R. Alun Evans
R. Alun Evans | |
---|---|
Ganwyd | 7 Medi 1936 ![]() Llanbryn-mair ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | darlledwr, gweinidog yr Efengyl ![]() |
Plant | Betsan Powys, Rhys Powys ![]() |
Awdur, darlledwr a gweinidog gyda'r Annibynwyr yw'r Parchedig Ddr R. Alun Evans (ganwyd 7 Medi 1936).[1]
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Magwyd Robert Alun Evans yn Llanbrynmair yn fab i'r Parchedig Robert Evans, a derbyniodd ei addysg yn Nyffryn Dyfi. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.[2]
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Fe'i hordeiniwyd yn weinidog yn Seion Llandysul, cyn troi at fyd darlledu. Ymunodd ag Adran Grefydd BBC Cymru yn 1964. Cafodd yrfa amrywiol gyda'r BBC - roedd yn cyflwyno'r rhaglen gylchgrawn dyddiol Heddiw o 1969–1979, ac yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn sylwebu ar seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol ac roedd yn sylwebydd pêl-droed cyntaf y gorfforaeth yn y Gymraeg.[2]
Wedi ymddeol yn 1996, bu'n astudio am radd Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, ac enillodd ei radd PhD am ei waith ar 'Dechrau a datblygu darlledu yng Ngogledd Cymru' yn 1999.
Ers y 1970au bu'n aelod o gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol a bu'n Gadeirydd ar y corff hwnnw o 1999–2001 a chafodd ei ethol yn Llywydd y Llys o 2002–2005. Penodwyd yn Gadeirydd cyntaf Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod, ac yn 2007, fe'i hanrhydeddwyd yn Gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ar ôl ymddeol o fyd darlledu, dychwelodd i'r weinidogaeth, a bu'n gwasanaethu gyda'r Annibynwyr yng Nghaerffili a Gwaelod-y-garth nes ei ymddeoliad ddiwedd 2014. Dr Evans yw Llywydd cyfredol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'n briod a Rhiannon ac mae ganddo ddau o blant, y cyfarwyddwr Rhys Powys a'r ddarlledwraig Betsan Powys.[3]
Cyhoeddiadau[4][golygu | golygu cod y dudalen]
- Stand By! (Cofiant Sam Jones, BBC, 1998)
- Y Rhuban Glas (cefndir un o brif gystadleuthau yr Eisteddfod Genedlaethol)
- Bro a Bywyd: Iorwerth Cyfeiliog Peate 1901-1982 (Barddas, 2003)
- Y Llwyd o'r Bryn (Bywgraffiad Llwyd o'r Bryn, 2008)
- Rhwng Gwyl a Gwaith (golygydd sgyrsiau radio; Gwasg Gee)
- Sglein (gol. sgyrsiau radio; Gwasg Gee 1992-1995)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Cofnodion Cyfarwyddwr Ty'r Cwmniau (Eisteddfod). Adalwyd ar 2 Chwefror 2016.
- ↑ 2.0 2.1 R. Alun Evans yw Llywydd Eisteddfod 2015 ym Meifod (17 Mawrth 2015). Adalwyd ar 2 Chwefror 2016.
- ↑ R Alun Evans yw Llywydd Eisteddfod Genedlaethol 2015 , Golwg 360, 17 Mawrth 2015.
- ↑ Rhestr Awduron Cymru - R. Alun Evans. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 2 Chwefror 2016.