Cariad@iaith

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolrhaglen deledu Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata
Fideo gan Tom Shanklin o wefan S4C

Comisiynwyd y rhaglen deledu cariad@iaith (hefyd: cariad@iaith:love4language) yn 2002 gan S4C wedi i'r cwmni teledu Fflic amlinellu syniadau a oedd yn cynnwys aelodau o'r cyhoedd a oedd yn dymuno dysgu Cymraeg ac a oedd ar gyrsiau 6-wythnos yng Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.[1] Datblygwyd y cynllun hwn i fod yn gyfres o raglenni wythnos-gyfan a ddarlledwyd yn 2004, ble gwelwyd saith seren (Cymreig) o'r byd darlledu yn Nant Gwrtheyrn, yn ceisio dysgu'r iaith mewn wythnos: Janet Street-Porter, Ruth Madoc, Dame Tanni Grey-Thompson, Amy Wadge, Steve Strange, Bernard Latham a Jamie Shaw.[2]

Ar 8 Gorffennaf 2011 ail-lansiwyd y rhaglen ar ei newydd wedd, gyda Matt Johnson, Sophie Evans, Josie d'Arby, Colin Charvis, Helen Lederer, Rhys Hutchings, Melanie Walters a'r AS Lembit Öpik yn ceisio dysgu Cymraeg dan ofal y tiwtoriaid iaith Nia Parry ac Ioan Talfryn yn y gwersyll eco fforest yng ngorllewin Cymru.[3][4] Cafwyd cyfres o raglenni arbennig dros y Nadolig, yr un flwyddyn, wedi'i ffilmio yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin.[5]

Ym Mai 2012 dychwelodd cariad@iaith:love4language gyda llond dwrn o ddysgwyr newydd: Alex Winters, Lisa Rogers, y tenor Wynne Evans, Lucy Owen, y chwaraewr rygbi Gareth Thomas, cyn-ymgeisydd y rhaglen X-Factor Lucie Jones a'r actorion Robert Pugh a Di Botcher.

Yn 2013 dychwelwyd i'r syniad o gael aelodau o'r cyhoedd. Yn 2014 cafwyd wyth seren arall, gan gynnwys Neville Southall, Behnaz Akhgar, Ian Watkins a Sam Evans. Ffilmiwyd cyfres 2015 yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth ac fe'i darlledwyd ym Mehefin 2015. Ailwahoddwyd cyn-sêr i'r gyfres hon, gan gynnwys Chris Corcoran a Steve Speirs, gyda Nia Parry a Wynne Evans yn cyflwyno.

Cystadleuwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfres Blwyddyn
1 2002 Aelodau'r cyhoedd
2 2004 Tanni Grey-Thompson Bernard Latham Ruth Madoc Jamie Shaw Steve Strange Janet Street-Porter Amy Wadge
3 2011 Josie d'Arby Colin Charvis Sophie Evans Rhys Hutchings Matt Johnson Helen Lederer Lembit Öpik Melanie Walters
4 2012 Di Botcher Wynne Evans Lucie Jones Lucy Owen Robert Pugh Lisa Rogers Gareth Thomas Alex Winters
5 2013 Aelodau'r cyhoedd
6 2014 Behnaz Akghar Sam Evans Jenna Jonathan John Owen Jones Suzanne Packer Sian Reeves Neville Southall Ian "H" Watkins
7 2015 Derek Brockway Rebecca Keatley Chris Corcoran Jamie Baulch Nicola Reynolds Steve Speirs Caroline Sheen Tom Shanklin

Ar-lein[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2015 cyhoeddodd S4C y byddai'r gyfres ar gael ar-lein i bawb drwy'r byd.[6] Fodd bynnag, ni fydd y rhaglenni i'w gweld ar ôl 17 Gorffennaf.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan BBC Cymru; adalwyd 17 Mehefin 2015
  2. "I'm a celebrity... rwy'n dysgu Cymraeg*". BBC Wales. 5 Mawrth 2004. Cyrchwyd 13 Mai 2012.
  3. http://www.coldatnight.co.uk
  4. http://www.s4c.co.uk/e_press_level2.shtml?id=521
  5. www.thisissouthwales.co.uk; adalwyd 17 Mehefin 2015
  6. Gwefan S4C; adalwyd 17 Mehefin 2015
  7. golwg360; adalwyd 17 Mehefin 2015