Canser yr afu

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Canser yr afu
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol Clefyd Edit this on Wikidata
Math Gastrointestinal system cancer, endocrine gland cancer, clefyd yr afu, rare hepatic and biliary tract tumor, liver neoplasm edit this on wikidata
Dynodwyr
Thesawrws NCI C34803, c7692 edit this on wikidata
Freebase /M/03m3vr6 edit this on wikidata
MeSH D008113 edit this on wikidata
UMLS CUI C0023903, c0024620, c0345904, c0854795, c0023903 edit this on wikidata
Arall
Commons page Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math o ganser sy'n cychwyn yn yr afu yw canser yr afu, a elwir hefyd yn ganser hepatig a chanser hepatig cynradd.[1] Mae canserau sydd wedi lledaeni i'r afu o lefydd eraill yn y corff (metastasis yr afu) llawer mwy cyffredin na chyflyrau sy'n cychwyn yn yr afu.[2] Gall canser yr afu achosi symptomau megis ymdeimlad o boen neu lwmp gweledol islaw'r gawell asennau ar yr ochr dde, chwyddo yn yr abdomen, croen melyn, cleisio hawdd, colli pwysau a gwendid cyffredinol.

Achosir y rhan fwyaf o gyflyrau canser yr afu gan sirosis o ganlyniad i hepatitis B, hepatitis C, neu alcohol.[3] Ymhlith yr achosion eraill y mae afflatocsin, afiechyd afu brasterog di-alcohol, a llyngyr yr afu. Y mathau mwyaf cyffredin o'r cyflwr yw carsinoma hepatogellol neu HCC (80% o achosion), a cholangiocarcinoma. Ceir rhai llai cyffredin yn ogystal, er enghraifft neoplasm systig mwsinog a neoplasm bustlaidd papilaidd anhydradwyol. Gellir cadarnhau diagnosis drwy brawf gwaed a delweddu meddygol a chanfod tystiolaeth bellach o'r cyflwr drwy biopsi meinwe.

Ymhlith y dulliau gwarchodol posib y mae imiwneiddio yn erbyn hepatitis B ynghyd a chynnig triniaethau i'r rheini sydd wedi'u heintio â hepatitis B neu C. Argymhellir sgrinio unigolion â chlefyd cronig yr afu. Gellir trin y cyflwr drwy lawfeddygaeth, therapi targedu a therapi ymbelydredd. Mewn rhai achosion, defnyddir therapi abladu neu therapi gorymddwyn a chynhelir trawsblaniad o'r afu mewn achosion eithafol. Caiff lympiau bach yn yr afu eu harchwilio'n aml.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]