Brynle Rees Parry

Oddi ar Wicipedia
Brynle Rees Parry
Ganwyd1935 Edit this on Wikidata
Bu farw2003 Edit this on Wikidata
Galwedigaethllyfrgellydd Edit this on Wikidata

Brynle Rees Parry (19352003) oedd trydydd Archifydd y Sir i wasanaethu Cyngor Sir Gaernarfon.[1] Yn frodor o Frymbo ger Wrecsam, aeth i'r coleg ym Mangor (Coleg Prifysgol Gogledd Cymru), yn y lle cyntaf gyda'i olwg ar fynd i'r weinidogaeth ond fe raddiodd mewn hanes cyn astudio ar gyfer Diploma mewn Gweinyddu Archifau,(DAA). Cafodd ei benodi'n Archifydd Sir Feirionnydd lle buodd am rai blynyddoedd, cyn symud i Gaernarfon ym 1964.

Cafodd lwyddiant mawr wrth chwyddo casgliadau a dylanwad Archifdy Caernarfon, gan weithio i raddau trwy ei ysgrifenyddiaeth o'r gymdeithas hanes sirol, Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. Magodd ddiddordeb mawr yn hanes y môr, gan sefydlu cylchgrawn Cymru a'r Môr gyda'i ffrindiau Aled Eames a Lewis Lloyd.

Roedd ei ddyléit fel archifydd mewn ehangu defnydd y deunydd dan ei ofal a hyrwyddo defnydd gan ysgolion yn hytrach na chatalogio - fe oedd yn gyfrifol, gyda'i ffrind T.M. Bassett o Goleg y Normal, Bangor, mewn ymgyrchu'n llwyddiannus am benodi swyddog addysg yn yr archifdy - y swydd gyntaf o'i bath yng Nghymru os nad Prydain gyfan. Bu'n llwyddiannus yn broffesiynol hefyd trwy fynd yn Gadeirydd Cymdeithas Archifyddion Sirol Prydain am rai blynyddoedd.

Ymddeolodd ym 1996 fel Dirprwy Gyfarwyddwr Diwylliant Cyngor Sir Gwynedd pan ddaeth yr awdurdod hwnnw i ben. Parhaodd i fyw yn ei dŷ ym Mhorth-y-gest ond bu farw ymhen ryw dair blynedd.

Roedd o'n Gymro Cymraeg, er iddo deimlo efallai (a hynny'n gyfeiliornus) nad oedd Cymraeg gyfoethog ei bentref genedigol yn ddigon da wrth ochr ei Saesneg. Roedd yn gefnder cyfan i Janet Street-Porter ar ochr ei fam a ddaeth o ardal Penmaenmawr yn wreiddiol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "B. R. Parry Draft Copy of 'The History of the Nannau Family to 1623' Thesis". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2 Hydref 2018. Unknown parameter |gwefan= ignored (help)

Adnabyddiaeth bersonol.