Bob Humphrys

Oddi ar Wicipedia
Bob Humphrys
Ganwyd16 Ebrill 1952 Edit this on Wikidata
Y Sblot Edit this on Wikidata
Bu farw18 Awst 2008 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Darlledwr Cymreig oedd Bob Humphrys (16 Ebrill 195219 Awst 2008), a fu'n adnabyddus yn bennaf fel gohebydd chwaraeon newyddion BBC Wales, ac yn wyneb cyfarwydd ar y rhaglen newyddion nosweithiol Wales Today.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Humphrys yn Sblot, ardal dosbarth gweithiol tlawd yng nghanol Caerdydd, yn frawd iau i'r newyddiadurwr a'r cyflwynydd teledu John Humphrys. Roedd Humphrys yn un o bump o blant ganwyd i Winifred Mary (Matthews), menyw trin gwallt, ac Edward George Humphrys, cabolwr Ffrengig hunangyflogedig.[1][2] Cafodd ei annog i wneud ei waith cartref, pasiodd yr arholiad eleven plus gan ddod yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, bryd hynny yn ysgol ramadeg.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ar ôl gadael y brifysgol, daeth yn newyddiadurwr papur newydd, gan weithio ar nifer o gyhoeddiadau cyn ymuno a'r Western Mail yng Nghaerdydd. Yna fe ymunodd a BBC Radio Wales yn 1978, ac yna ymunodd a thîm teledu BBC Wales fel newyddiadurwr ymchwiliol yn fwyaf aml ochr yn ochr â'i frawd ar Week In Week Out, lle'r oedd ei adroddiadau yn cynnwys ymchwiliad cynnar ar yr epidemig AIDS oedd yn datblygu yng ngwledydd Prydain. O'r 1990au cynnar dechreuodd Humphrys ohebu ar chwaraeon, un o'i ddiddordebau brwd. Cyflwynodd Humphrys a'i gyd-weithiwr ar y pryd, y cyn chwaraewr Rygbi'r Undeb dros Gymru J.J. Williams, sioe cyn gêm rygbi rhyngwladol yng Nghlwb Rygbi Caerdydd.[3] Yn 2004 fe roddwyd gwobr cyflawniad oes iddo gan BBC Cymru yng ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y flwyddyn.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ar ôl dioddef o boen yn ei ysgwyddau yn hwyr yn 2007, cafodd archwiliad Pelydr-X yn dilyn gorchymyn gan ei ddoctor yn Mai 2008, a ddangosodd ei fod yn dioddef o gancr yr ysgyfaint, er nad oedd wedi smocio erioed. Cadarnhaodd Humphrys ei ymddeoliad yn Mehefin 2008, cyn gwneud cyfweliad gyda'r The Mail on Sunday lle'r oedd yn trafod ei ddiagnosis.[4] Cyn marw fe gwblhaodd ei hunangofiant Not a Proper Journalist.

Roedd Humphrys yn briod gyda thri o blant (dwy ferch, un bachgen) ac roedd yn byw yng Nghaerdydd.[3] Fe roedd ei farwolaeth yn brif stori ar BBC Wales Today ar 19 Awst 2008, gyda'i chyn-gydweithiwr a'i hyfforddai darlledu Jamie Owen yn arwain y stori, a theyrnged bersonol gan ei gydweithiwr Vincent Kane.

Yn 2009, fe gynhaliodd y tîm hoci iâ lleol, Diawled Caerdydd, Noson Nostalgia yn erbyn Hull Stingrays yn anrhydeddu gwaith Bob Humphrys gyda BBC Sport a'i waith ohebu ar y Devils yn y 1990au cynnar.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Desert Island Discs with John Humphrys". Desert Island Discs. 6 Ionawr 2008. BBC. Radio 4. http://www.bbc.co.uk/radio4/factual/desertislanddiscs_20080106.shtml.
  2. The Daily Telegraph, 21 Gorffennaf 2007, "Family Detective"
  3. 3.0 3.1 Former BBC sports presenter dies (en) , BBC News, 19 Awst 2008.
  4. Bob Humphrys (17 Mehefin 2008). "The day I was told I had lung cancer, by the brother of Radio 4's John Humphrys" (yn Saesneg). Mail on Sunday. Cyrchwyd 19 Awst 2008.