Nia Parry

Oddi ar Wicipedia
Nia Parry
Ganwyd1973 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethathro iaith Edit this on Wikidata

Cyflwynwraig a chynhyrhhhhhgggychydd teledu yw Nia Parry (ganwyd Awst 1975).

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd ar Ynys Môn a fe'i magwyd yn Llandrillo-yn-Rhos.[1] Mynychodd Ysgol y Creuddyn, ac astudiodd Saesneg, Cymraeg a Ffrangeg ar gyfer Lefel A. Aeth ymlaen i wneud gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe. Wedi graddio, aeth i deithio yn Nepal, India, De America, Yr Aifft, Israel a Thwrci. Bu'n gweithio fel tiwtor Saesneg yn Istanbul am naw mis cyn dychwelyd i Gymru i wneud PhD mewn Methodoleg Dysgu Ail Iaith, gan edrych yn benodol ar ddysgu Cymraeg ail-iaith i oedolion.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Mae Nia yn un o wynebau mwyaf adnabyddus S4C ond cyn cychwyn o flaen y camerau dechreuodd ei gyrfa fel tiwtor Cymraeg yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn 2000, cafodd gynnig gwaith fel cyflwynydd ar gyfres S4C Welsh in a Week. Yn dilyn chwe cyfres aeth ymlaen i gyflwyno fwy o raglenni ar gyfer dysgwyr yn cynnwys Cariad@iaith, lle roedd yn dysgu Cymraeg i amryw o enwogion.

Bu'n gyflwynydd ar y rhaglen Cwpwrdd Dillad a chyflwynodd o'r Sioe Frenhinol, y cwis 0 ond 1, Dathlu a Noson Lawen a llu o gyfresi eraill. Mae ar hyn o bryd yn cyflwyno'r gyfres Adre ar S4C.

Mae wedi gweithio fel cynhyrchydd ar nifer o gyfresi yn cynnwys Cwpwrdd Dillad, 4 Wal, Tŷ Cymreig ac Ar Werth. Mae hefyd yn Gynhyrchydd rhaglenni dogfen profiadol ac ymysg rhai o'r rhaglenni ddaeth i'r sgrin yn ddiweddar mae Martin Thomas a Bwrw Bol a'r Bleiddiaid.[2]

Yng Ngorffennaf 2017 daeth yn Olygydd llyfrau plant Cymraeg gyda Gwasg Gomer.[3]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n briod â'r Cynhyrchydd teledu Aled Davies ac mae ganddynt ddau o blant. Symudodd o Gaerdydd i Rhostryfan yn 2009.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Mark Thomas. Penny's People: Nia Parry - a wholesome star on a Welsh teaching mission (en) , 10 Hydref 2014. Cyrchwyd ar 30 Ebrill 2017.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Nia Parry. Adalwyd ar 30 Ebrill 2017.
  3.  Gwasg Gomer yn “hollol dawel” eu meddwl. Golwg360 (21 Gorffennaf 2017).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]