John Humphrys

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Humphrys
JohnHumphrys.jpg
Ganwyd 17 Awst 1943 Edit this on Wikidata
Y Sblot Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth newyddiadurwr, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Priod Valerie Sanderson Edit this on Wikidata

Mae Desmond John Humphrys (ganwyd 17 Awst 1943) yn awdur, newyddiadurwr a chyflwynydd radio a theledu Cymreig. O 1981 i 1987 roedd yn brif gyflwynydd Newyddion Naw o'r Gloch, prif raglen newyddion Prydeinig y BBC. Ers 1987 mae wedi cyflwyno rhaglen arobryn BBC Radio 4, Today. Ers 2003 mae wedi bod yn gyflwynydd y cwis teledu "anoddaf un" – Mastermind. Mae gan Humphrys enw da fel cyfwelydd dygn a phlaen; o bryd i'w gilydd mae gwleidyddion wedi bod yn feirniadol iawn o'i arddull ar ôl cael eu cyfweld yn llym ganddo ar radio a theledu byw.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Humphrys ei eni yn Pearl Street, Sblot, Caerdydd yn fab i Edward George Humphrys, Cwyrydd Ffrenig, a Winifred Mary (cynt Matthews), triniwr gwallt. Roedd yn un o bump o blant. Brawd iddo oedd Bob Humphrys gohebydd chwaraeon BBC Cymru.[2]

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Caerdydd gan adael yr ysgol yn 15 oed i gychwyn gyrfa yn y byd newyddiadurol.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl gadael yr ysgol cafodd ei benodi'n ohebydd dan hyfforddiant ar y Penarth Times cyn cael ei benodi yn gyw ohebydd ar y Western Mail ac yna'n ohebydd teledu ar TWW. Ymunodd â'r BBC ym 1966 fel gohebydd rhanbarthol Lerpwl a gogledd orllewin Lloegr, cyn cael ei ddyrchafu'n ohebydd tramor. Fel gohebydd tramor fu'n gyfrifol am ohebu'r newyddion am ymddiswyddiad Richard Nixon o arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.

Ym 1981 daeth yn brif angor rhaglen Newyddion Naw y BBC gan gadw'r swydd hyd 1987 pan gafodd ei benodi'n brif gyflwynydd rhaglen newyddion Today ar Radio 4 fel olynydd i John Timpson. O 1993 hyd 2003 bu'n gyflwynydd y rhaglen deledu On The Record [3]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Devil's Advocate. London: Arrow Books Ltd. (2000). ISBN 0-09-927965-7
  • The Great Food Gamble. London: Coronet Books. (2002). ISBN 0-340-77046-5
  • Lost For Words: The Mangling and Manipulating of the English Language. London: Hodder & Stoughton Ltd. (2004). ISBN 0-340-83658-X.
  • Beyond Words: How Language Reveals the Way We Live Now. London: Hodder & Stoughton Ltd. (2006). ISBN 0-340-92375-X.
  • In God We Doubt: Confessions of a Failed Atheist. London: Hodder & Stoughton Ltd. (2007). ISBN 0-340-95126-5.
  • "Blue Skies & Black Olives" London; Hodder & Stoughton Ltd (2009). ISBN 978-0-340-97882-5
  • John, Humphrys; Jarvis, Sarah (2009-04-02). The Welcome Visitor: Living Well, Dying Well (1st ed.). Hodder & Stoughton. ISBN 0-340-92377-6. 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. [1] Gwefan www.bbc.co.uk; adalwyd 16 Mai 2015
  2. ‘HUMPHRYS, John’, Who's Who 2014, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2014; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, Tachwedd 2014 Adalwyd 16 Mai 2015
  3. Gwefan www.bbc.co.uk; adalwyd 16 Mai 2015