Dungeness

Oddi ar Wicipedia
Dungeness
Mathpenrhyn Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolLydd
Daearyddiaeth
SirCaint
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
GerllawMôr Udd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.9167°N 0.9667°E Edit this on Wikidata
Cod OSTR0917 Edit this on Wikidata
Map

Pentir ar arfordir deheuol Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, ydy Dungeness. Fe'i ffurfir o draeth graeanog ar ffurf trwyn o dir. Mae'n cysgodi ardal fawr o dir isel, Cors Romney. Saif ar y pentir mae Atomfa Dungeness, goleudy, pentrefan Dungeness,[1] a safle ecolegol. Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Lydd yn ardal an-fetropolitan Folkestone a Hythe.

Y pentrefan[golygu | golygu cod]

Mae'r pentrefan yn cynnwys casgliad rhydd o anheddau, y mwyafrif ohonynt yn cytiau glan môr o bren, ond mae tua 30 o dai hefyd wedi'u trosi o hen gerbydau rheilffordd. Pysgotwyr sy'n berchen ar y tai hyn ac y mae eu cychod yn gorwedd ar y traeth. Mae dau dafarn hefyd. Efallai mai'r tŷ mwyaf nodedig yw Prospect Cottage, a oedd yn eiddo i'r diweddar arlunydd a chyfarwyddwr ffilm Derek Jarman.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 29 Ebrill 2020
Eginyn erthygl sydd uchod am Gaint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato