Vincent Kane

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Vincent Kane
Ganwyd 13 Ionawr 1935 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth newyddiadurwr Edit this on Wikidata

Darlledwr ac awdur Cymreig yw Vincent Kane, OBE (ganwyd 13 Ionawr 1935, yng Nghaerdydd), a adnabyddir yn bennaf am ei yrfa gyda'r BBC. Bu'n gadeirydd Canolfan Ansawdd Cymru, Gŵyl Theatr Cerdd Ryngwladol a'r Cardiff Initiative.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1960, fe enillodd Kane wobr ddadlau 'Mace' papur newydd yr Observer, yn siarad gyda Mary O'Neill[1] yn cynrychioli Prifysgol Caerdydd.

Mae Kane yn fwyaf adnabyddus am ei waith fel cyflwynydd a chyfwelydd gyda'r BBC, lle fu'n gweithio am bron 36 mlynedd. Cyflwynodd raglenni teledu fel Wales Today a Week In Week Out ac ar y radio cyflwynodd Good Morning Wales a Meet For Lunch (BBC Radio Wales). Roedd yn adnabyddus am ei dechneg holi treiddgar a chadarn mewn arddull Paxmanaidd, er bod hynny flynyddoedd cyn i Paxman wneud ei enw ar deledu.[2] Cychwynnodd Kane fel gohebydd ar Wales Today yn 1962, ac fe aeth ymlaen i fod yn gyflwynydd cyntaf Week In Week Out yn 1964,[3] y rhaglen materion cyfoes wythnosol. Dychwelodd i gyflwyno Wales Today rhwng 1986 a 1993, gan adael BBC Wales yn 1998.

Ym Mehefin 1998 rhoddwyd iddo Order of the British Empire (OBE) am "wasanaethau i Ddarlledu yng Nghymru".[4]

Sefydlodd Kane Ganolfan Ansawdd Cymru a bron 30 mlynedd, gan ymddeol o'i rôl cadeirydd yn Rhagfyr 2012.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Winners of the John Smith Memorial Mace, 2004; Adalwyd 24 Tachwedd 2015
  2. Matt Thomas, 'We didn't have rules; During his remarkable broadcasting career, Vincent Kane interviewed Richard Burton and covered some of the biggest news stories of the 20th century', Western Mail, 15 Mai 2010.
  3. Vincent Kane, hippies, mini-skirts and a legend, BBC South West Wales; 13 Mai 2010.
  4. O.B.E., Atodiad i'r London Gazette, 11 Mehefin 1988.
  5. Eoghan Mortell, Vincent Kane’s long good-bye, Blog Click on Wales (Sefydliad Materion Cymru).