Suzanne Packer

Oddi ar Wicipedia
Suzanne Packer
GanwydSuzanne Jackson Edit this on Wikidata
20 Tachwedd 1962 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Actores o Gymraes yw Suzanne Packer (ganwyd Suzanne Jackson; 20 Tachwedd 1962)[1] sy'n fwyaf adnabyddus am chwarae rôl Tess Bateman yn y gyfres deledu Casualty o fis Medi 2003 hyd at Awst 2015. Dychwelodd i'r sioe fel gwestai ar gyfer penodau'r 30fed pen-blwydd. Mae hi bellach yn dysgu mewn nifer o ysgolion yng Nghymru.[2][3]

Packer yn cyflwyno Gwobrau Dewi Sant ar ran Llywodraeth Cymru yn 2015

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Mae Suzanne yn ferch i rieni a ymfudodd o Jamaica i'r Fenni, ac roedd ei mam yn gweithio fel nyrs. Hi yw chwaer hynaf yr athletwr Olympaidd Colin Jackson.[4] Tra'n astudio yn Ysgol Uwchradd Llanedeyrn yng Nghaerdydd, roedd eisoes yn dangos diddordeb mewn actio, gan chwarae'r rhan flaen mewn dramâu ysgol, gan gynnwys Oklahoma a The King and I .

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Mynychodd Suzanne Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru cyn ennill BA mewn theatr a drama ym Mhrifysgol Warwick. Yna hyfforddodd yn Academi Ddrama Webber Douglas yn Llundain.[5]

Cychwynnodd ar yrfa actio yn gynnar yn y 1990au, ac roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Josie, gwraig Mick Johnson yn opera sebon Brookside ar Channel 4. Yna, astudiodd am radd mewn addysgu yng Ngholeg Goldsmiths, ac ar ôl graddio yn 1996, dysgodd ddrama yn Llundain.

Tra'n actio, cyfarfu â phriododd yr actor Americanaidd Jesse Newman. Symudodd y cwpl i Ddinas Efrog Newydd, lle bu'n dysgu drama ac actio, ac yn 2003 ganwyd eu mab Paris. Ar ôl yr enedigaeth, dechreuodd eu perthynas chwalu, a chytunodd y cwpl symud yn ôl i'r DU, ond penderfynodd Newman aros yn yr Unol Daleithiau yn ddiweddarach. Ysgarodd y cwpl y flwyddyn ganlynol.[4]

Wedi cyrraedd nôl yng Nghaerdydd gyda'i mab tair mis oed, cafodd glyweliad ar gyfer drama BBC Casualty. Tair wythnos yn ddiweddarach cychwynodd weithio fel Sister Tess Bateman, gan ymddangos yn gyntaf ar y sgrin o fis Medi 2003. Ym mis Tachwedd 2006, gadawodd Martina Laird, oedd yn chwarae rhan Comfort, y gyfres, oedd yn golygu mai Suzanne oedd yr ail aelod hiraf o'r cast.[2]

Ar 22 Awst 2015, gadawodd Casualty ar ôl chwarae cymeriad Tess am bron i 12 mlynedd i ddod yn aelod o gast Stella a Doctors .

Ymddangosodd Suzanne gyda'i brawd Colin ar y gyfres gyntaf o Pointless Celebrities ar 6 Gorffennaf 2011. Aethont allan yn y rownd gyntaf.[6]

Ar 19 Mawrth 2017, ymddangosodd yn y ddrama drosedd Vera ar ITV fel 'ranger' Sophia yn y bennod "Natural Selection".

Ar 23 Chwefror 2018, ymddangosodd yn y gyfres ddiweddaraf o Death in Paradise.

Ar 18 Mawrth 2018, chwaraeodd rhan fach mewn pennod o Hold the Sunset.

Ar 4 Tachwedd 2018, chwaraeodd Eve Cicero yn mhennod o Doctor Who , "The Tsuranga Conundrum".[7]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae Suzanne wedi ysgaru o'r actor Americanaidd Jesse Newman ac yn 2006 roedd yn byw yng Nghaerdydd gyda'u mab Paris.[4]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Cymeriad Cynhyrchiad Nodiadau
1990–2000 Brookside Josie Johnson/Brooks Channel 4 17 pennod.
1992 Crime Story Barbara Pilkington ITV 1 pennod : "All Good Friends"
1994 The Lifeboat Helen Mitchell Anhysbys 1 pennod : "Shadow of Doubt"
1995 Grange Hill Miss Foster BBC 2 bennod: (cyfres 18, pennod 19), (cyfres18, pennod 20)
Some Kind of Life Dr. Judson Anhysbys
1996 Wales Playhouse Veronica BBC Wales 1 pennod : "Strangers in the night"
Porkpie Trish Channel 4 1 pennod : "Fatal Distraction"
1997 Tiger Bay Marie Anhysbys 4 pennod .
1998 Brothers and Sisters Siobhan Etienne Anhysbys
1999 The Bill Katherine Adams ITV 1 pennod : "Treading Water"
2000 Dirty Work Rhiannon Anhysbys 6 pennod .
2002 Third Watch Dr. Sharon Reid NBC Drama drosedd Americanaidd. Pennod "The Greater Good"
2003 – 2015, 2016 Casualty Tess Bateman BBC Gadawodd yn Awst 2015, ymddangosodd yn Rhifyn Pen-blwydd 30ain yn Awst 2016.

Cyfarwyddodd 1 pennod:

"Guilty Secrets" (2010)

2004–2005 Holby City 2 bennod:

"Casualty @ Holby City: Part Two" (2004)

"Casualty @ Holby City: Deny thy father – Part 2" (2005)

2005 Casualty @ Holby City 3 pennod:

"Crash and Burn" (2005)

"Teacher's Pet" (2005)

"Interactive: something we can do" (2005)

2014 Under Milk Wood Mrs. Beynon Ffilm deledu
2015 Doctors Rose Blair "The Heart of England"
2016 Stella Carol Sky 1 cyfres 5
The Level Teresa Devlin ITV 6 pennod, rhan rheolaidd
2017 Vera Sophia "Natural Selection"
Bang Layla S4C 8 pennod. Drama ddwyieithog
Keeping Faith Delyth Lloyd 8 pennod. Drama ddwyieithog
2018 Death in Paradise Maya Oprey BBC Cyfres 7, pennod 8
Hold the Sunset Mrs. Pool 1 pennod : "Roger the Carer" (cyfres1, pennod 5)
Doctor Who Eve Cicero 1 pennod : "The Tsuranga Conundrum" (cyfres 11, pennod 5)
The ABC Murders Capstick Cyfres fer, 3 pennod

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. @packersuzanne (21 Mehefin 2020). "Thank you. 26th November and I was born in Cardiff in 1962! Bouquet" (Trydariad) – drwy Twitter.
  2. 2.0 2.1 "Characters & Cast: Tess Bateman". Casualty. BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-22. Cyrchwyd 2009-03-06.
  3. Hayward, Anthony (1996). Who's Who on Television. London: Boxtree. ISBN 0 7522 1067 X.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Colin Jackson and his sister, Suzanne". Sunday Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-25. Cyrchwyd 23 April 2014.
  5. Hayward 1996, t. 193
  6. "Episode 3". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 23 Chwefror 2013.
  7. Ling, Thomas (4 Tachwedd 2018). "Doctor Who series 11 episode 5: meet the guest cast of The Tsuranga Conundrum". Radio Times.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]