efrog. Yno y dechreuodd chwarae rygbi'r gynghrair; cafodd ei ddewis i chwarae mewn gem rhwng corffluoedd am ei fod yn Gymro. Defnyddiodd ei ymarferion milwrol i wella fel chwaraewr a chafodd ei dderbyn i chwarae i Hull.
Cyfyngwyd tri thymor cyntaf Sullivan gan ei ddyletswyddau yn y fyddin, tair llawdriniaeth i'w ben-glin a damwain car bron yn angheuol ym mis Hydref 1963, er iddo ddychwelyd i chwarae rygbi dri mis yn ddiweddarach. Gadawodd y fyddin ar ôl cyfnod yng Nghyprus ym 1964. Yn rhydd o'i ymrwymiad i'r fyddin, dychwelodd i Hull mewn pryd i chwarae gêm olaf y tymor.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd Sullivan yn eithriadol o gyflym, ac er yr anawsterau gyda'i bengliniau a llawdriniaethau pellach, sgoriodd 250 mewn 352 o gemau i Hull a sgorio 118 o geisiau mewn 213 o gemau i Hull Kingston Rovers. Bu'n gapten-hyfforddwr Hull FC rhwng 1973 a '74.
Chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf i dim Prydain Fawr ym 1967. Y flwyddyn ganlynol chwaraeodd dair gêm yng Nghwpan y Byd, gan sgorio hat-tric yn erbyn Seland Newydd. Ym 1969, aeth ar daith o amgylch Awstralasia, ond dim ond mewn un gêm y cymerodd ran oherwydd anaf. Enillodd dri chap prawf arall yn erbyn Seland Newydd ym 1971. Cafodd ei benodi'n gapten o dim Prydain Fawr yn 1972, a chwaraeodd ddwy gem brawf yn erbyn Ffrainc. Cynhaliwyd Cwpan y Byd yr un flwyddyn, ac ef oedd capten y tim ddaeth yn bencampwyr y byd. Sgoriodd gais ym mhob un o'r pedair gêm. Sgoriodd Sullivan o bosib y cais enwocaf yn hanes Cwpan y Byd pan redodd hyd y cae i sgorio cais i ddod yn gyfartal ag Awstralia (10-10) yng Ngêm Derfynol Cwpan y Byd.
Daeth ei yrfa gyda thim Prydain Fawr i ben yn 1973 gyda thair gem brawf yn erbyn Awstralia. At ei gilydd, chwaraeodd Sullivan i dim Prydain Fawr 17 o weithiau.
Arweiniodd Sullivan dim Cymru ym mhob un o'u pedair gem yng Nghwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair 1975, gan sgorio cais yn y fuddugoliaeth dros Loegr yn yr ail gêm. Gorffennodd Cymru yn drydydd o'r pum tim oedd yn cystadlu.
Bu farw Sullivan o ganser yn 1985 pan oedd yn 42 oed. Cymaint oedd y parch tuag ato yn ninas Hull fel bod rhan o'r A63, y brif ffordd i mewn i'r ddinas rhwng y Pont Humber a chanol y ddinas wedi'i henwi yn Clive Sullivan Way er anrhydedd iddo.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Spracklen, Karl (2001). 'Black Pearl, Black Diamonds' Exploring racial identities in rugby league. Routledge. ISBN 978-0-415-24629-3.