BBC Wales Today

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Wales Today)
Jump to navigation Jump to search
Wales Today
Cyflwynwyd gan Lucy Owen, Jennifer Jones, Nick Servini
Cyfansoddwr thema David Lowe
Gwlad Cymru, Y Deyrnas Gyfunol
Iaith wreiddiol Saesneg
Cynhyrchiad
Lleoliad(au) Caerdydd, Cymru
Gosodiad camera Aml-gamera
Hyd y rhaglen 30 munud
(prif raglen am 6:30pm)
Cwmni cynhyrchu BBC Cymru
Rhyddhau
Rhwydwaith gwreiddiol BBC One Wales
Fformat y llun 576i (16:9 SDTV)
1080i (HDTV)
Darlledwyd yn wreiddiol 17 Medi 1962 (1962-09-17) – presennol
Cronoleg
Sioeau cysylltiol ITV News: Wales at Six,
Cardiff News
Dolennau allanol
Gwefan

Rhaglen newyddion iaith Saesneg i BBC Cymru yw BBC Wales Today. Mae'n debyg mai hi yw un o'r cyfresi teledu pwysicaf yng Nghymru, gyda chynulleidfa sylweddol yn gyson, er enghraifft roedd cyfartaledd o 277,000 o wylwyr yn 2006/07.[1]

Darlledir y prif raglenni bob Llun i Wener o 18:30 - 19:00, ond mae rhaglenni byrion a bwletinau i'w cael drwy'r dydd, o'r bwletinau byrion yn ystod rhaglen Breakfast ar BBC One Wales, hyd at y rhaglen hwyr am 22:25 ar ôl y BBC News at Ten.

Y prif gyflwynwyr yw Lucy Owen, Jennifer Jones a Nick Servini (o Mehefin 2018), y cyflwynydd chwaraeon arferol yw Claire Summers a'r prif gyflwynydd tywydd yw Derek Brockway. Golygydd y rhaglen yw Delyth Isaac.

Cyn gyflwynwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cyn gyflwynwyr Wales Today yn cynnwys: Elfyn Thomas, Noreen Bray; John Darren; Sara Edwards; Gail Foley; Jayne James; Rhys Jones; Patrick Hannan; Brian Hoey; Bob Humphrys; Vincent Kane; Jason Mohammad; Chris Morgan; David Parry-Jones; Betsan Powys; Penny Roberts; Simon Pusey; Tim Rogers, Kevin Owen, Glyn Mathias, Peter Walker, Alan Wilkins, Jamie Owen

Cysylltiad allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Arolwg Blynyddol BBC Cymru Wales 2006/07
Flag of Wales (1959–present).svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.