Behnaz Akhgar

Oddi ar Wicipedia
Behnaz Akhgar
Ganwyd28 Tachwedd 1980 Edit this on Wikidata
Shiraz Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata

Cyflwynydd tywydd Cymreig o dras Iranaidd yw Behnaz Akhgar (ganwyd 28 Tachwedd 1980) sy'n cyflwyno'r tywydd ar wasanaeth BBC Cymru, gan gynnwys BBC Wales Today.

Ganwyd yn Shiraz yn Iran, a symudodd ei theulu i Abertawe pan oedd hi'n 10 oed.[1] Gweithiodd fel model yn ei harddegau, ond penderfynodd rhoi'r gorau iddi wedi i'w hasiantaeth ofyn iddi golli pwysau.[2] Enillodd radd mewn astudiaethau cyfathrebu o Brifysgol Morgannwg a diploma ôl-raddedig mewn newyddiaduriaeth ddarlledu o Brifysgol Caerdydd.[1]

Dechreuodd weithio yn y diwydiant teledu yn 2001, fel cynorthwy-ydd newyddion i BBC Cymru, yn gyntaf fel golygydd lluniau ac yn hwyrach yn newyddiadurwraig fideo. Dechreuodd gyflwyno'r tywydd yn 2008, a chafodd ei hyfforddi gan Swyddfa'r Tywydd yng nghanolfan y BBC yn Llundain.[1]

Cystadlodd ar y rhaglen S4C cariad@iaith yn 2014.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Behnaz Akhgar’s health and body secrets, WalesOnline (7 Gorffennaf 2012). Adalwyd ar 9 Mehefin 2017.
  2. (Saesneg) Weirdo cloud on horizon for weather girl Behnaz, WalesOnline (13 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 9 Mehefin 2017.
  3. Actores yn ennill Cariad@Iaith, Golwg360 (22 Mehefin 2014). Adalwyd ar 9 Mehefin 2017.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]