Betsan Powys

Oddi ar Wicipedia
Betsan Powys
GanwydAwst 1965 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, blogiwr Edit this on Wikidata

Newyddiadurwraig Cymreig yw Betsan Powys (ganwyd Awst 1965),[1] sydd yn olygydd BBC Radio Cymru ar hyn o bryd.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd yng Nghaerdydd ond symudodd y teulu i Fangor pan ddaeth ei thad, y gweinidog a darlledwr R. Alun Evans, yn bennaeth y BBC yno.[2] Graddiodd mewn Almaeneg a Drama o Brifysgol Aberystwyth cyn gwneud MLitt yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ymunodd Powys â BBC Cymru fel newyddiadurwraig hyfforddedig ym 1989, cyn ymuno â'r ystafell newyddion yng Nghaerdydd fel gohebydd dwy-ieithog aml-gyfryngau. Symudodd i adrodd materion cyfoes ym 1994, gan adrodd fel gohebydd cudd.[3]

Dechreuodd Powys gyflwyno ar raglen Newyddion Cymraeg S4C, fel y prif ohebydd materion cyfoes Ewrop yn y gyfres Ewropa, ac ymunodd â Huw Edwards i gyflwyno rhaglenni arbennig yr etholiadau yn y Deyrnas Unedig. Daeth nôl o Lundain i Gaerdydd i weithio i BBC Cymru a magu ei phlant yn Gymraeg cyn ei phenodi'n Olygydd Gwleidyddol BBC Cymru yn 2006.[2]

Ar 1 Gorffennaf 2013, cychwynnodd Betsan ar ei swydd newydd fel Golygydd BBC Radio Cymru. Ar 12 Mehefin 2018 cyhoeddwyd y byddai'n gadael y gorfforaeth yn Hydref 2018.[4] Penodwyd ei olynydd, Rhuanedd Richards, y mis wedyn.[5]

Cychwynnodd fel cyflwynydd newydd Pawb a'i Farn ar 15 Gorffennaf 2020.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Manylion cyfarwyddwr Ty'r Cwmniau. Adalwyd ar 2 Chwefror 2016.
  2. 2.0 2.1  Holi ac ateb: Betsan Powys am "fynd amdani" (5 Gorffennaf 2013). Adalwyd ar 2 Chwefror 2016.
  3.  Betsan Powys. BBC Question Time (2003-09-17).
  4. Betsan Powys yn gadael fel golygydd Radio Cymru , BBC Cymru Fyw, 12 Mehefin 2018. Cyrchwyd ar 25 Gorffennaf 2018.
  5. Penodi Rhuanedd Richards yn olygydd newydd Radio Cymru , BBC Cymru Fyw, 24 Gorffennaf 2018.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]