Janet Street-Porter

Oddi ar Wicipedia
Janet Street-Porter
LlaisJanet Street-Porter BBC Radio4 Desert Island Discs 23 Nov 2008 b00fkbrf.flac Edit this on Wikidata
GanwydJanet Vera Ardern Edit this on Wikidata
27 Rhagfyr 1946 Edit this on Wikidata
Brentford Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lady Margaret School
  • Architectural Association School of Architecture Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
PriodFrank Cvitanovich, Tony Elliott, Tim Street-Porter Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.janetstreetporter.com/ Edit this on Wikidata

Newyddiadurwraig, golygydd, cyflwynydd a chynhyrchydd teledu Seisnig o dras Gymreig ydy Janet Vera Street-Porter (née Bull, ganwyd 27 Rhagfyr 1946), sy'n bersonoliaeth adnabyddus yn y cyfryngau. Bu'n olygydd The Independent on Sunday am ddwy flynedd cyn dod yn olygydd "at-large" yn 2002.[1] Mae ei acen de Llundain nodedig a'i dannedd wedi ei gwneud yn destun sbri nifer o ddigrifwyr.[2][3]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Street-Porter yn Brentford, Middlesex, yn ferch i Cherry Cuff Ardern (née Jones), oedd yn gweithio fel dynes cinio ysgol ac yn y gwasanaeth sifil fel cynorthwydd clerigol mewn swyddfa dreth.[4] Roedd hi'n Gymraes Gymraeg ac yn hanu o Benmaenmawr. Ei thad oedd Stanley W G Bull, peiriannydd trydanol a wasanaethodd fel uwch-sarsiant yn Royal Corps of Signals yn yr Ail Ryfel Byd. Ar y pryd, roedd ei thad dal yn briod i'w gŵr cyntaf, George Ardern, a ni briododd Stanley nes 1954, felly cofnodwyd ei chyfenw fel Ardern yn y cofnodion geni. Yn ddiweddarach cymerodd gyfenw ei thad.[4]

Roedd hi'n gyfnither lawn i Brynle Rees Parry, archifydd Sir Gaernarfon.[5]

Fe'i magwyd yn Fulham, Gorllewin Llundain a symudodd y teulu i Perivale, Llundain Fwyaf pan oedd yn 14 mlwydd oed. Byddai'r teulu yn mynd ar wyliau i dref enedigol ei mam, Llanfairfechan. Mynychodd Ysgol Ramadeg y Fonesig Margaret Tudor yn Parsons Green rhwng 1958 ac 1964 lle pasiodd 8 Lefel-O a 3 Lefel-A yn Saesneg, Hanes a Chelf. Cymerodd Lefel-A ym mathemateg pur hefyd ond ni phasiodd. Tra'n astudio lefelau-A, cafodd erthyliad anghyfreithlon.[6] Yna treuliodd ddwy flynedd yn yr Architectural Association School of Architecture, lle cyfarfu ei gŵr cyntaf, Tim Street-Porter.[7]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Disgynodd allan o'r coleg gan ganfod gwaith yn y cyfryngau. Wedi cyfnod byr gyda chylchgrawn merched Petticoat, ymunodd â'r Daily Mail ym 1969, lle daeth yn is-olygydd ffasiwn.[8] Daeth yn olygydd ffasiwn yr Evening Standard ym 1971.[7]

Pan ddechreuodd orsaf radio'r LBC ddarlledu ym 1973, cyd-gyflwynodd Street-Porter sioe ganol bore gyda'r colofnydd Fleet Street, Paul Callan.[9] Y bwriad oedd i gyferbynnu Callan trefol a Street-Porter cockney. Daeth eu hacenion yn adnabyddus i'r cynhyrchwyr fel "cut-glass" a "cut-froat". Bu rhithiant rhwng y ddau, gyda one-upmanship cyson yn denu gwrandawyr.

Yn gynnar ym 1975, daeth Street-Porter yn olygydd lawnsiad Sell Out, cangen o gylchgrawn Time Out Llundain, ynghyd a'i gyhoeddwr a'i hail ŵr Tony Elliott. Nid oedd y cylchgrawn yn llwyddiant.[10]

Teledu[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Street-Porter weithio ar y teledu ar LWT ym 1975, fel gohebydd i gychwyn, ar gyfres o raglenni wedi ei anelu at ieuenctid, gan gynnwys The London Weekend Show (1975–1979). Aeth ymlaen i gyflwyno sioe sgwrsio hwyr y nos, Saturday Night People (1978–1980), gyda Clive James a Russell Harty. Yn ddiweddarach cynhyrchodd Twentieth Century Box (1980–1982), a gyflwynwyd gan Danny Baker.[7]

Street-Porter oedd golygydd rhaglen arloesol Channel 4, Network 7 o 1987, yr un flwyddyn ag apwyntwyd hi'n bennaeth erthyglau ieuenctid ac adloniant BBC 2 gan Alan Yentob. Hi oedd yn gyfrifol am DEF II, a chomisiynodd Rapido, Red Dwarf a Rough Guide.[11] Enillodd ei rhaglen Network 7 BAFTA ar gyfer y graffeg ym 1988.

Ym 1992, darparodd y stori ar gyfer The Vampyr: A Soap Opera, addasiad y BBC o opera Heinrich August Marschner, Der Vampyr, a gynhwysodd libreto newydd gan Charles Hart.

Ni anwylodd ymdriniaeth Street-Porter o'i gwaith hi at ei beirniaid, a wrthwynebodd ei hynganiad gan gwestiynu ei haddasrwydd fel dylanwad ar ieuenctid Prydain.[11] Yn ei blwyddyn olaf gyda'r BBC, daeth yn bennaeth comisiynu annibynnol. Gadawodd y BBC i weithio gyda'r Mirror Group Newspapers ym 1994, gan ddod yn gyfarwyddwr rheoli ar y cyd o sianel L!VE TV gyda Kelvin MacKenzie.[11] Gadawodd y swydd ar ôl pedwar mis.[7] Ym 1996, sefydlodd Street-Porter ei chwmni cynhyrchu ei hun.

Mae wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu realiti, gan gynnwys Call Me a Cabbie a So You Think You Can Teach lle bu'n ceisio gweithio fel athrawes ysgol gynradd.[12] Bu'n gystadleuydd yng nghyfres I'm a Celebrity... Get Me Out of Here! ITV, gan orffen yn bedwerydd.

Mae Street-Porter wedi cyfweld â nifer o bobl busnes ac eraill ar gyfer Bloomberg TV.[12]

Enwebwyd Street-Porter ar gyfer gwobr "Mae West Award for the most outspoken woman in the industry" yn 2000, yng ngwobrau Merched mewn Ffilm a Theledu, Carlton Television.[7]

Yn 2006, ymddangosodd yn rheolaidd ar raglen The F-Word y cogydd Gordon Ramsay, lle bu'n ohebydd y maes. Ei swydd hi oedd canfod bwydydd anarferol a denu pobl i'w bwyta. Yn y drydedd gyfres achosodd ymryson wedi iddi geisio gweini cig ceffyl yn Cheltenham Racecourse. Ataliwyd hi gan yr heddlu, a ddisgrifiodd y gamp fel un andros o brofoclyd, a gorfodwyd iddi weini'r bwyd rhywle arall. Daeth Ramsay ei hun yn darged i brotestwyr hawliau anifeiliaid, a adawodd tunnell o dail tu allan i'w fwyty, Claridge's.[13]

Yn 2007, serenodd Street-Porter ar raglen deledu realiti ITV2, Deadline, fel golygydd llym a oedd yn gweithio gyda tîm o enwogion oedd yn chwarae ar fod yn ohebwyr a chynhyrchu cylchgrawn clebran wythnosol. Roedd rhaid i'r enwogion oddef lymder tafod Street-Porter tra bu'n penderfynu pwy i ddiswyddo pob wythnos.[14]

Yn 2008, roedd Street-Porter yn westai Celebrity Big Brother Hijack.

Mae ei llais unigryw wedi ei gwneud yn ffefryn ymysg dynwaredwyr. Mae Pamela Stephenson wedi gwatwar Street-Porter ar Not the Nine O'Clock News (1979–82), ac roedd Kenny Everett hefyd wedi ei dynwared.

Gwaith papurau newydd[golygu | golygu cod]

Daeth Street-Porter yn olygydd yr Independent on Sunday ym 1999. Er i'w beirniaid ei dirmygu, cynyddodd gylchrediad y papur i 270,460, a oedd yn gynnydd o 11.6%.[7] Yn 2002, daeth yn olygydd "at-large", gan ysgrifennu colofn rheolaidd. Mae hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer amryw o bapurau newydd a chylchgronau eraill.

Colofn ar Ian Tomlinson[golygu | golygu cod]

Yn dilyn marwolaeth Ian Tomlinson yn 2009, cysegrodd Street-Porter ei cholofn yn yr Independent on Sunday i baentiad o Tomlinson fel "dyn wedi ei drafferthu gyda cryn dipyn o broblemau" ("troubled man with quite a few problems"):

"Knowing that he was an alcoholic is critical to understanding his sense of disorientation and his attitude towards the police, which might on first viewing of the video footage, seem a bit stroppy."[15]

Pryfociodd hyn ymateb negyddol gan y darllenwyr a'i chyhuddodd o geisio pardduo enw da Tomlinson er mwyn rhyddhau'r heddlu o fai. Gwadodd Street-Porter mai dyma oedd ei bwriad.[15]

Gweithgareddau eraill[golygu | golygu cod]

Bu Street-Porter yn lywydd y Ramblers' Association am ddwy flynedd rhwng 1994 ac 1996. Cerddodd ar draws Brydain o Dungeness yng Nghaint i Gonwy yng Nghymru yng nghyfres Coast to Coast ym 1998.[7] Cerddodd hefyd mewn llinell syth o Gaeredin i Lundain ym 1998, ar gyfer cyfres deledu a'i llyfr As the Crow Flies.[16] Ym 1994, for the documentary series The Longest Walk, cyd-deithiodd gyda'r cerddwraig pellter-hir, Ffyona Campbell, ar y darn olaf o'i thaith cerdded oamgylch y byd.

Tŷ a gomisiynwyd gan Janet Street-Porter, Clerkenwell, Llundain

Ym 1987, comisiynodd Street-Porter CZWG Architects i ddylunio tŷ. Mae'r adeilad yn sefyll allan ymysg tai Sioraidd Clerkenwell, gyda'r tu allan ôl-fodern, sy'n ein atgoffa fymryn o Broadcasting House.

Ymddangosodd fel rhodiwr mewn sîn clwb nos yn Blowup ym 1966. Yn 2003, ysgrifennodd a chyflwynodd sioe un-dynes yng Ngŵyl Caeredin, sef All the Rage.[1] Cyhoeddodd lyfr hunangofianol, Baggage, yn 2004, am ei phlentynod yn Llundain dosbarth-gweithio. Mae hefyd ddilyniant i'r llyfr hwn, sef Fallout.[1] Cyhoeddodd hefyd Life's Too F***ing Short, lle mae'n cyflwyno, yn ei geiriau ei hun, sut i gael beth rydych eisiau allan o fywyd gan fynd ar y trywydd mwyaf uniongyrchol.

Mae Janet Street-Porter yn adnabyddus am siarad yn ddi-flewyn ar dafod am ystod eang o bynciau, mae'n ysgrifennu erthyglau hreolaidd ar gyfer y Daily Mail. Yn 2009, ysgrifennodd erthygl gyda'r teitl "Why I hate Facebook", yn datgan fod ystafelloedd sgwrs ar y we yn "druenus" ac yn rhybuddio rhag peryglon twyll, rhwydo, gwastrodio a datgan fod rhwydweithio cymdeithasol yn drosedd yn erbyn preifatrwydd.[17]

Er gwaethaf (neu efallai oherwydd) iaith gyntaf ei mam, mae hi wedi bod yn ddilornus iawn o'r Gymraeg ar adegau, er iddi ymuno â dosbarth dysgu'r Gymraeg ar gyfer rhaglen S4C.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae Street-Porter yn ffrind i'r model Elizabeth Hurley, a dawnsiodd gyda Hurley a chwech o eraill yn nathliadau Indiaidd y noson cyn priodas Hurley ac Arun Nayar yn 2007.[18]

Mae Street-Porter wedi priodi bedair gwaith:

  • Tim Street-Porter - ffotograffydd[7] (1967–1975)
  • Tony Elliott - Time Out (1975–1977)
  • Frank Cvitanovich - gwneuthurwr ffilmiau Canadiaidd, 19 yn hŷn na hi (1979–1981)
  • David Sorkin - priodias a barhaodd 14 mis, gan ddechrau pan oedd ef yn 27 oed.

Erbyn hyn mae mewn perthynas gyda'r dyn busnes bwytai, Peter Spanton.

Mae'n byw ar hyn o bryd yn Thurlton[19] yn Norfolk, Caint a Llundain. Cyn hynny roedd ganddi dŷ yn Nidderdale, Swydd Efrog.[20][21]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  Deadline: Janet Street-Porter. ITV. Adalwyd ar 23 Ebrill 2007.
  2.  Pamela Stepenson describes playing Janet Street Porter. The Guardian (30 Medi 2001).
  3.  On being a victim of Kenny Everett and Spitting Image. London 24 (6 Mawrth 2008).
  4. 4.0 4.1 Janet Street-Porter (2004). Baggage – My Childhood. Headline. ISBN 0755312651.
  5. Gwybodaeth lafar oddi wrth ei chefnder.
  6. Generation '66, BBC Four, 31 July 2016
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 7.5 7.6 7.7  Janet Street-Porter. screenonline.org.uk. Adalwyd ar 27 Ebrill 2007.
  8.  Janet Street-Porter: Sorry, I'm a shame free zone. Daily Mail. Adalwyd ar 6 Mai 2007.
  9.  LBC. Media UK.
  10.  Magazine launches & events 1975-89. Magforum.com.
  11. 11.0 11.1 11.2  Stuart Jeffries (6 Ebrill 2007). I am not an amateur. The Guardian. Adalwyd ar 23 Ebrill 2007.
  12. 12.0 12.1  TV & Radio. Janet Street-Porter.
  13.  The night Janet Street-Porter ate horse meat. Daily Mail.
  14.  Deadline. ITV.
  15. 15.0 15.1  Janet Street-Porter (12 April 2009). Tomlinson was no saint, but he deserved better. The Independent on Sunday.
  16. Janet Street-Porter (1998). As the Crow Flies. Llundain: Metro Books. ISBN 978-1900512718
  17.  Janet Street-Porter (6 Chwefror 2009). Why I hate Facebook. Daily Mail.
  18.  Janet Street-Porter (11 Mawrth 2007). So there I was dancing for Liz, the biggest by three dress sizes.... The Independent. Adalwyd ar 6 Mai 2007.
  19. Baldwin, Louisa. "'It's exactly like The Archers' – Janet Street-Porter reveals she has moved to Norfolk". Eastern Daily Press (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-10. Cyrchwyd 2019-08-12.
  20. "The Dales: A lifelong romance – UK – Travel". The Independent. 2005-11-06. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-21. Cyrchwyd 2015-02-21.
  21. Lynn Barber. "Janet Street-Porter tells Lynn Barber that she has no intention of mellowing with age | Media". The Guardian. Cyrchwyd 2015-02-21.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Rhagflaenydd:
Kim Fletcher
Golygydd The Independent on Sunday
1999–2002
Olynydd:
Tristan Davies