Gŵyl Caeredin

Oddi ar Wicipedia
Perfformwyr yn Royal Mile

Casgliad o wyliau celfyddydol a diwylliannol sy'n cymryd rhan yn flynyddol ym mis Awst yng Nghaeredin, yr Alban ydy Gŵyl Caeredin. Trefnir y gwyliau hyn gan nifer o sefydliadau heb gysylltiadau ffurfiol rhyngddynt, sy'n golygu nad oes un digwyddiad unigol a enwir yn swyddogol yn Ŵyl Caeredin, ond fe'u hystyrir hefyd yn un ŵyl ddiwylliannol, a honno'r fwyaf o'i bath drwy Ewrop.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae Gŵyl Caeredin yn tarddu o 1947, pan sefydlwyd Gŵyl Ryngwladol Caeredin (Saesneg: Edinburgh International Festival, EIF) mewn ymdrech ôl-ryfel i "ddarparu platfform ar gyfer blodeuo'r ysbryd dynol". Yr un flwyddyn, ymunodd wyth cwmni theatr yn answyddogol i'r gan drefnu eu digwyddiad eu hunain, a hynny allan o reolaeth swyddogol yr EIF; dechreuodd hynny'r mudiad a dyfodd yn Edinburgh Festival Fringe (EFF). Cyfeirir at yr EFF hefyd fel Fringe Caeredin, neu (yn anghywir) fel Gŵyl Fringe Caeredin.

Mae'r EIF a'r Fringe yn dal fel cyrff annibynnol ac yn trefnu rhaglenni gwahanol yn flynyddol. Ers i Ŵyl Rhyngwladol Caeredin cael ei threfnu ym 1947, mae amryw o wyliau eraill wedi cael eu sefydlu yno gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn cymryd rhan ddiwedd yr haf.