Piso

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Merch yn piso

Mae Piso neu wneud dŵr yn rhan o'r system iwrein pan fo'r corff dynol (a llawer o anifeiliaid eraill) yn cael gwared o ddŵr o'r corff. Mae "piso" yn hen air Cymraeg a ddefnyddir yn naturiol iawn am y weithred yma o gael gwared â dŵr o'r corff. Ceir hefyd geiriau gwneud am y weithred o biso gan gynnwys "ysgarthu", a grewyd gan ysgolheigion o'r gair "carthu" gan eu bont yn credu fod angen dau gasgliad gwahanol o eiriau: geiriau llafar naturiol a geiriau gwahanol ar gyfer y byd meddygol ac academia. Fel arfer mae dyn yn sefyll i biso a merch yn eistedd neu'n mynd ar ei chwrcwd.

Yn ôl traddodiad, mae piso cynta'r bore yn beth da i wella pigyn clust; felly hefyd dail cypreswydden.

Adeilad pwrpasol i'r gorchwyl[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mhob adeilad drwy'r byd ceir llefydd arbennig i biso a elwir yn lle chwech neu'n "dŷ bach". Arferent fod y tu allan i'r adeilad ond yn y rhan fwyaf o wledydd gwâr mae'r lle chwech y tu fewn i'r adeilad.

Gwrthrychau i dderbyn y piso[golygu | golygu cod y dudalen]

Dau bo pi-pi o Ffrainc.

Mae'r "po pi-pi" yn declyn a ddefnyddir fel arfer i gasglu piso dros nos a'i wagio'n y bore. Y lle arferol i'w gadw yw o dan y gwely - cyn i wlâu (neu welyau) "difan" gyrraedd!

Dywediadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir llawer o ddywediadau'n cynnwys y gair gan gynnwys:

  • Piso sy'n fater pwysig
  • Rhy hwyr codi pais ar ôl piso
  • Cred rhai fod cyffwrdd blodyn dant y llew yn peri i chi wlychu'r gwely a gelwir y blodyn hwn (fel ag yn y Ffrangeg hefyd) fel "Blodyn Pi-pi'n y Gwely".

Piso fel arwydd o sarhau person[golygu | golygu cod y dudalen]

Cartwn yn awgrymu fod yr arfer o dreisio carcharorion rhyfel yn ddigwyddiad dyddiol gan aelodau o fyddinoedd Prydain a'r UDA.

Yn Ionawr 2012 cywilyddiwyd y byd gan luniau graffig o bedwar "marine" yr UD yn piso ar gyrff tri dyn yn Afghanistan; credir mai aelodau o'r Taliban oedd y meirwon.[1]

Delweddau graffig[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Gwefan Saesneg CBS News; adalwyd 14-01-2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-14. Cyrchwyd 2012-01-14.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am piso
yn Wiciadur.