Ysgol Feddygol Gogledd Cymru

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
Enghraifft o'r canlynolprifysgol, coleg meddygol Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaBwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2022 Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
RhanbarthGwynedd Edit this on Wikidata

Ym Medi 2021 cynigiodd Llywodraeth Cymru y dylid datblygu ysgol feddygol newydd, annibynnol yng Ngogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor, sef Ysgol Feddygol Gogledd Cymru,[1] ymrwymiad a gynhwyswyd wedyn yn eu Rhaglen Lywodraethu.[2] Erbyn 2023 roedd Prifysgol Bangor, yn darparu blynyddoedd dau i bump o raglen Meddygaeth C21 ar ran Prifysgol Caerdydd.

Sefydlwyd Bwrdd Rhaglen yr Ysgol gan y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, a argymhellodd y dylai Ysgol Feddygol Gogledd Cymru dyfu i dderbyn 110 o ymadawyr ysgol a 30 o ddechreuwyr graddedig. Y nod yw dechrau'r cwrs yn 2024 yn dilyn cymeradwyaeth y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Trosolwg[golygu | golygu cod]

Yn 2004, sefydlwyd Ysgol Glinigol Gogledd Cymru ar y cyd rhwng y GIG yng Ngogledd Cymru a Chaerdydd, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam. I ddechrau, darparodd Ysgol Glinigol Gogledd Cymru gefnogaeth i 50 o fyfyrwyr mewn hyfforddiant meddygol yng Ngogledd Cymru. O 2011 ymlaen, roedd gan yr Ysgol 150 o fyfyrwyr ar unrhyw adeg benodol.[3][4]

Yn 2018, cychwynnodd Prifysgol Caerdydd eu hopsiwn Llwybr Addysg Gymunedol a Gwledig ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 3 ym Mhrifysgol Bangor.[5]

Yn 2019, dechreuwyd y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion Gogledd Cymru C21 Caerdydd (4 blynedd) ym Mhrifysgol Bangor.[6][7]

O fis Awst 2019, roedd myfyrwyr Meddygol Caerdydd a lwyddodd i gyflawni astudiaethau Blwyddyn 1 yng Nghaerdydd yn gallu gwneud cais i drosglwyddo i Brifysgol Bangor ar gyfer eu pedair blynedd olaf o astudio.[8]

Dysgir raglen C21 Meddygaeth Gogledd Cymru ar ran Prifysgol Caerdydd,[9][10] wedi’i seilio’n agos ar eu rhaglen meddygaeth C21 heblaw am y Llwybr Addysg Gymunedol a Gwledig Blwyddyn 3 (CARER).[11] Cynyddwyd nifer y myfyrwyr o 20 myfyriwr ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 i 25 yn 2021/22 a 40 yn 2022/23.[12][7][10] Yn y flwyddyn academaidd 2023-24, bydd Prifysgol Bangor yn cynnal blwyddyn olaf C21 Meddygaeth Gogledd Cymru. [13]

Cynigion[golygu | golygu cod]

Mae Plaid Cymru wedi galw am gampws meddygol yn y gogledd ers o leiaf 2001, gydag aelod cynulliad Plaid Cymru a'r doctor meddygol, Dai Lloyd yn dweud “Dim ond un ysgol feddygol rydyn ni wedi ei chael, er bod ail gampws yn Abertawe yn dod yn realiti. Ein polisi yw cael campws ym Mangor hefyd. Nid ydym yn cynhyrchu digon o feddygon. Mae gan Iwerddon, gyda'r un boblogaeth, chwech ysgol feddygol, ac mae gan yr Alban bump."[14]

Gwrthod cychwynnol[golygu | golygu cod]

Ym mis Gorffennaf 2017, gwrthododd llywodraeth Lafur Cymru alwadau am ysgol feddygol yng ngogledd Cymru. Cyfeiriodd aelod cynulliad Plaid Cymru Siân Gwenllian at hyn fel "brad ar bobl Bangor, Arfon a'r Gogledd i gyd". Dywedodd yr Athro Dean Williams o Brifysgol Bangor ym mis Mai 2017 fod y Brifysgol yn barod i sefydlu ysgol feddygol newydd i'r Gogledd. Yn lle hynny dywedodd ysgrifennydd iechyd Cymru, Vaughan Gething "Gall cynllun addysg a hyfforddiant yng ngogledd Cymru trwy gydweithio agosach rhwng prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor sicrhau cynnydd mewn cyfleoedd ar gyfer addysg feddygol yn y gogledd." Mewn ymateb, dywedodd Gwenllian, "Mae'r angen am ysgol feddygol ym Mangor yn glir, ac y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cydnabod hyn.

"Ceisiodd Llywodraeth Cymru gladdu'r ergyd hon i fyfyrwyr meddygol a chleifion yn y gogledd ar ddiwrnod olaf busnes y llywodraeth.

"Brad ar bobl Bangor, Arfon a'r gogledd i gyd yw hyn."[15]

Ym mis Medi 2017 galwodd Plaid Cymru am 40 o fyfyrwyr meddygol gael eu hyfforddi yng ngogledd Cymru pe bai Prifysgol Bangor yn cydweithio ag ysgolion meddygol y de. Dywedodd Rhun ap Iorwerth mai nod Plaid Cymru oedd ffurfio ysgol feddygol annibynnol ym Mangor, "Mae ein cynigion yn rhoi ffordd ymlaen inni gyrraedd y nod o ddarparu gwasanaethau ysbyty cryf a chynaliadwy ar draws gogledd Cymru."[16]

Cynlluniau presennol[golygu | golygu cod]

Yn 2020 roedd llywodraeth Cymru wedi ffurfio grŵp ymchwil i asesu dichonoldeb ysgol feddygol annibynnol ym Mangor.[17] Derbyniodd y cysyniad o ysgol feddygol ar gyfer Gogledd Cymru gefnogaeth gan yr holl brif bleidiau yn ystod etholiad Senedd 2021.

Ym mis Mai 2021, dywedodd Jo Whitehead, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y gallai Ysgol Feddygol a Gwyddorau Iechyd newydd yng Ngogledd Cymru gael ei chyflawni erbyn 2025. Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething ei fod eisiau grŵp i asesu a yw ysgol feddygol yng Ngogledd Cymru yn “ymarferol ac yn gyraeddadwy”. Mae grŵp dan gadeiryddiaeth yr Athro Elizabeth Treasure, wedi bod yn edrych ar y syniad ers hydref 2020.[18] Ychwanegodd Siân Gwenllian o Blaid Cymru, “Rwyf i a Phlaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu ar y mater hwn ers blynyddoedd, ac roedd yn rhan annatod o fy ymgyrch ailethol yn etholiadau’r Senedd.”

“Yn 2017 sicrhaodd Plaid Cymru ymrwymiad gan y Llywodraeth flaenorol i gyllideb i gychwyn y swydd a nawr mae bron i 40 o ddarpar feddygon wedi bod yn derbyn rhan o’u hyfforddiant ym Mangor.” [19]

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, ym mis Rhagfyr 2022 bod “nifer y derbyniadau ar gyfer ysgol feddygol Bangor wedi’u cymeradwyo, ac mae cyllid hefyd wedi’i gymeradwyo ar gyfer 140 o fyfyrwyr y flwyddyn unwaith y bydd yr ysgol yn cyrraedd y capasiti optimwm.” Ychwanegodd Morgan fod llythyr o sicrwydd wedi’i anfon at gydweithwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol ym mis Tachwedd a fyddai’n “caniatáu i Brifysgol Bangor barhau â’u momentwm ymlaen drwy’r broses achredu.” Ychwanegodd Morgan am y posibilrwydd o sicrhau bod cyfran o fyfyrwyr yn siarad Cymraeg, “Rydym yn ymwybodol iawn bod angen i ni fod yn ymwybodol o faint o recriwtio fydd o ran niferoedd sy’n siarad Cymraeg … gwn fod ffocws penodol wedi’i roi ar hynny, gyda gwaith yn cael ei wneud yn y maes hwnnw ar hyn o bryd. Felly, rwy’n falch o ddweud bod hynny’n rhywbeth y maent yn ei gymryd o ddifrif.”[20]

Cadarnhad[golygu | golygu cod]

O fis Medi 2024, bydd Prifysgol Bangor yn cynnig eu rhaglen Meddygaeth annibynnol eu hunain gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn amodol ar gymeradwyaeth Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC). Bydd Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs mynediad ysgol 5 mlynedd a chwrs mynediad graddedig 4 blynedd. Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithredu fel gwarantwr wrth gefn fel sy'n ofynnol gan y GMC. Bydd myfyrwyr yn gallu astudio’r rhan fwyaf o elfennau’r cwrs yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg.[9]

Bydd Ysgol Feddygol newydd Gogledd Cymru yn dilyn rhaglen C21 Gogledd Cymru Prifysgol Caerdydd, wedi’i haddasu i ar gyfer anghenion natur cymysg gwledig a threfol y rhanbarth, gan gofleidio’r iaith Gymraeg a diwylliant lleol.[9] Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu hyd at 140 o fyfyrwyr y flwyddyn a bydd cynnydd graddol yn nifer y myfyrwyr a hyfforddir nes cyrraedd cyfanswm o 670 o fyfyrwyr erbyn 2033. Bydd hyn yn caniatáu amser i asesu a gwerthuso ansawdd yr addysgu a phrofiad myfyrwyr. Bydd ysgol feddygol gogledd Cymru yn cael ei sefydlu mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, meddygon cyffredinol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr gofal iechyd sylfaenol.[21][22]

Pwrpas[golygu | golygu cod]

Un o brif nodau sefydlu'r ysgol feddygol yw recriwtio staff meddygol yng ngogledd Cymru. Mae nifer y meddygon cyffredinol wedi cynyddu ychydig dros Gymru ond mae denu meddygon i weithio yng ngogledd Cymru, yn draddodiadol wedi bod yn her. Ar hyn o bryd mae mwy na 28 o swyddi meddygon cyffredinol llawn amser gwag sy'n cael eu llenwi gan staff locwm.[23]

Ysgolion uwchradd[golygu | golygu cod]

Ers 2016, mae doctoriaid yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd wedi arwain disgyblion Blwyddyn 12 ac 13 mewn ysgolion gwladol lleol gyda’u ceisiadau Meddygaeth a Deintyddiaeth. Yn 2023, cymerodd 40 o fyfyrwyr ran yn rhaglen "Seren Medics" gydag Ysbyty Glan Clwyd, ac yna ehangwyd y rhaglen i Wynedd a Fflint.[24]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Written Statement: North Wales Medical School Task and Finish Group – Phase Two Report (10 September 2021)". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-05.
  2. "Programme for government: update". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-05.
  3. Live, North Wales (2007-11-07). "School brings more doctors to region". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-05.
  4. "Consultant Survey gives overwhelming endorsement to North Wales Clinical School | News and Events | Bangor University". www.bangor.ac.uk. Cyrchwyd 2023-04-05.
  5. "Introducing the Community and Rural Education Route (CARER) programme". Cardiff University (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-05.
  6. "Graduate Entry Medicine". Bangor University (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-19.
  7. 7.0 7.1 "Gogledd Cymru "gam yn nes" at weld ysgol feddygol lawn yn cael ei sefydlu". Golwg360. 2021-09-10. Cyrchwyd 2023-02-04.
  8. Hatch, Sarah. "Remedy" (PDF). Cardiff University School of Medicine.
  9. 9.0 9.1 9.2 "North Wales Medical School: Medicine and Graduate Entry Medicine (BM BS)". Bangor University (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-26.
  10. 10.0 10.1 "Croesawu buddsoddiad mewn ysgol feddygol yn y gogledd". newyddion.s4c.cymru. Cyrchwyd 2023-02-04.
  11. "Medicine Graduate Entry (MBBCh)". Cardiff University (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-25.
  12. "North Wales medical degree programme to double intake from next year". Cardiff University (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-26.
  13. "North Wales Medical School: Medicine and Graduate Entry Medicine (BM BS)". Bangor University (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-26.
  14. Dobson, R. (2001). "Plaid Cymru demands third medical school campus in Wales". BMJ 322 (7297): 1269. PMC 1120382. PMID 11375227. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1120382.
  15. "Llywodraeth yn gwrthod sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd". BBC Cymru Fyw. 2017-07-18. Cyrchwyd 2023-01-26.
  16. "Bangor medical training call to boost doctor numbers". BBC News (yn Saesneg). 2017-09-08. Cyrchwyd 2023-02-04.
  17. "Ymchwilio i gynllun ysgol feddygaeth gogledd Cymru". BBC Cymru Fyw. 2020-09-26. Cyrchwyd 2023-02-04.
  18. "New medical school for North Wales could be ready by 2025". North Wales Chronicle (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-25.
  19. Aye, The Bangor (2021-05-21). "Medical school announcement "great news for Bangor"". The Bangor Aye (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-04.
  20. "New Bangor medical school: funding approved for 140 students a year". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-12-19. Cyrchwyd 2022-12-19.
  21. "New north Wales medical school to start training Wales' future doctors". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-26.
  22. Lennox, Aaran (2023-01-26). "New North Wales medical school set to train hundreds of country's future doctors". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-04.
  23. "Bangor University: Medical school to tackle doctor shortage". BBC News (yn Saesneg). 2023-01-26. Cyrchwyd 2023-01-26.
  24. "Budding medics thriving in north Wales". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-27.